Rydym yn parhau ein cyfres o flogiau ar y busnesau yr ydym wedi helpu eu datblygu a'u tyfu gan edrych ar 2buy2.com - cwmni caffael ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr - a'i fenter newydd o'r enw Church Buying.

Wedi'i sefydlu saith mlynedd yn ôl, mae 2buy2.com yn cyflogi tua 40 o bobl a lansiodd Church Buying i helpu eglwysi ac eraill i leihau'r amser a gaiff ei dreulio a'r arian a gaiff ei wario ar bryniannau dydd i ddydd a'i anghenion cynllunio hirdymor.

Yma, mae Rob Kissick, y Prif Swyddog Gweithredol, yn adrodd stori 2buy2.com a Church Buying ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol i eraill sy'n dechrau ar y daith fusnes.

 

Dywedwch wrthym am 2buy2.com.

Rydym wedi cefnogi mwy na 8,000 o eglwysi fel y gallant ddefnyddio eu hadnoddau yn dda. Mae'n golygu bod miliynau o bunnoedd yn gallu cael eu buddsoddi yng nghenhadaeth a gweinyddiaeth yr Eglwys, yn hytrach na chael eu gwastraffu ar gontractau ynni, llungopiwyr a chyflenwadau swyddfa drud.

Mae arweinwyr a rheolwyr eglwysi yn gofyn o hyd am wasanaeth prynu sy'n eu galluogi i roi eu cenhadaeth a'r weinyddiaeth ar frig eu hanghenion cynllunio. Dyma pam yr oeddem yn teimlo ei bod yn bryd lansio gwasanaeth prynu penodedig ar gyfer holl sefydliadau'r Eglwys a sefydliadau ffydd a chred eraill.

Mae Church Buying yn darparu dull personol o brynu ac mae ganddo dîm gofal i gwsmeriaid yn ogystal â chanolfan gwasanaeth ar-lein hawdd ei defnyddio a sawl gwasanaeth ac adnodd am ddim.

Mae'n golygu bod eglwysi yn gallu targedu mwy o'u hincwm at eu cenhadaeth ac at wasanaethu'r gymuned.

Mae'r gwasanaethau a ddarperir drwy Church Buying yn agored i bob grŵp ffydd a chred.
 

 

Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?

Pan gawsom ein cydnabod fel y 34ain busnes sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru gan Fast Growth 50, roedd yn hwb enfawr ac yn dilysu holl waith caled y cwmni.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?

I fod yn onest - dim llawer! Rydym bellach yn teimlo ein bod yn gwmni sefydledig ac ein cangen Church Buying yw'r cyfnod nesaf yn ein datblygiad.

Rydym wedi cael cefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i ddatblygu rhannau o'r busnes sydd angen gwaith ac i ailedrych ar y rhannau hynny wrth inni ehangu. Ond byddai gwneud pethau'n wahanol siwr o fod yn golygu y byddem yn wahanol cwmni i'r un rydym heddiw.

 

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Mae bod yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn ein helpu i gyflawni ein cyfnod nesaf o dwf.

Rydym wedi cael cymorth coetsio drwy Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru mewn sawl maes.

Rydym wedi manteisio ar arbenigedd a chyngor ar ddatblygu sefydliadol ac ar strategaethau twf busnes sy'n hanfodol os ydym yn bwriadu ehangu ein cwmni.

Rydym hefyd wedi cael help ar ein strategaeth Adnoddau Dynol, yn enwedig o ran sut ydym yn gwobrwyo ac yn cydnabod staff.

Mae'r help yr ydym wedi'i gael gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn werthfawr ac mae'n gyngor sydd ei angen ar lawer o fusnesau ond efallai nad ydynt yn gwybod ei fod ar gael.

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

● Sicrhewch eich bod yn datblygu gwerthoedd clir ac yn cadw atynt.

● Cymerwch risgiau i gyflawni eich nodau.

● Cyflogwch bobl sydd ag arbenigedd - amgylchynwch eich hunan gyda phobl gwych yn eu meysydd.


 

Dysgu mwy am 2buy2.com.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page