Mae arloesi yn aml yn sbarduno twf. Mae Xwatch yn gwmni o Gymru sy’n ysgogi twf yn y sector adeiladu diolch i’w dechnoleg sy’n torri tir newydd.

Mae’r cwmni o Gwmbrân yn defnyddio gwybodaeth ei sefydlwyr am y diwydiant i ddatblygu atebion newydd ar gyfer cwmnïau adeiladu. A chyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae Xwatch yn creu llwybrau i farchnadoedd newydd ac yn mwynhau twf addawol.

Yma, mae Daniel Leaney yn esbonio llwyddiant y cwmni hyd yma ac yn rhoi canllawiau i entrepreneuriaid eraill sy’n dechrau eu taith fusnes.

 

Dywedwch wrthym am Xwatch.
Efallai fod ein cynhyrchion yn swnio’n gymhleth i bobl y tu allan i’r diwydiant adeiladu, felly yn syml, rydym yn darparu atebion diogelwch, gan ddefnyddio technoleg newydd. Rydym yn cyflwyno dull modern a ffres i’r sector, sy’n ein gwneud yn wahanol i’n cystadleuwyr.

Roedd marchnad diogelwch offer symud daear yn defnyddio hen dechnoleg ac nid oedd yn symud yn ei blaen. Felly dyna pam gwnes i ymuno â Chris Fitzgerald yn Fitzgerald Plant Services i sefydlu Xwatch.

Gan ddefnyddio ein gwybodaeth am y diwydiant a’n profiad ar y cyd o 30 mlynedd, cawsom y syniad ar gyfer amrywiaeth ein cynhyrchion.

Rwyf i a Chris wedi defnyddio ein profiad i gael golwg ffres ar y materion beunyddiol a’r gofynion iechyd a diogelwch sy’n wynebu ein cleientiaid. Rydym wedi gwneud y defnydd gorau o’n technoleg i greu cynnyrch sy’n arwain y farchnad yn ein barn ni, un sydd ar flaen y gad o gymharu â’n cystadleuwyr.

Felly dyma fanylion ein technoleg, a’r hyn sy’n ei gwneud mor wahanol i eraill. Mae Xwatch yn monitro sut mae’r offer yn gweithio ac yn rhybuddio, neu hyd yn oed yn stopio’r offer drwy reolyddion hydrolig os yw’n mynd i ardal a ddiffiniwyd gan y defnyddiwr yn un ‘dim mynediad’.

Mae ein platfform wedi cymryd y dechnoleg caledwedd orau sydd ar gael, gan ymgorffori ein meddalwedd patent, i greu ystod o gynhyrchion y gellir eu defnyddio ar draws diwydiannau a gwledydd.

Ein prif farchnadoedd yw cwmnïau hurio gweithfeydd, gweithgynhyrchwyr a chwmnïau seilwaith - ymhlith defnyddwyr posibl eraill. Ac rydym o’r farn bod potensial enfawr i’n cwmni dyfu wrth inni fynd i mewn i’r marchnadoedd hynny.

Mae gennym dargedau uchelgeisiol, ond fe allwn eu cyflawni. Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn bwriadu targedu o leiaf 70% o’r farchnad adeiladu gyffredinol.

 

 

 

Beth ydych fwyaf balch ohono mewn busnes hyd yma?
Heb un amheuaeth, arwain y farchnad yn ystod ein blwyddyn gyntaf yw’r peth yr ydym fwyaf balch ohono. Wrth inni dyfu ac ehangu, rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy o adegau y gallwn eu mwynhau. Rydym yn gyffrous am ddyfodol y busnes a’r hyn y gallwn ei gyflawni.

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Rydym yn cynnig cynhyrchion arloesol a gwasanaeth arbenigol wedi’i deilwra ar eich cyfer chi. Rydym yn hapus gyda’r ffordd yr ydym wedi gwneud pethau hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ein helpu’n fawr, ac rydym wedi cael cyngor da a chefnogaeth wych gan arbenigwyr drwy’r Rhaglen. Rydym wedi defnyddio’r Rhaglen yn helaeth, i’n helpu yn bennaf gyda’n gwaith brandio, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

 

 

Pa gyngor a chyfarwyddyd y byddech yn eu rhoi i fusnesau eraill sy’n cychwyn arni?

  • Ymchwil, ymchwil, ymchwil.
  • Gwybod eich marchnad, gofyn i’ch hun pam nad yw wedi’i wneud o’r blaen, a beth ydych yn ei wneud yn wahanol.
  • Yn bwysicach, byddwch yn glir ynghylch pwy fydd yn prynu eich cynhyrchion.
     

Dysgu mwy am Xwatch.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page