Mae Vaayu yn arbenigo mewn caffael, darparu a chyflenwi deunydd y mae modd ei ail-ddefnyddio (USM) ar gyfer cwmnïau awyrennau a chwmnïau cynnal a thrwsio awyrennau. Mae defnyddio USM yn caniatáu i'n cwsmeriaid leihau eu costau a sicrhau cymaint o arbedion â phosib. Rydym yn darparu deunydd gyda'r holl dystysgrifau priodol, wedi'u trwsio gan weithwyr proffesiynol mewn cyfleusterau o safon uchel. Mae gan ein tîm dros 100 mlynedd o brofiad cyfun o gyflenwi USM o ddeunydd peiriannau ac LRUau.

Rydym yn cefnogi cwsmeriaid gyda:

  • LLPau peiriannau a deunydd crai ar gyfer ein sylfaen cwsmeriaid
  • Dull o olrhain yn ôl i'r gwreiddiol (ble y bo'n briodol)
  • Deunyddiau ar gyfer sawl math o beiriannau masnachol
  • Rhaglen lawn i reoli llafnau gwyntyllau
  • Cymorth logisteg llawn ar gyfer y rhannau sy'n cael eu darparu
  • Cynlluniau rheoli storfeydd rhannau a rhaglenni llwythau wedi'u teilwra ar gyfer cwsmeriaid

 

Roedd y cwmni yn syniad gan dri rheolwr awyrofod profiadol oedd yn teimlo bod cyfle yn fyd-eang i ddarparu deunyddiau ar gyfer peiriannau awyrennau ac LRUau oedd yn gost effeithiol, gyda'r tystysgrifau iawn, a gyda chymorth proactif a phroffesiynol i bob rhan oedd yn cael ei ddarparu. Dechreuodd y cyfarwyddwyr weithio mewn swyddfa fechan yng nghymoedd y de gyda nesaf peth i ddim o fuddsoddiad yn 2016. Drwy eu brwdfrydedd a'u gwaith caled maent wedi datblygu trosiant y busnes i bron i £10 miliwn ac wedi creu 10 o swyddi o safon uchel. Mae prosiectau wedi eu gwneud ar gyfer cwmnïau awyrennau mawr a chwmnïau awyrofod yn yr UDA, Siapan, yr Iseldiroedd a'r Dwyrain Canol.


Beth fyddent yn ei wneud yn wahanol?
Wrth edrych yn ôl, byddai'r cyfarwyddwyr wedi:

  • Derbyn mwy o gymorth ac arbenigedd drwy Gyllid Masnach y DU
     
  • Wedi' arddangos ar USA America yn hytrach na defnyddio'r cyfleuster desg a ddarparwyd yn y sioe gan Lywodraeth Cymru.

Diwrnod gorau eu busnes

  • Cyrraedd targedau/cynllun gwerthiant ac elw am y tro cyntaf oedd yn sicrhau llwyddiant cychwynnol ac yn cadarnhau cred y cyfarwyddwr yn y cyfle posibl yr oeddent wedi dod o hyd iddo
     
  • Wedi bod mewn busnes am ddwy flynedd ble yr oedd y flwyddyn gyntaf yn hynod anodd a bellach wedi sefydlu tîm gwych yn cynnig amrywiol gynnyrch a gwasanaethau i nifer o gleientiaid bodlon.

 

 

Er bod gan y cwmni bolisïau clir o ran defnyddio'r iaith Gymraeg yn fewnol ac yn allanol, mae'r defnydd ohono wedi'i gyfyngu wrth ddelio gyda chleientiaid byd-eang.
 

•    Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi helpu yn sylweddol i ddatblygu busnesau drwy yn gyntaf helpu i ganfod a diffinio eu gweledigaeth a'i strategaeth a darparu cymorth hyfforddi i helpu i ddatblygu brand y cwmni a sefydlu gwefan broffesiynol
•    Mae'r Gyfarwyddiaeth Fasnach Fewnol wedi helpu'r cwmni i gael presenoldeb mewn sioeau masnach rhyngwladol pwysig gan gynnwys MRO Llundain, Sioe Awyr Singapore ac MRO Orlando yr Unol Daleithiau. Mae'r cynlluniau ar droed i chwilio am gymorth ychwanegol i helpu i gymryd rhan mewn sioeau yn Amsterdam a Dubai.
•    Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r cwmni wedi cyflogi 10 o bobl ac wedi cael gwerthiant allforio o dros £4 miliwn.

 

Prif Gynghorion:

•    Gwnewch eich hun yn wahanol i bawb arall yn y farchnad. Nodwch beth yw eich Nodwedd Gwerthu Unigryw a chanolbwyntio arno'n frwdfrydig.
•    Canolbwyntio ar ansawdd a gwasanaeth yn hytrach nad gwerthiant. Os ydych yn darparu yr hyn yr ydych yn ei addo yn gyson bydd gwerthiant ac elw yn dilyn
•    Creu enw da am wasanaethu cwsmeriaid rhagorol a chanolbwyntio ar wneud yn well na disgwyliadau eich cwsmer bob tro rydych yn delio â hwy.

Vaayu
 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Share this page

Print this page