Cefndir y BusnesAp yw NearMeNow sy'n dod â busnesau lleol at ei gilydd mewn un lle ar-lein: Mae'n gwthio hysbysebu blaen siop y tu hwnt i'r ffiniau traddodiadol i ddwylo defnyddwyr ffonau clyfar yn y gymuned leol, boed hwy gartref, yn y swyddfa neu mewn siop goffi gerllaw. Mae'n helpu cwsmeriaid i wneud y penderfyniad o ble i siopa cyn gadael gartref a sicrhau bod y rhai sydd eisoes ar y stryd fawr yn manteisio ar bob cyfle cyn gadael, gan sicrhau fod pobl yn siopa'n lleol am amser hwy. Gyda nodwedd negeseua sydd wedi'i alw yn y 'WhatsApp ar gyfer busnes', gall gwsmeriaid anfon negeseuon drwy gyffwrdd eicon y busnes ar fap, sy'n golygu nad oes yn rhaid chwilio am rif ffôn y busnes ar eu cyfrif cyfryngau cymdeithasol. I gwblhau y pecyn digidol, caiff nodwedd drafodiadol ei chynnwys i alluogi cwsmeriaid i brynu nwyddau neu wasanaethau ar y stryd fawr o bell. Unwaith eich bod ar y stryd fawr mae'r ap NearMeNow yn trawsnewid yn brofiad digidol gwirioneddol ryngweithiol trwy roi darlun cyfrifiadurol inni o'r stryd fawr sy'n cynnwys popeth. Mae'r hysbysebu yn ymddangos fel teils dros y darlun o'r byd ar y camera, gan ganiatáu i gwsmeriaid ryngweithio a'r hyn sydd o'u hamgylch.

Victoria Mann yw yr Entrepreneur y tu ôl i NearMeNow. Wedi gadael Prifysgol Abertawe gyda Diploma mewn Ystadegau, gweithiodd Victoria ym maes Gwasanaethau Ariannol am 10 mlynedd, ac wedi iddi golli ei swydd, ail-hyfforddodd fel athro uwchradd Mathemateg a TG ym Mhrifysgol De Cymru, ac yn treuliodd dair blynedd yn dysgu Mathemateg, TG ac Astudiaethau Busnes drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Llanhari.
 

 

Yn ystod ei hamser yn Ysgol Llanhari, cafodd Victoria y syniad ar gyfer Ap NearMeNow yn dilyn ymweliad â siop trin gwallt un bore yn ystod yr wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol: Roedd pedair yn gweithio yn y siop a tair cadair wag, wnaeth iddi ddechrau meddwl am atebion i helpu i lenwi'r cadeiriau gwag a chynhyrchu refeniw o gyfleoedd wedi'u colli ar y stryd fawr. Wedi gadael y byd dysgu yn 2015, dechreuodd Victoria ar ei gwaith ymchwil yn ystod blwyddyn yn yr Iwerddon. Wedi iddi ddychwelyd yn 2016, dechreuodd Victoria chwilio am gefnogaeth.

Cysylltodd Victoria â Busnes Cymru gan gyfarfod Jay Palmer. Awgrymodd Jay ddilyn yr hyfforddiant BOSS ar-lein, ac anfonodd gynllun busnes gan argymell trafodaethau pellach am fenthyciad micro. Teimlai Victoria ei bod angen mwy o gymorth wedi'i deilwra ar gyfer busnes sydd â'r potensial o ddatblygu yn gyflym, ac nid oedd yn ymwybodol o'r Rhaglen Cyflymu Twf bryd hynny, felly gwnaeth gais am raglen eSpark gyda'r Natwest. Ar yr un pryd, daeth i wybod am ICE yng Nghymru drwy ffrind, gan gyfarfod â Jamie McGowan. Dyma ble y dechreuodd cymorth Busnes Cymru wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Roedd y sbardunwr cyn-refeniw (Sbardunwr TownSquare) yn werthfawr tu hwnt ac yn hanfodol i lwyddiant cynnar NearMeNow. Roedd cymuned ICE Cymru yn ogystal â gweithdai wedi'u teilwra, cyfarfodydd bwrdd a hyfforddiant busnes, wedi'i gyfuno â'r syniadau a'r cyngor ar gyflwyno a gafwyd yn eSpark o gymorth i ddatblygu ei busnes. Manteisiodd Victoria i'r eithaf ar yr holl gymorth busnes oedd ar gael iddi mewn amser byr. Bu i'r rhwydwaith enfawr a ddaeth gyda bod yn rhan o'r ddwy gymuned olygu bod NearMeNow wedi datblygu, a cafodd fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio oedd yn wahanol ar draws y ddau ddarparwr.

