Mae cwmni cymorth TG Metalogic wedi bod yn darparu arbenigedd a chymorth i fusnesau bach ers 2003.

Symudodd y busnes, a sefydlwyd ac a arweinir gan Mike Parfitt, i gyfnod lle y caniatawyd iddo ehangu wrth i'r wasgfa gredyd daro, pan wnaeth y cyfnod orfodi cwmnïau i archwilio sut y gallent wneud arbedion effeithlonrwydd. Ers hynny mae'r cwmni wedi mwynhau twf pellach, gan ehangu ei weithlu ac ennill cleientiaid newydd.

Mae’r cwmni wedi cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Buom yn siarad â Mike yn gynharach eleni pan ddywedodd wrthym am ei daith fusnes yma.

 

Fel llawer o fusnesau, mae'r heriau y mae Mike a'i dîm wedi'u hwynebu yn 2020 wedi bod yn heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Yma mae Mike yn dweud wrthym sut mae Tîm Metalogic wedi goresgyn y rhwystrau hynny, a sut mae'r cwmni wedi ymateb i'r pandemig.

 

Staff Team Metalogic
Staff Team Metalogic

 

Sut y gwnaeth COVID effeithio ar eich busnes?
Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n arwain busnes drwy argyfwng fel hwn. Roedd yr argyfwng ariannol yn 2008 yn enfawr ond mewn sawl ffordd amlwg iawn, mae'r argyfwng hwn wedi bod yn wahanol iawn.

Rydym wedi bod yn brysur iawn yn ystod y cyfyngiadau symud, gyda llawer o gleientiaid yn sylweddoli bod angen i'w timau allu gweithio o bell ac yn effeithlon. Mae hyn ynddo'i hun wedi creu her. Roedd yn golygu bod yr ochr sy’n ymwneud â gwasanaethau a reolir y busnes wedi'i gorweithio'n aruthrol, a oedd yn golygu nad oeddwn yn gallu rhoi unrhyw staff ar ffyrlo, er gwaethaf rhannau eraill o'r busnes yn teimlo’r ergyd.

Cawsom anhawster hefyd gyda'n cadwyn gyflenwi, oherwydd galw enfawr am galedwedd ledled y byd. Cynyddodd hyn brisiau ac amseroedd cyflawni. Bellach, roedd angen i dimau ein cwsmeriaid allu gweithio o bell, ond roedd eraill yn dal i ddibynnu ar systemau yn eu lleoliadau ffisegol. Er mwyn dod â'r systemau hyn ar-lein fel y gellir cael gafael arnynt o bell, roedd angen i ni gael mynediad i'r lleoliadau hyn. Gyda’r cyfyngiadau symud, roedd hyn yn anodd iawn. 

Roeddem hefyd wedi cyflogi dau beiriannydd prosiect medrus iawn newydd ychydig cyn y cyflwynwyd y cyfyngiadau symud. Er y gohiriwyd y prosiectau y cawsant eu  cyflogi i'w rheoli, nid oeddem am eu colli, gan fod dod o hyd i staff medrus iawn yn anodd. Bu'n rhaid i ni eu defnyddio mewn mannau eraill yn y busnes er nad oedd hyn yn golygu bod eu sgiliau yn cael eu defnyddio.

 

Er iddynt fod yn brysur ar ochr y busnes sy’n ymwneud â gwasanaethau a reolir, roedd hyn yn rhan o'n cynnig cadw gwaith, felly nid oedd yn adlewyrchu cynnydd mewn incwm. Collom gryn dipyn o refeniw yn ystod y tri mis o gyfyngiadau symud.

 

Beth wnaethoch roi yn ei le i oresgyn yr heriau hynny?
Cyflwynom nifer o fesurau i sicrhau ein bod yn goroesi, megis:

● Cyflwyno gostyngiad dros dro mewn ffioedd i gefnogi ein cleientiaid lle bo hynny'n bosibl.

● Telerau talu estynedig i gleientiaid lle bo hynny'n bosibl, er mwyn rhoi amser iddynt reoli llif arian a chael gafael ar grantiau neu gymorth ariannol.

● Cyfathrebu â chleientiaid a'u haddysgu am y gadwyn gyflenwi, er mwyn sicrhau dealltwriaeth o fframiau amser a chostau.

● Gwneud y penderfyniad y byddem yn gweithredu'n ddewr ac yn bendant, oherwydd ar adegau o argyfwng roeddem naill ai'n mynd i oroesi neu fethu felly byddai'n rhaid i ni weithredu'n gyflym. Roedd hyn wedi gweithio gan yr oeddem ar y blaen ac yn gallu cefnogi ein cleientiaid yn fwy effeithiol.

● Cael benthyciad cymorth COVID oddi wrth Banc Datblygu Cymru.

 

Sut wnaethoch oresgyn yr heriau a oedd yn wynebu eich busnes?

Diolch i'r cynlluniau a oedd gennym ar waith, a gwaith caled ein tîm gwych, mae ein biblinell wedi treblu ers i’r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno, ac rydym yn dal i weld galw mawr. Mae'r cwsmeriaid a gefnogwyd gennym ar hyd yr amser wedi aros gyda ni ac rydym yn dechrau cael mwy o ymholiadau newydd.

Fel llawer o fusnesau eraill, rydym yn gorfod rheoli ein hadnoddau'n ofalus i ateb y galw cynyddol hwn wrth i ni adfer a pharatoi ymhellach ar gyfer y dyfodol.

 

Pa gyngor fyddech yn ei roi i eraill sy’n wynebu heriau tebyg wrth i’r ansicrwydd barhau?
Yn bennaf oll, daliwch ati i gynllunio. Crëwyd cynllun 90 diwrnod gennym i ddelio â COVID. Gwnaethom addysgu ein cleientiaid ar yr hyn y byddai ei angen arnynt i ymdopi â'r amgylchiadau sy'n newid, faint o amser y byddai hyn yn ei gymryd a sut orau i reoli costau'r newidiadau hyn.

Gall hyn swnio braidd yn ystrydebol, ond mae angen i sefydliadau gynllunio ar gyfer amgylchiadau na ellir eu cynllunio. Cyn-COVID, ni fyddai llawer o gynlluniau wrth gefn busnesau wedi cynnwys goblygiadau pellgyrhaeddol pandemig byd-eang, na'r hyn sy'n deillio ohono. Yn awr, mae angen i fusnesau gael cynllun ar gyfer digwyddiad a allai achosi aflonyddwch tebyg, fel y gallant fod yn hyblyg a gwneud y newidiadau angenrheidiol, yn gyflym ac o bell.

Mae'n ddiddorol yr hyn y mae pwysau yn gallu ei wneud i ddiwydiant cyfan, heb sôn am sefydliad unigol. Mae’r ffordd y mae busnesau wedi mabwysiadu technoleg o bell fwy na thebyg wedi datblygu dwy i dair blynedd yn ystod y tri mis diwethaf.

Mae'r defnydd o offer fel Microsoft Teams ac ansawdd yr offer hwnnw wedi datblygu’n aruthrol a chael cyfarfod o bell yw'r arfer erbyn hyn. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn meddwl fydd yn aros hyd yn oed ar ôl y cyfyngiadau hyn – nid yw'n gwneud synnwyr i deithio ar hyd a lled y wlad ar gyfer un cyfarfod nac i weithio am ddiwrnod. Gyda'r cymorth a'r cyngor TG cywir, gall unrhyw fusnes baratoi ar gyfer ffyrdd cwbl newydd o weithio, a dyna lle y gallwn ni eich helpu.


 

Dysgu mwy am Team Metalogic.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page