Unwaith eto, mae ein blog yn edrych ar fusnes sydd wedi cael cymorth ac arbenigedd gennym ni er mwyn ehangu a thyfu i farchnadoedd newydd.

Gellir disgrifio Paperclip fel marchnad ar gyfer myfyrwyr. Mae dros 30 o brifysgolion wedi ymuno â’r cwmni, sydd wedi ennill gwobrau erbyn hyn. Gweledigaeth Paperclip yn y bôn yw herio safleoedd fel eBay a Gumtree, gan adael i fyfyrwyr brynu, gwerthu a chyfnewid nwyddau ar y campws. Gyda’i bencadlys yng nghanol dinas Caerdydd, mae’r cwmni'n cyflogi 17 aelod o staff amser llawn. Mae Rich Woolley, y sylfaenydd, yn dod yn wreiddiol o Benarth, ac ar ôl astudio bu’n gweithio fel ymgynghorydd rheoli yn Llundain, cyn dod yn ôl i Gaerdydd i ddatblygu’r busnes.

Yma, mae Rich Woolley yn rhannu ei brofiadau ac yn rhoi gair o gyngor i entrepreneuriaid eraill sy'n cychwyn ar eu taith hwythau ym myd busnes. 

 

Dywedwch wrthym am Paperclip.
Fe wnaethom ni lansio’r fenter yn y ‘Startup Weekend’ yn Llundain. Teulu a ffrindiau oedd yn gyfrifol am y cylch cyllido cyntaf, ac yna cafwyd llwyddiant mewn tri chylch buddsoddiad sefydliadol gan Fanc Datblygu Cymru. 

Roedd bwlch o ran sgiliau yn ein sector ni yng Nghymru, felly fe wnaethom ni recriwtio o lefydd fel Manceinion, a hyd yn oed y Weriniaeth Tsiec, yn y dyddiau cynnar.

Ond rydym ni wedi cael buddsoddwyr nodedig iawn o Gymru, gan gynnwys Hayley Parsons, a sefydlodd GoCompare, a David Buttress o JustEat. 

 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
O fewn blwyddyn, roedd 30 o brifysgolion wedi ymuno â ni, gan gynnwys Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt a Choleg Prifysgol Llundain, ac roeddem wedi cael marchnad gorfforaethol gyda Dell EMC. Rydym ni'n hynod o falch o hynny.

Rydym ni hefyd yn falch iawn ein bod wedi cael ein henwi ar restr WalesOnline o'r 35 o bobl ifanc dan 35 oed sydd fwyaf dylanwadol ym myd busnes.

Mae derbyn buddsoddiad Banc Datblygu Cymru dair gwaith yn golygu bod llawer o entrepreneuriaid eraill yn troi at y tîm a sefydlodd y cwmni am gyngor.

Mae’r ffaith bod buddsoddwyr uchel eu parch fel Hayley Parsons a David Buttress wedi buddsoddi yn Paperclip yn dipyn o uchafbwynt – mae cael cymorth a chyngor gan enwau cyfarwydd yn y farchnad yn fraint ac yn anrhydedd.

  

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Mae siwrnai Paperclip wedi bod yn un hir a throellog, ac mae sawl her wedi codi ar hyd y daith. Un o’r prif bethau y byddem ni wedi'i wneud yn wahanol yw cyflwyno ffrwd refeniw yn gynharach, oherwydd mae buddsoddwyr yn y DU (heb sôn am Gymru) yn fwy pesimistaidd o lawer wrth ystyried strategaeth cyn-refeniw.

Byddai wedi bod yn dda o beth pe baem wedi cynnwys buddsoddwyr uchel eu proffil fel Hayley a David yn gynt o lawer hefyd, oherwydd byddai cael cefnogaeth yn gynharach wedi cyflymu’r cylch buddsoddi.

 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn allweddol wrth helpu Paperclip i oresgyn rhai o’r rhwystrau fyddai wedi gallu ei atal rhag tyfu. Fe wnaeth y gwaith cysylltiadau cyhoeddus gydag FD Comms, a ariannwyd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, roi cyhoeddusrwydd i Paperclip a’n helpu i ennill llawer o wobrau. Cawsom gyngor am fuddsoddi a grantiau gan y Rhaglen Cyflymu Twf hefyd, yn ogystal â chyngor am adnoddau dynol a staff.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

● Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i adnabod cymaint o bobl ag y gallwch chi: ymunwch ag uned hybu neu gyflymu.

● Rhowch gymaint o sgyrsiau/cyflwyniadau â phosibl. 

● Helpwch gymaint o bobl ag y gallwch chi. Hap a damwain oedd dod ar draws David Buttress, gan fod y sylfaenydd yn helpu entrepreneur ifanc arall yr oedd y ddau ohonom yn ei adnabod.

● Peidiwch ag ildio; mae dyfalbarhad a ffocws yn hollbwysig.

● Peidiwch â meddwl ei bod yn rhaid i chi gael arian gan Fanc Datblygu Cymru. Mae buddsoddiadau o bob math ar gael y tu allan i Gymru – gallwch eu gweld ar wefannau fel AngelInvestmentNetwork.co.uk.

 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page