O safbwynt y diwydiant plastigau, mae modd goresgyn heriau drwy fod yn arloesol. Mae hyn yn sicr yn wir yn achos Colour Tone Masterbatch o Fedwas. Os mai pris sydd wedi bod yn gyfrifol yn y gorffennol am y ffaith nad yw sypiau rheoli y gall tonfeddi NIR eu gweld wedi'u mabwysiadu'n eang ar gyfer deunyddiau pecynnu plastig du, yna dylid bod yn falch bod y cwmni yn cyhoeddi ei fod yn torri tir newydd...
Cynhyrchydd marmalêd yn cael hwb gwerthfawr I'r busnes drwy ennill tair medal aur
Mae Radnor Preserves yn blasu llwyddiant mawr ar ôl ennill tair gwobr aur arall mewn cystadleuaeth fwyd nodedig. Yn gwmni o Bowys, mae Radnor Preserves wedi ennill tair Gwobr Aur arall yn y 13eg seremoni y World’s Original Marmalade Awards. Enillodd dair o'r gwobrau gorau yn y diwydiant marmalêd am ei Bara Brith Marmalade with Welsh Rum, ei Lime & Laver Marmalade a'i Smoky Bourbon Marmalade - pob un wedi ennill marciau uchel am eu...
Cwmni iechyd digidol yn derbyn cyllid Innovate Uk.
Mae Bond Digital Health, sy'n datblygu meddalwedd a thechnoleg arall i gefnogi darparwyr iechyd, ymarferwyr a chleifion, wedi derbyn buddsoddiad ecwiti preifat o £200,000 yn ogystal â grant o £68,583 gan Innovate UK. Mae'r buddsoddiad ecwiti o £200,000, o dan gyngor Severn Seed Finance, rhan o gylch cyllido a gynlluniwyd o £1miliwn a caiff ei ddefnyddio i gefnogi twf y busnes, gan gynnwys creu swyddi newydd. Bydd y grant, a ddyfarnwyd fel rhan o gystadleuaeth...
Un o gleientiaid y Rhaglen Cyflymu Twf yn cael ei dewis ar gyfer hysbyseb Banc Datblygu Cymru.
Mae Banc Datblygu Cymru wedi dewis Jane Wallace-Jones ar gyfer un o’i ymgyrchoedd marchnata diweddar. Mae cwmni Jane, Something Different Wholesale o Abertawe, sy’n mewnforio ac yn cyfanwerthu anrhegion, wedi cael cyllid a chymorth i farchnata, i dyfu yn unol â'r anghenion ac i reoli data o dan y Rhaglen Cyflymu Twf. Mae’r Banc Datblygu yn cynnig cyllid hyblyg sy’n amrywio o £1,000 i £5 miliwn i fusnesau yng Nghymru. Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu...
Mae Pan Stone Europe am dyfu, diolch i farchnad allforio lwyddiannus.
Mae trosiant Pan Stone Europe ar fin taro'r £3 miliwn y flwyddyn ac mae tros 70 y cant o'r trosiant hwnnw'n dod o allforion i Iwerddon ac Ewrop. Â'r cwmni'n derbyn cymorth Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru, mae'r busnes teuluol wedi cyhoeddi ei fod am anelu at £6miliwn o refeniw erbyn 2121. Mae'r busnes o Wrecsam yn dosbarthu peiriannau mowldiau cywasgu a chwistrellu ar gyfer prosesu rwber, silicon a silicon gwlyb i'r sectorau olew...
Cwmni arall sy'n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn ennill Gwobr y Frenhines
Mae'r Temporary Kitchen Company, sy'n cynhyrchu ceginau ac ystafelloedd ymolchi dros dro, wedi ennill Gwobr y Frenhines am Fenter: Arloesi, sy'n hwb aruthrol i'r cwmni. Mae'r cwmni o Lannau Dyfrdwy yn darparu gwasanaeth gwych drwy gyflenwi llu o geginau ac ystafelloedd ymolchi dros dro unigryw ac arloesol sy'n caniatáu i bobl aros yn eu cartrefi eu hunain ar ôl llifogydd neu dân. Mae'r cwmni hefyd yn gwneud gwaith adnewyddu ac ailwampio. Yn ogystal â darparu...
Mae Rhaglen Twf Cyflymach Busnes Cymru yn pasio 3,000 o garreg filltir swyddi
Mae’n bleser gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru gyhoeddi ei bod bellach wedi pasio’r garreg filltir o ran creu 3000 o swyddi. Mae hyn yn cynnwys y 13 o gwmnïau sydd wedi creu dros 50 o swyddi yr un. Mae’r Rhaglen hefyd wedi helpu busnesau i godi gwerth £104 miliwn mewn cyllid buddsoddi a chreu gwerth £59 miliwn o allforion. Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
App Stryd Fawr Ddigidol yn Derbyn Buddsoddiad o £200,000
Mae App sydd wedi’i ddylunio i adfywio, addasu a thrawsffurfio strydoedd mawr ar draws y wlad wedi derbyn buddsoddiad o dros £200,000. Mae NearMeNow wedi derbyn cyd-fuddsoddiad ecwiti, wedi’i arwain gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi buddsoddi £150,000, gyda £60,000 pellach wedi’i dderbyn gan fuddsoddwyr preifat. Mi fydd y buddsoddiad yn galluogi’r busnes cychwynnol o Gaerffili, i ddatblygu peilot o’i app gwbl ddwyieithog, Gymraeg a Saesneg, sy’n bwriadu troi strydoedd mawr yn ddigidol. Victoria Mann...
Anrhydedd i dri busnes sy'n cael help y Rhaglen Cyflymu Twf.
Mae tri busnes sy'n cael help Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ennill Gwobr Fenter y Frenhines. One Team Logic - Gwobr Fenter y Frenhines: Arloesi 2018 Quick Link - Gwobr Fenter y Frenhines: Arloesi 2018 Laser Wire - Gwobr Fenter y Frenhines: Allforio 2018 Gwobrau Menter y Frenhines yw'r gwobrau uchaf eu bri i fusnesau yn y DU. Maen nhw'n cydnabod ac yn dathlu llwyddiant busnesau ym mhob rhan o'r DU mewn meysydd fel...
Touch Biometrix Ar Y Trywydd Iawn I Dyfu’n Gyflym
Mae Touch Biometrix, cwmni o'r Gogledd sy'n arbenigo mewn datblygu synwyryddion olion bysedd yn hynod falch o fedru cyhoeddi ei fod bellach yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r rhaglen, sy'n cael ei darparu gan y Consortia ar gyfer Rhagori (sy’n cynnwys Winning Pitch ac Impact Innovation), yn cynnig...