Bydd yn rhaid i’r economi fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol, a bydd yn rhaid i ynni glân fod yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae llawer o fusnesau Cymru yn rheng flaen y newid hwnnw, ac mae mentrau newydd wrthi’n dod o hyd i atebion deinamig i’r heriau sy’n ein hwynebu.

Un enghraifft yw Nemein o Ben-y-bont ar Ogwr, cwmni sy’n arbenigo mewn dod o hyd i atebion peirianegol cynaliadwy ar gyfer y sector ynni.

Yma, mae Prif Weithredwr Nemein,Suzanna Bourne, yn esbonio gweledigaeth a hanes ei chwmni ac yn rhoi cyngor i eraill sy’n arwain busnes drwy gyfnod o newid.

 

Rhowch ychydig o hanes Nemein inni.
Yn gyntaf, hoffwn roi ychydig o gefndir am yr hyn yr oeddwn yn ei wneud cyn inni sefydlu Nemein yn 2013, oherwydd bod hynny’n allweddol i sut y daeth y cwmni i fod.

Cynigiwyd swydd imi gan ofyn imi drawsnewid cwmni olew a nwy yn Ne-orllewin Lloegr a oedd yn wynebu trafferthion. Wrth inni weithio ar y prosiect hwnnw, aethom at ii ddatblygu tri phatent, a sefydlwyd Nemein ar sail un o’r patentau hynny.

Mae’n cynhyrchion yn lleihau’r effaith y mae prosesau yn y sectorau olew a nwy yn ei chael ar yr amgylchedd, ac maent hefyd yn gwella diogelwch ac effeithlonrwydd. 

Ar ddechrau’r degawd diwethaf, arweiniodd digwyddiadau allanol – gan gynnwys trychineb Deepwater Horizon, Macondo yng Ngwlff Mecsico – at fwy o angen am dechnoleg i gynhyrchu mathau eraill o bŵer yn lle batris.

Rydym wedi datblygu amrywiaeth o wasanaethau a chynhyrchion, gan gynnwys technolegau cynaliadwy, cydategol, sy’n gwella diogelwch ac effeithlonrwydd ac sydd, ar yr un pryd, yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Rydym wedi defnyddio syniadau newydd i ddatrys y problemau a’r materion sy’n peri pryder i’n cleientiaid ac wedi datblygu amrywiaeth o gynhyrchion cwbl arloesol. 

Mae’r rhain yn atebion pendant a hirdymor o ran darparu ynni ar gyfer gweithgareddau drilio, oherwydd nad oes angen newid batris a tharfu ar waith mesur a logio data wrth wneud hynny.  

Mae’n dechnoleg wirioneddol gynaliadwy y gellir hefyd ei defnyddio yn y sector ynni adnewyddadwy.

Erbyn hyn, rydym wedi ehangu’n grŵp o gwmnïau syn gweithio ym mhedwar ban byd yn y sectorau olew a nwy ac mewn sawl sector peirianneg.

 

 

Beth yr ydych yn fwyaf balch ohono hyd yma? 
Mae llawer o bethau’n ennyn balchder o ran lle’r rydym arni ar hyn o bryd ac o le rydym wedi dod fel cwmni. Mae’n technolegau uwch wedi cael cydnabyddiaeth drwy ennill sawl gwobr, gan gynnwys Gwobrau Busnes De Cymru, Gwobrau Fforwm Busnes

Pen-y-bont ar Ogwr a Gwobrau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.  

Mae’n datblygiadau arloesol, er enghraifft, datblygu ffyrdd newydd o harneisio, storio a defnyddio ynni wrth wnerud gwaith drilio, yn destun balchder bob amser. Nod y mathau hyn o ddatblygiadau newydd yw gwella diogelwch ac effeithlonrwydd, ac maent hefyd yn fodd i atal trychinebau amgylcheddol ar yr un pryd. Mae hynny’n gymhelliant pwysig sy’n symbylu’r hyn yr ydym yn ei wneud. 

Yr hyn sydd wrth galon ein busnes yw’r tîm hapus ac ymroddedig sydd gennym. Ac rwy’n credu mai dyna yr ydym yn ymfalchïo fwyaf ynddo, oherwydd y tîm hwnnw sy’n ein helpu i ddatblygu’n gwmni deinamig sy’n tyfu’n gyflym ac yn dyfeisio technoleg sy’n torri tir newydd ac a fydd yn helpu’r byd am flynyddoedd i ddod.

 

Pe byddech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Byddem yn cymryd mwy o amser wrth recriwtio pobl i sicrhau eu bod yn gwbl addas ar ein cyfer. Ambell waith, mae creu’r tîm iawn ar gyfer eich busnes yn teimlo fel gwneud jig-so astrus, ond unwaith y byddwch wedi gorffen, mae wir yn werth yr ymdrech. 

Byddem hefyd wedi rhoi mwy o bwyslais ar y negeseuon am y dechnoleg ei hun ac am yr effaith y gallai ei chael, er mwyn i bobl nad ydynt yn beirianwyr fedru ei deall.  

Yn ogystal â hynny, byddem hefyd yn mynd ati’n gynt i geisio’r wybodaeth arbenigol yr oedd ei hangen arnom. O wneud hynny, byddem hyd yn oed yn bellach ar y blaen pan oeddem wrthi’n dechrau’r busnes.

 

Sut mae cymorth o dan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi cymorth hollbwysig inni gyda chynllunio strategol a denu buddsoddiad.

Rydym hefyd wedi cael cymorth gwerthfawr gyda materion cyfreithiol a marchnata, ac mae hynny wedi bod o gymorth aruthrol inni. Ac o ran dysgu a datblygu, rhaglen Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy’n cael ei darparu gan Busnes Cymru, yw’r peth gorau yr wyf wedi’i wneud erioed ar ddysgu a datblygu.

 

 

Pa gymorth a chyngor y byddech yn eu rhoi i fusnesau eraill sy’n dechrau arni? 

 

● Dylai fod gennych ffydd yn eich hun a pheidiwch â bod ofn dangos pa mor angerddol yr ydych am yr hyn yr ydych yn ei wneud. 

● Datblygwch negeseuon clir ar gyfer eich busnes a’ch gweledigaeth bersonol.

● Cofiwch ddyfalbarhau – peidiwch byth â rhoi’r ffidil yn y to.

● Cofiwch fod yn greadigol ac yn wreiddiol.

● Ewch i le bynnag y mae’n rhaid ichi fynd er mwyn cyrraedd eich nodau.


 

Dysgu mwy am Nemein.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page