Yn ein cyfres blog newydd, rydym yn siarad gyda un o'r busnesau rydym yn gweithio â hwy i ddysgu mwy am eu taith, eu huchelgeisiau a’u hawgrymiadau gwych ar gyfer llwyddiant eu busnes.

 

O dan y chwyddwydr gyntaf mae Do-IT Solutions.  Wedi ei sylfaenu gan yr Athro Amanda Kirby a'r Dr Ian Smythe, mae Do-IT Solutions o Gaerdydd yn gweithio gyda sefydliadau, gan gynnig gwasanaethau i gefnogi pobl a allai fod yn niwroamryiol - er enghraifft, y rhai hynny sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau. Fel arbenigwyr dysgu ac anabledd, mae yr AthroKirby a Dr Smythe wedi darparu rhaglenni ymchwil ar raddfa fawr, wedi cyhoeddi papurau a llyfrau wedi'u hasesu gan gydweithwyr ac wedi darparu hyfforddiant ar lefel Meistr i dros 50,000 o weithwyr proffesiynol.

 

 

Yma mae'r Athro Kirby yn rhannu'r hyn y mae hi wedi'i ddysgu ar ei thaith fusnes hyd yn hyn.

 

Dywedwch wrthym am Do-IT Solutions

Wedi'i ysgogi gan effeithiau negyddol eithrio cymdeithasol, dechreuom gydag ymgyrch i nodi amodau newroamrywiol ar gyfer pobl ar ymylon cymdeithas.

Mae Do-IT yn gweithio gyda sefydliadau yn y system droseddu a chyfiawnder ieuenctid, elusennau, prentisiaethau a darparwyr hyfforddiant, ysgolion, cyflogwyr a sefydliadau arbenigol eraill.

Rydym yn cynnig amrywiol becynnau cymorth - y Proffiliwr Do-IT a Proffiliwr Gweithle Niwroamrywiol Do-IT yn eu plith. Mae'r Proffiliwr Do-IT yn feddalwedd fel gwasanaeth sy'n helpu i nodi y sgiliau, y galluoedd, cryfderau a gwendidau, yn ogystal â monitro a gwerthuso dros amser - gan gynnig cymorth ac argymhellion yn seiliedig ar ddadansoddi data ar lefel person, grŵp, a sefydliad.

Mae'r Proffiliwr Gweithle Niwroamrywiol Do-IT yn becyn sgrinio ar y we i gefnogi gweithwyr a'u rheolwyr llinell. Un arall o'n gwasanaethau yw'r Proffiliwr Asesu Gweithle Do-IT - pecynnau sgrinio ar y we er mwyn i wasanaethau iechyd galwedigaethol ac aseswyr anabledd eu defnyddio gyda gweithwyr a chynnig cymorth unigol.

Mae Do-IT yn defnyddio Dull Person Cyfan, gan helpu pobl gyda chyflyrau niwroamrywiol i fod y person gorau posibl.

Gyda 25 mlynedd o ymchwil glinigol ac academaidd y tu ôl inni, rydym yn cael ein hymddiried o fewn y byd addysg, cyflogaeth a chyfiawnder i gefnogi unigolion a sefydliadau drwy asesu ar-lein pwrpasol a hyfforddiant.

 

Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?

Rydym eisoes wedi ennill Gwobr Entrepreneur Cymdeithasol Rhanbarthol Barclays mewn seremoni ym Mryste ym mis Awst 2019. Mae'r wobr yn cydnabod sut yr ydym yn newid y diwydiant proffilio mewn ffordd bositif.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?

Mae'n anodd meddwl am y penderfyniadau gwahanol y buasem wedi eu gwneud. O ystyried ein bod yn teimlo fel arloeswyr yn y maes hwn, mae ein taith fusnes wedi bod yn un o ddarganfod cyffrous. Ac mae wedi bod yn daith gyffrous iawn hyd yn hyn!

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Cawsom hyfforddiant drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i helpu i ddatblygu ein strategaeth fusnes, gwella ein cynllunio a'n rheolaeth ariannol yn ogystal â'n brandio a'n strategaeth farchnata.

Rydym wedi cyflogi pedwar person ychwanegol ers cofrestru yn ogystal â gweld cynnydd sylweddol mewn cyllid a'n hallforion cyntaf i'r Dwyrain Canol.

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

  • Gwneud eich gwaith paratoadol. Mae ein gwybodaeth yn ein maes yn dod o flynyddoedd o ymchwil. Felly mae gan y cwmni brofiad yn y maes. Rydym yn falch o hynny ac yn teimlo ei fod yn rhoi mantais inni o fewn y sector.

 

  • Bod yn uchelgeisiol. Os oes gennych gynnyrch gwych yr ydych yn credu ynddo, yna cewch fynd ag ef i'r farchnad a'i droi yn llwyddiant.

 

  • Gofyn cyngor. Rydym yn arbenigwyr yn ein maes, ond nid yw hynny yn troi yn entrepreneuriaeth yn awtomatig . Dyna pam y mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod mor bwysig i'n datblygiad. Mae dechrau busnes yn brofiad o ddysgu ynddo ei hun, felly byddwch yn barod i dderbyn cymorth o'r tu allan.

 

  • Adeiladwch dîm o'ch hamgylch sy'n credu yn eich cynnyrch. Mae cael y recriwtio yn iawn yn allweddol i greu cwmni llwyddiannus.

 

  • Mwynhewch! Ydy, mae'n waith caled, ydy mae'n cymryd oriau maith. Ond mae dechrau busnes yn rhywbeth sy'n hwyl ac yn rhoi boddhad. Os nad ydych yn ei fwynhau yna efallai y dylech ystyried eich profiad hyd yma ac i ble yr ydych yn mynd.

 

Dysgu mwy am Do-IT Solutions.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page