Mae CatSci, sefydliad ymchwil contractau hyblyg sy’n tyfu’n gyflym ac sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, wedi cyrraedd y brig yn y Gwobrau CPhl Pharma

byd-eang drwy ennill yn y categori clodfawr Rhagoriaeth yn y Maes Fferyllol: Gwasanaethau Contract a Chontractau Allanol. Mae derbyn un o wobrau pwysicaf y diwydiant fferyllol yn adlewyrchu gwasanaethau ymchwil a datblygu prosesau eithriadol CatSci.

 

Cafodd CatSci gydnabyddiaeth am y defnydd arloesol o fiogatalyddu i wneud gwelliannau sylweddol i gynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd o Ryngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) generig. Drwy ddatblygu proses weithgynhyrchu newydd, aeth CatSci i’r afael ag aneffeithlonrwydd y llwybr gweithgynhyrchu a hawliau patent a oedd ar fin dod i ben. Mae cwmpas y prosiect yn adlewyrchu’r diddordeb sylweddol presennol mewn biogatalyddu gan y diwydiant a’r byd academaidd.

 

 

Drwy gydol y prosiect, profodd CatSci y gallu i ddarparu datrysiadau technegol a masnachol drwy ddulliau ymgynghorol. Cydweithiodd CatSci gyda’r cwsmer i sicrhau bod y prosiect yn cael arian gan lywodraeth y DU. Yn ogystal, defnyddiodd CatSci’r cyfuniad llwyddiannus o feddylfryd fasnachol ac uwch arbenigedd gwyddonol i sicrhau y byddai’r llwybrau gweithgynhyrchu newydd hyn yn arwain at elw ar fuddsoddiad.
 

Darparodd y Rhaglen Cyflymu Twf gymorth strategol, cais am gyllid allannol a gwasanaeth ymgynghori masnachol i CatSci
 

 

Wedi’u sefydlu yn 2004, mae Gwobrwyon CPhI Pharma yn denu ystod  glodfawr o ymgeiswyr byd-eang. Roedd yr enwebeion yn y Categori Rhagoriaeth yn y Maes Fferyllol: Gwasanaethau Contract a Chontractau Allanol eleni yn cynnwys Merck, Cambrex ac Alcami.

 

Dywedodd Dr Ross Burn, Prif Swyddog Gweithredol CatSci: “Rydym wrth ein bodd o gael y gydnabyddiaeth hon gan Wobrau CPhI. Mae’r cyflawniad hwn yn gam gwych ymlaen ar ein taith tuag at ddod yn gwmni ymchwil a datblygu pwysig. Roedd nifer o enwebeion eithriadol yn ein categori, felly mae’n anrhydedd fawr cael ein hystyried ochr yn ochr â hwy am wobr mor fawreddog.”
 

Rhagor o wybodaeth ar Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page