CatSci, cwmni ymchwil a datblygu prosesau o Gaerdydd yn ennill gwobr Rhagoriaeth yn y Maes Fferyllol.
Mae CatSci, sefydliad ymchwil contractau hyblyg sy’n tyfu’n gyflym ac sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, wedi cyrraedd y brig yn y Gwobrau CPhl Pharma byd-eang drwy ennill yn y categori clodfawr Rhagoriaeth yn y Maes Fferyllol: Gwasanaethau Contract a Chontractau Allanol. Mae derbyn un o wobrau pwysicaf y diwydiant fferyllol yn adlewyrchu gwasanaethau ymchwil a datblygu prosesau eithriadol CatSci. Cafodd CatSci gydnabyddiaeth am y defnydd arloesol o fiogatalyddu i wneud gwelliannau sylweddol i gynaliadwyedd amgylcheddol...