Yn dilyn buddsoddiad ar y cyd o dan arweiniad Banc Datblygu Cymru ym mis Ionawr 2018, lansiodd NearMeNow ei stryd fawr ddigidol gyntaf yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg ym mis Mai 2018. Cafodd Victoria ei henwi yn un o 'Rising Starts' Business Insider Wales 2018 ac fel un a oedd ar restr fer y Start-Up Entrepreneur  ar gyfer Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr NatWest, ac mae'r canlyniadau rhanbarthol yn cael eu cyhoeddi ar 22ain Tachwedd 2018. Mae NearMeNow wedi creu llwyddiant hefyd yn y Bont-faen, y gymuned beilot, gan eu bod ar y rhestr fer fel Great British High Street trwy ddefnyddio Ap NearMeNow, oedd yn sail i'w cais. Roedd NearMeNow yn llwyddiannus yn nigwyddiad Pitch@Palace ar Daith Ei Uchelder Brenhinol Dug Efrog yn Wrecsam, a bydd yn bresennol yn y Bootcamp yng Nghaergrawnt ar Hydref 4ydd a Phalas Buckingham ar 7fed Tachwedd.   Mae NearMeNow yn falch iawn o lansio yng Nghanol Dinas Caerdydd ar Fedi 24ain, gan gynnal y lansiad yn Ffair y Glasfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae NearMeNow yn treialu eu pecyn gyda myfyrwyr ac yn recriwtio Llysgenhadon ar gyfer eu brand ledled y DU.

 

 

Beth fyddent yn ei wneud yn wahanol? Rwy'n adolygu ac yn ail-werthuso'n rheolaidd. Os ydych yn ystyried yn gyson ble rydych ac yn sicrhau bod eich cynllun busnes yn ddeinamig a hyblyg ni fydd yn rhaid ichi ystyried gwneud rhywbeth yn wahanol gan y daw yn broses naturiol, sy'n cael ei hail-adrodd.

Diwrnod gorau eu busnesRhannu ein llwyddiant gyda'm merch 12 oed yn Noson Gala Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr gan Natwest.
Ydyn nhw'n defnyddio'r Gymraeg yn eu busnes? Os felly, sut wnaeth hynny eu helpu?Mae'r 4 sy'n cael eu cyflogi yn rhugl. Cyflogwyd aelod staff dros yr haf, ac roedd hithau hefyd yn rhugl. Lansiwyd yr Ap yn ddwyieithog. Roedd fersiwn gyntaf yr Ap yn rhoi yr un pwysigrwydd i'r Gymraeg a'r Saesneg. Gan bod gan ein busnes ap a gwefan gwbl ddwyieithog, a staff dwyieithog, roedd modd inni weithredu yn y ddwy iaith a newid yn ôl ac ymlaen yn aml.

Cefnogaeth Rhaglen Twf CyflymYn dilyn y Cyflymydd cyn refeniw, aethom ymlaen i'r Rhaglen Cyflymu Twf. Cawsom gymorth hyfforddi busnes parhaus gan Lynn Elvins ein Hyfforddwr Sbarduno Busnes gyda dau ddiwrnod o gymorth.  Y cam nesaf oedd y fideo hyrwyddo a chawsom becyn gwaith o gymorth ar  negeseuon allweddol a throsglwyddo ein cysyniad gan Darran Hughes.  Yn dilyn hyn cawsom gymorth gan Greenaway Scott, Partner Aur, roddodd gyngor ar ein cylch buddsoddi arian dechrau busnes. Roedd arnom angen contract masnachol i gloi, felly cafodd y pecyn ei ymestyn i gynnwys y contract hanfodol. 

Cysylltwyd â Winning Pitch drwy ein trefnydd, Mandy, am gymorth i hawlio'r credydau treth ymchwil a datblygu drwy Broomfield Alexander, ond cafodd hyn ei wrthod gan ein bod wedi derbyn cymorth sylweddol hyd yma.

Prif Gynghorion

  1. Dechrau meddwl am dîm yn gynnar. Nodi eich pwyntiau gwan a recriwtio tîm i lenwi'r bylchau hynny.
  2. Os ydych ar Raglen Cyflymu Twf, y peth olaf rydych eisiau yn ystod cyfnod o dwf cyflym yw cefnogi aelodau newydd ar y tîm, felly dylech recriwtio eich tîm cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl. Bydd angen i chi dderbyn cymorth gan eraill ar adegau.
  3. Mae rhaglenni cymorth ar gael ar gyfer hynny, sy'n: eich cynorthwyo. Mae'n rhaid i'r awydd, yr uchelgais a'r gwaith ddod oddi wrthych chi.
  4. Amgylchynu eich hun â phobl sy'n meddwl yn yr un modd, gan gynnwys y bobl hynny fydd yn herio eich rhagdybiaethau a bod yn ffrind beirniadol.
  5. Os nad yw rhywbeth yn gweithio'n iawn. Gweithredu'n gyflym i'w newid. Byddwch yn gwneud camgymeriadau, ac yn gwneud penderfyniadau gwael, ond daw methiant ond os nad ydych yn sylwi ar y rhain yn fuan ac yn yn gwneud newidiadau yn unol â hynny.

    Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page