Cefndir y Busnes
Mae Delio Wealth yn helpu sefydliadau ariannol i aros yn berthnasol i gleientiaid heddiw. Maent yn creu cynnig uniongyrchol i farchnad breifat trwy blatfform digidol sydd wedi cael ei wneud gan un cwmni ac yn cael ei werthu gan gwmni arall. Canfuwyd bwlch yn y farchnad gan gyd-sylfaenwyr Delio, Gareth Lewis a David Newman. Mae Gareth yn Gyfrifydd Siartredig sydd â phrofiad mewn bancio buddsoddiadau a chyfuniadau a chaffaeliadau. Daeth o hyd i thema a oedd yn digwydd dro ar ôl tro wrth ymarfer. Sylweddolodd nad oedd y cleientiaid entrepreneuraidd a oedd yn delio ag ef yn trafod yn gyson gyda’u rheolwyr cyfoeth ar ôl iddynt sicrhau  hylifedd eu busnes. Yn ogystal â hyn, mae David, sy'n ddeiliad Siarter CFA, ac yn gyfarwydd â rheoli cyfoeth, yn cydnabod y rhwystredigaeth a'r rhwystrau y mae rheolwyr cyfoeth yn eu hwynebu wrth geisio sicrhau eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol i’w cystadleuwyr.  Yn benodol, roedd David wedi darganfod fod y dull rheoli cyfoeth traddodiadol yn mynd yn llai ffasiynol gan fod y farchnad buddsoddiadau preifat yn codi mwy o ddiddordeb i'r cleientiaid entrepreneuraidd hyn. Roedd y cleientiaid entrepreneuraidd yn rhoi mwy o'u hamser a'u portffolio i hyn yn anad dim.

Delio

 

Twf y Busnes
Mae'r busnes, a ddechreuodd gyda Gareth yn unig yn haf 2015, bellach wedi tyfu i 25 o weithwyr ar draws Caerdydd, Llundain, Manceinion, Brwsel a Sydney. Mae'n darparu ateb cyflawn gan un cwmni ac yn cael ei werthu gan gwmni arall ar gyfer asedau preifat. Mae'n helpu ystod o sefydliadau ariannol a sefydliadau eraill i wella eu cynnig trwy gysylltu llif cytundebau preifat â chyfalaf net uchel  (iawn). Mae'r tîm technegol mewnol o ddatblygwyr, rheolwyr cynnyrch/prosiect a rheolwyr cyfrif, wedi cefnogi Delio trwy gydol y cyfnod hwn o dwf cyflym ac ar hyn o bryd, maent yn gweithio'n llwyddiannus gyda rhai o sefydliadau ariannol mwyaf y byd. 

Delio - Gareth Lewis & David Newman


 

Cafodd Delio Wealth £110,000 gan fuddsoddwr anffurfiol a Startcup Bootcamp Fintech London. Oherwydd bod ei marchnad cynnyrch yn gweddu'n eithriadol o dda, talwyd gweddill y costau busnes a'r datblygiadau drwy hunan-ariannu diolch i'r refeniw a gynhyrchwyd gan Delio. Hefyd, yn ddiweddar, caeodd Delio rownd codi arian o tua £1 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru a nifer o fuddsoddwyr preifat eraill o bwys o fewn y maes gwasanaethau ariannol.

Yn ddiweddar, daeth moment fawr Gareth, wrth iddo sicrhau tri chleient mawr haen gyntaf a gweld eu hadborth cadarnhaol ar y cynnyrch. 'Roedd y profiad hwnnw'n wych, ond mae gweld twf tîm Delio yn bwysicach na hynny, tyfu i fodloni gofynion newydd y busnes ar un llaw a chadw diwylliant y cwsmer yn gyntaf ar y llall, gwneud pethau a chael hwyl wrth eu gwneud '.

Cymorth gan y Rhaglen Cyflymu Twf
Dywedodd Gareth Lewis ‘Mae Delio Wealth wedi cael cymorth amrywiol gan Lywodraeth Cymru ers y dechrau. Cefnogaeth er mwyn helpu i dyfu'r busnes i'r hyn yr ydyn ni erbyn hyn. Yn enwedig felly Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Dyma un o brif resymau dros allu Delio i gynyddu yr hyn a allai ei gynnig yng Nghymru yn hytrach nac yn unman arall. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogwyr brwd i helpu recriwtio cyflogeion yng Nghymru er mwyn cadw talent o fewn economi Cymru’.


5 o Awgrymiadau Gwych Gareth
-           Empathi ac ymdeimlad - sicrhewch eich bod yn rhoi dwys ystyriaeth i’r ddau beth yma wrth feithrin perthynas â phobl. Yn aml, dyma’r peth cyntaf a all hybu neu rwystro’ch cyfle i wneud busnes.

-           Cefnogwch eich hun.  Os oes gennych syniad yr ydych yn angerddol amdano ac yn credu ynddo a rhowch eich gorau iddo.

-           Gwnewch eich gwaith cartref. Mae deall lle y mae'ch syniad yn ffitio yn y farchnad yn allweddol. Nid yw syniadau sydd heb ymchwil trylwyr a manwl y tu ôl iddynt yn gwrthsefyll prosesau craffu, felly mae cymryd amser i werthuso’r gystadleuaeth yn bwysig iawn.

-          Gwaith caled Mae rhoi amser yn hanfodol er mwyn sefydlu cynllun busnes credadwy a chynlluniau sydd ag ôl meddwl arnynt sydd yn gallu cael eu cyflenwi â chyllid.

-           Cofiwch hyn bob tro wrth gychwyn. Dyfalbarhad, amynedd ac yn fwy na dim peidiwch â chynhyrfu.


Edrychwch a yw Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn opsiwn da i chi.

 

Share this page

Print this page