Mae Ian yn weithiwr proffesiynol creadigol ac arloesol sydd wedi ennill sawl gwobr ac sydd â phrofiad ymarferol o ddosbarthu ar-lein ond hefyd yn arloesi ym maes dosbarthu cyngor ariannol o bell drwy fod wedi creu a datblygu platfform arloesol ar gyfer Cyngor o Bell sydd wedi ennill gwobrau. Enw'r cwmni yw Lower My Charges.com ac mae wedi'i sefydlu gan Ian a Peter Deane, arbenigwr Marchnata sydd wedi ennill sawl gwobr. Fel y mae'r enw'n ei awgrymu, ei nod yw darparu gwasanaeth i ostwng taliadau a chostau sydd wedi'u codi ar gynnyrch Pensiynau a Buddsoddi i ariannu cyngor ariannol - cynllun Lower My Charges yw rhoi cyngor ariannol i bobl pan y maent ei angen am gost isel trwy ddefnyddio cyfuniad o'u technoleg eu hunain a chynghorydd dynol.  Mae gan y cwmni 5 aelod staff ac yn bwriadu ychwanegu 3 arall ar unwaith gan anelu at lansio'n llawn yn y Flwyddyn Newydd.
 

 

Mae Ian wedi sefydlu sawl gwasanaeth ariannol arloesol sydd wedi ennill sawl gwobr o'r dechrau gan gynnwys un gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality felly roedd yn brofiadol - ar y cychwyn roedd yn credu y byddai hyn, yn seiliedig ar ei ymdrechion yn y gorffennol, yn ddigon i'w gyflwyno i fuddsoddwyr a byddent yn cefnogi syniad arloesol nesaf Ian - ond ni ddigwyddodd hyn.  Yna un diwrnod cyfarfu Ian â'r cyn Reolwr-gyfarwyddwr JP Morgan sy'n rhedeg swyddfa breifat i unigolion cyfoethog iawn - ac edrychodd i fyw llygaid Ian gan ofyn a oedd ganddo yr hyn oedd ei angen i lwyddo - pam na wnei di fwrw ati - felly gwnaeth Ian hynny drwy lansio gwasanaeth cyn cofrestru i addysgu cwsmeriaid am y costau - roedd yn achos o weld drosoch eich hunain ac unwaith oedd y wefan wedi ei chreu ac yn egluro'r stori sut y gallai costau sy'n cael eu hychwanegu at Bensiynau a Buddsoddiadau gael effaith ar eich cyfoeth, dechreuodd hyn fod yn berthnasol i'r farchnad dorfol gan arwain at filoedd o bobl yn ein dilyn ar amrywiol gyfryngau cymdeithasol ac yn cofrestru ymlaen llaw am y gwasanaeth.


Rydym yn mynd i ddefnyddio ein technoleg ein hunain i gysylltu â chwsmeriaid ar-lein o bell mewn sesiynau cynghori ariannol diogel sy'n rhoi'r un profiad, os nad yn well na chyfarfod wyneb yn wyneb. Rydym wedi gwneud hyn sawl tro bellach ac rydych yn dysgu rhywbeth newydd bob tro drwy weithio allan yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd ddim yn gweithio.

Rydym yn gwmni newydd ond roedd sicrhau buddsoddiad mawr gan fuddsoddwr dylanwadol yn un ohonynt - un arall oedd gweld y freuddwyd yn dod yn wir - gallwch bellach weld yr hyn sy'n digwydd, sydd wedi dylanwadu ar nifer o bobl i ddod i ymuno â ni i wneud gwahaniaeth mawr drwy helpu pobl gyda'u harian a'u cyfoeth a'u lles  personol. Diwrnod arall oedd cael ein gwahodd i raglen Moneybox y BBC ar Radio 4 gan neb llai na Paul Lewis.


Mae wedi bod yn wych - mae Mandy Weston ein mentor wedi helpu inni dderbyn cymorth ariannol pan oedd ei angen arnom er bod y Rhaglen Cyflymu Taf a Chanolfan Arloesi Menter Cymru wedi bod yn wych diolch i Jamie Mcgowen am greu amgylchedd ble y mae busnesau newydd yn cael hwb gwych i lwyddo a lansio eu syniad. Ein cynllun gyda rhagor o gymorth gan ein buddsoddwyr a Llywodraeth Cymru yw i greu 75 o swyddi eraill o safon uchel (cyflogau o dros 30 mil y flwyddyn) yn y 3 blynedd nesaf.

Prif Gynghorion

  1. Os oes gennych syniad, bydd yn parhau yn syniad heb ichi gymryd y cam cyntaf
  2. Peidiwch â disgwyl am Fuddsoddiad, gwnewch rhywbeth - gwneud i rhywbeth ddigwydd - mae unrhyw beth yn bosibl os ydych yn ddigon penderfynol
  3. Mae'n iawn gwneud camgymeriadau ond i ddysgu ohonynt ac addasu'n gyflym
  4. Amgylchynu eich hun â phobl bositif - osgoi pobl sy'n dweud na fedrwch wneud pethau.
  5. Bod yn chi eich hun a chael eich arwain drwy wneud y peth iawn - pan fydd gennych dîm da o'ch amgylch edrychwch ar eu holau gan helpu iddynt gyflawni pethau gwych.

    Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page