Datblygu busnes mewn marchnad sydd eisoes yn gystadleuol, ymhlith cwmniau rhyngwladol, yw hanes y cwmni nesaf o fewn ein cyfres o flogiau.

Mae ColourTone Masterbatch o Fedwas yn datblygu a chynhyrchu lliwiau ac ychwanegion ar gyfer polymerau i nwyddau a pheirianneg.  Mae wedi ei brynu gan gwmni arall sydd wedi rhoi sylfaen iddo ar gyfer twf pellach. 
Yma, mae rheolwr cyffredinol ColourTone, Simon Atteby, yn adrodd hanes y busnes ac yn cynnig cyngor i eraill sy’n dechrau ar y daith fel entrepreneuriaid. 

 

Dywedwch wrthym am ColourTone Masterbatch.
Gallwn ddarparu lliwiau wedi’u cynhyrchu’n arbennig i’r union liw mewn llai o amser nag y  mae’n gymryd i ddod o hyd i gynnyrch parod gan ein bod yn hyblyg iawn wrth gynhyrchu.  Golyga ein bod yn gallu symud yn gyflym wrth i’r galw newid.  

Rydyn ni yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth sy’n ymateb, o safon uchel ar gyfer lliwiau penodol, mewn polymerau cyffredinol, ar gyfer nwyddau ac ar gyfer peirianneg, yn ogystal a chyfuno gydag ychwanegion.  Mae ein deunyddiau yn y swp rheoli yn addas i’w defnyddio yn y rhan fwyaf o brosesau plastig, gan gynnwys mowldio drwy chwistrellu a chwythu, allwthio proffil a llen yn ogystal a ffilm a ffibrau. 

Mae’r gwaith ar Ystad Diwydiannol Pant Glas ym Medwas, Caerffili, yn rhoi’r hyblygrwydd inni fodloni y galw gan y cwsmer am liwiau sy’n cyd-fynd â samplau ac i weithgynhyrchu a’r offer i ddatblygu cynnyrch newydd. 

Golygodd y prynu gan Luxus fy mod wedi dod i mewn fel rheolwr cyffredinol.  Rwyf wedi arwain newidiadau i’n dull o wneud pethau – wedi ail-lunio y broses weithgynhyrchu ac wedi gwneud gwahaniaeth i’r trefnu a chynllunio adnoddau.  Mae’r ffordd rydyn ni’n rheoli ein cyllid hefyd wedi newid a gwella.  

 

Simon Atteby o ColourTone Masterbatch.
Simon Atteby o ColourTone Masterbatch.

 

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn y busnes ar hyn o bryd?
Mae’r newidiadau a’r gwelliannau rydyn ni wedi eu harwain yn  ColourTone wedi bod yn hynod foddhaus.  Mewn sawl ffordd, mae hwn yn gwmni arloesol gyda dyfodol cyffrous o’i flaen – ac rydym yn falch iawn ein bod yn ganolog i’r gymuned, gan ddarparu swyddi dawnus a chreu twf yn economi Cymru.

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Mae hwn yn gwestiwn anodd, o ystyried hanes y busnes hyd yma – yn enwedig gan inni gael ein prynu gan Luxus.  Mae’r ffordd rydyn ni wedi cynllunio ein dyfodol ac wedi rhoi ein harbenigedd a’n gwybodoaeth i mewn i ColourTone yn golygu ein bod yn edrych i’r dyfodol o fewn y busnes.

 

Sut wnaeth y cymorth gan Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru helpu eich  busnes? 
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ein helpu mewn sawl ffordd – o werthiant rhyngwladol i gymorth Adnoddau Dynol a bod yn fwy cynhyrchiol ar y llinell gynhyrchu. 

Mae gennym ddeg aelod staff newydd ac wedi cynyddu ein gwerthiant allforio gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Cawsom gyngor i ddod ag asiantwyr gwerthu i mewn fel rhan o’n strategaeth ehangu ryngwladol.  Bu’r asiantwyr hyn yn allweddol wrth sicrhau cwsmeriaid newydd yn Ewrop, ac mae hyn wedi helpu inni gyrraedd marchnadoedd a sefydlu y strategaeth orau ar gyfer gwerthu i ardaloedd newydd.   

Cawsom hefyd gefnogaeth gyda strwythur trefnu a chyngor ar strwythur pendant o raddfeydd tryloyw ar gyfer cyflogau.  Nid yn unig gwnaeth hyn sicrhau bod modd rhagweld costau pobl, a’u rheoli, ond mae hefyd yn golygu bod y staff yn cael eu trin yn deg.  Gall y gweithwyr bellach weld yr hyn y mae’n bosibl iddynt ei ennill yn eu swyddi presennol, yn ogystal â’r hyn y gallant ddisgwyl ei gael os ydynt yn datblygu i swyddi uwch. 

Mae system adolygu perfformiad a gwerthuso sy’n rhoi cynlluniau datblgygu clir i bob gweithiwr wedi’u gweithredu gyda chyngor gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. 

Rydym hefyd wedi cael cymorth i ddatblygu cyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol, i brosesu gwelliannau i’n llinellau cynhyrchu.  Mae hyn wedi golygu effeithiolrwydd ym maes cynhyrchu, sy’n golygu ein bod wedi gallu prosesu mwy o werthiant ac mae wedi rhoi mwy o reolaeth inni dros fesur data. 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu i herio a chefnogi ColurTone ar y ffordd orau i werthu ein brandiau a’n cynnyrch fel eu bod yn cael eu gweld yn glir a’u deall gan gwsmeriaid y presennol a’r dyfodol.  Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod ein marchnata yn effeithiol.

Wedi ein cefnogi gyda’n strategaeth brand, cawsom argymhellion ar newidiadau i’n gwefan a darperir cymorth pellach i wneud rhagor o welliannau wrth i fusnes gynyddu. 

 

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi yn eu rhoi i fusnesau eraill sy’n dechrau? 

● Chwilio am gyngor gan eraill.  Mae defnyddio arbenigedd allanol Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi’r cyfle inni ddatblygu ac ehangu i farchnadoedd newydd.  Mae wedi helpu nid yn unig i symleiddio ein busnes, ond hefyd i greu amgylchedd i’n staff ddatblygu eu hunain. 

● Dathlu eich ardal.  Rydym yn falch o fod yn rhan o’r gymuned ym Medwas, gan ddarparu swyddi dawnus i bobl leol. 

● Bod yn uchelgeisiol.  Os nad ydych yn rhoi amcanion uchelgeisiol i chi eich hun, nid ydych yn cyflawni eich cyfrifoldeb fel arweinydd eich cwmni.  

 

 

Dysgu mwy am ColourTone Masterbatch.

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page