Yr asiantaeth greadigol sydd ar fin llwyddo gyda chymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Mae hi’n anodd cychwyn busnes newydd, ond os ydy eich syniad yn ddigon da a’ch bod yn ddigon penderfynol i wneud iddo weithio, yna gallwch chi lwyddo. Mae Ashley Young newydd gamu i fyd busnes, drwy sefydlu The Young Creative Agency. Mae’r busnes yn Sili ym Mro Morgannwg ac yn cynnig amrywiaeth o atebion creadigol i fusnesau, gan gynnwys brandio, fideo, ffotograffiaeth a dylunio. Yn ein blog diweddaraf, mae Ashley yn egluro’r weledigaeth sydd y...