Mae goresgyn heriau yn brofiad cyffredin i’r rhan fwyaf o entrepreneuriaid. Fodd bynnag, mae rhai rhwystrau’n fwy nag eraill.

Mae Rayner Davies yn entrepreneur sydd wedi troi ei busnes yn llwyddiant ysgubol diolch i’w dycnwch a’i natur benderfynol. Mae ei stori ysbrydoledig yn profi sut gall ysbryd entrepreneuraidd a meddylfryd o ddyfalbarhad, sbarduno twf personol a busnes. Mae ei chwmni, Gwasanaethau Glanhau A&R, wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae Rhaglen Cyflymu Twf yn darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Caiff y rhaglen ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yma, mae Rayner Davies yn rhannu ei stori ac yn cynghori pobl eraill sy’n dechrau ar eu taith fusnes.

 

Dywedwch wrthym am A&R.
Nid yw llwyddiant A&R – cwmni sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n cyflogi cannoedd o bobl – yn adlewyrchu’r holl heriau personol y bu’n rhaid i mi eu goresgyn. Mae wedi bod yn daith anhygoel. Rwy’n falch iawn o’r hyn rydw i a fy musnes wedi’i gyflawni.

Dechreuodd y cyfan fel gwasanaeth smwddio roeddwn i’n ei redeg o adref. Roeddwn i’n rhiant sengl, yn hawlio budd-daliadau ar ben fy swydd ran amser. Roedd gen i un cymhelliant – darparu ar gyfer fy mhlant. Ac roeddwn i eisiau cyflawni mwy na’r hyn roedd y byd yn ei ddisgwyl gen i fel ‘mam yn fy arddegau’.

Dechreuais fy menter busnes gyntaf gan gynnig gwasanaeth smwddio, ar yr un pryd â dal swydd fel gofalwr cymunedol a bod yn fam i ddau o blant. Heb unrhyw wybodaeth fusnes, ond ar ôl darllen cynifer o wefannau addysg busnes a gorfod jyglo gofal plant yn gyson, roeddwn i’n gwybod mai’r ffordd brysur hon o fyw oedd fy ngalwad i. Er bod y diwrnodau gwaith yn hir, roeddwn i’n gwybod fy mod i’n cael gwefr o fod yn brysur.

O fewn chwe mis i ddechrau fy musnes, roeddwn i’n cyflogi pobl eraill, gan ehangu ein gwasanaethau i gynnwys glanhau domestig. Roeddwn i’n gallu rhoi’r gorau i fy swydd gofalu a gweithio’n llawn amser ar y busnes.

Yn 2010, ymunodd fy ngŵr, Ashley, a oedd yn gweithio ym maes gwasanaethau ariannol, â’r busnes, a daeth yn gwmni corfforedig. Roedd yn gam a aeth â’r busnes i gyfeiriad newydd, ac yn fuan iawn, fe wnaeth yr ochr glanhau masnachol dyfu’n fwy na’r ochr ddomestig. 

Roedd y twf yn araf ond yn gyson i ddechrau ac o 2018 ymlaen, aeth y cwmni o nerth i nerth. Heddiw, rydyn ni’n cyflogi dros 300 o staff mewn amrywiaeth o rolau. Mae’r 300 o swyddi rydyn ni wedi’u creu yn gymysgedd o swyddi llawn amser a rhan amser ar hyn o bryd, i ddiwallu anghenion staff a chleientiaid, ond rydyn ni hefyd yn ehangu nifer y swyddi llawn amser. Rydyn ni’n arallgyfeirio hefyd ac mae gennym ni adran gwasanaethau diogelwch.

Roedd 2020 yn garreg filltir bwysig i ni gan ein bod yn dathlu bod mewn busnes am ddeng mlynedd. Yn y degawd hwnnw, rydyn ni wedi ennill gwobrau, ac wedi cael ein cynnwys ar restr Fast Growth 50 Cymru bob blwyddyn dros y pedair blynedd diwethaf. Tipyn o gamp! 

Roeddem ar wyliau haeddiannol pan ddechreuodd y pandemig a daethom yn ôl i’r DU i arwain y busnes drwy’r argyfwng. Mae’n deg dweud ei bod wedi bod yn flwyddyn gymhleth ers hynny – ond rydyn ni wedi llwyddo i dyfu’n sylweddol o hyd. Fe wnaethom ennill ein contract mwyaf erioed a chyflogi 100 o weithwyr ychwanegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

 

 

Rayner Davies
Rayner Davies

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
I mi, mae ambell beth yn sefyll allan. Roedd cyflogi fy ngweithiwr cyntaf erioed yn anodd oherwydd roeddwn i’n credu y gallwn i wneud y cyfan, ond roeddwn i’n gwybod yn y bôn nad oeddwn i’n gallu gwneud hynny.

Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi gallu buddsoddi’r arian roedd y busnes yn ei wneud mewn Rhaglen Cymorth i Weithwyr i helpu i gefnogi ein staff drwy bandemig byd-eang. Mae Rhaglen Cymorth i Weithwyr yn helpu staff drwy roi cefnogaeth iechyd meddwl, cwnsela, cyngor ar dai a nifer o feysydd eraill, ac mae’n wych cael arbenigwyr wrth law i helpu ein tîm pan fydd angen help arnynt.

 

Mae ennill gwobrau yn wych hefyd. Maen nhw’n profi bod y gwaith rydych chi'n ei wneud yn cael ei gydnabod y tu allan i ecosystem eich busnes. Felly, mae ennill gwobr Sefydliad y Cyfarwyddwyr, ynghyd â chynifer o rai eraill, wedi gwneud i ni sylweddoli ein bod wedi cyflawni rhywbeth da ac wedi tanio ein huchelgais i fod yn fwy byth ac yn well byth. Mae ymddangos ar restr Fast Growth 50 am bedair blynedd hefyd yn destun balchder mawr i ni. 

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Rydw i wedi gorfod goresgyn llawer o heriau. 

Pan oeddwn i’n 19 oed, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy ystyried yn fethiant a minnau’n fam sengl a oedd wedi cael diagnosis o iselder. Roeddwn i’n teimlo fel methiant llwyr. Ond roedd cael gweledigaeth glir a chadarn o sut ddyfodol y gallwn i a’m plant ei gael pe bawn i’n gweithio’n galed yn rhoi’r cryfder dyddiol i mi fynd i’r afael â phob diwrnod anodd. Roedd gen i’r cymhelliant i gyflawni popeth rydw i wedi ei gyflawni ac i lwyddo.

Cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, talu biliau bob dydd a gorfod benthyg deg punt yma ac acw, a hynny tra fy mod i’n byw ar fudd-daliadau ac yn gweithio’n rhan amser oedd y prif reswm dros godi bob bore, i wneud fy ngorau glas ar gyfer fy musnes bob dydd. Dyna wnaeth fy sbarduno i fod yn entrepreneur llwyddiannus. Fyddwn i ddim eisiau mynd yn ôl i’r dyddiau hynny, BYTH, felly mae gwaith caled yn gwbl hanfodol i mi.

Cefais ddiagnosis o iselder pan oeddwn i’n 18 oed ac rwy’n dal i fyw gydag ef heddiw yn 35 oed.

 

Sut ydw i’n delio â hyn? Wel, rydw i’n credu’n angerddol mewn symud ymlaen, ond rydw i hefyd yn credu mewn myfyrio. Rydw i wedi dysgu sawl techneg i ddelio â fy iechyd meddwl, gan gynnwys cadw dyddiadur, ymwybyddiaeth ofalgar, bod yn ymwybodol o’r hyn mae fy meddyliau’n ei ddweud wrtha i a sut i ymateb i’r lleisiau negyddol yn fy mhen a’r hunan-amheuaeth. Un o’r prif wersi rydw i wedi’u dysgu am fod mewn busnes yw pa mor hanfodol yw neilltuo amser ar gyfer hunanofal, boed drwy fynd allan i redeg neu ddarllen llyfr. Mae hunanofal yn hanfodol i’ch llesiant cyffredinol. Nid ymgolli’n llwyr yn y busnes yw’r peth gorau i entrepreneur neu i’r cwmni. Mae wedi bod yn un o’r gwersi mwyaf i mi ac rydw i’n dal i ddysgu.

Dydw i byth yn stopio ac rydw i hyd yn oed wedi gosod heriau mawr i mi fy hun y tu allan i fy musnes – boed hynny’n daith feicio 400km ar draws mynyddoedd Seland Newydd, trecio ym Mhatagonia neu redeg Marathon Llundain. Mae’r heriau eithafol hyn yn rhoi ffocws i mi y tu hwnt i fod yn entrepreneur ac yn ffordd i mi leddfu’r straen o arwain busnes sy’n tyfu’n gyflym. Mae’r heriau hyn yn fy helpu i ac maen nhw hefyd yn helpu pobl eraill. Rydw i wedi codi dros £40,000 i wahanol elusennau.

Pan ymunodd fy ngŵr Ashley â’r busnes, roeddem yn cymryd risg newydd ond risg sydd wedi talu ar ei ganfed. Desg gyfrifiadur dan risiau tŷ teras bach tair ystafell wely oedd ein swyddfa gyntaf. Erbyn hyn, rydyn ni’n defnyddio cyfres o swyddfeydd, mae gennym ni gyfleuster storio ac rydyn ni’n cyflogi cannoedd o bobl. Rydyn ni wedi dod yn bell.

Mae Ashley a minnau’n gweithio fel tîm, ac rydyn ni wedi manteisio ar sgiliau ein gilydd i sicrhau twf. Am y chwe blynedd gyntaf, roedd y twf yn gyson, ond roedd modd ymdopi â’r gwaith gyda theulu ifanc. Gyda’r ddau ohonom yn y busnes, roedd hi’n anodd jyglo gofal plant. Roedd gofal plant ar ôl ysgol a gweithgareddau ar ôl ysgol yn gymorth mawr i ni. Pan ddechreuom weld twf sydyn, fe wnaethom ni sylweddoli bod angen cymorth arnom i reoli’r lefel hon o dwf.

Roedd hynny’n golygu bod angen cymorth arbenigol arnom, felly fe wnaethom gysylltu â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i gael cyngor ac arweiniad. Mae’r rhaglen wedi bod yn rhan annatod o’n twf byth ers hynny. O’r cychwyn cyntaf, fe wnaethom fabwysiadu dwy egwyddor sylfaenol sy’n dal yn wir heddiw – trin ein staff yn dda a defnyddio cynnyrch o ansawdd sy’n bodloni Safonau BSEN. Rydyn ni wedi adeiladu tîm ffyddlon ac wedi rhoi cyfleoedd gyrfa i’r rheini sydd eisiau symud ymlaen i faes rheoli. Mae wedi bod yn ffactor hollbwysig wrth ddarparu gwasanaeth o safon. Ein hoff ddywediad yw “Ein staff ni yw ein busnes ni”.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Ar ôl pwyso a mesur, rwy’n meddwl y gallem fod wedi cysylltu’n gynt i gael cyngor i reoli ein twf. Rwy’n meddwl y byddwn i’n cynghori unrhyw un i asesu set sgiliau eich tîm, yn enwedig pan fyddwch chi’n tyfu. Efallai y bydd eich tîm yn gallu delio â’r llwyth gwaith a’r math o waith pan fyddwch chi’n fach, ond efallai y bydd angen set wahanol o sgiliau arnynt i ymdopi mewn busnes mwy.

Pe baem wedi cymryd ychydig mwy o risgiau wrth gyflogi pobl yn gynt nag a wnaethom, efallai y byddai’r busnes wedi tyfu hyd yn oed yn gynt. Pwy a ŵyr ble bydden ni nawr pe baem wedi cymryd mwy o risgiau? Ond ydw i’n difaru hyn? Nac ydw. Mae tyfu ar gyflymder sy’n gyfforddus i ni wedi ein galluogi i sicrhau bod ein sylfeini’n gadarn, ar bob cam. Erbyn hyn, rydyn ni’n dîm o dros 300 o bobl gyda sylfeini, systemau a phrosesau cadarn iawn yn ogystal â diwylliant cryf. Mae unrhyw beth yn bosibl.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn drawsnewidiol. Mae wedi helpu pob un ohonom i ddod o hyd i’n rôl yn ein cwmni ac i symud i weithio ar y busnes yn hytrach nag ynddo.

Fe wnaeth hyfforddwr strategaethau ein helpu i sylweddoli beth oedd angen i ni ei wneud i dyfu a rheoli’r busnes yn dda. Cawsom ein cyflwyno i adnoddau fel y Cerdyn Sgorio Cytbwys, sy’n golygu ein bod nawr yn rheoli gyda rhifau ac yn fwy amlwg a hyderus wrth gynllunio. Roedd cynllun marchnata clir yn helpu i roi ffocws gwerthfawr i ni. 

Mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf wedi rhoi mwy o hyder i mi ac wedi fy helpu i gyflawni’r newidiadau yr oedd angen i mi eu gwneud i leihau’r baich o gario straen pobl eraill.

Mae twf yn fwy cyffrous o lawer nawr nag yr arferai fod ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fyddwn ni’n ei gyflawni dros y 10 mlynedd nesaf. Yn enwedig gyda meddylfryd newydd!

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

● Byddwch yn agored i gyngor gan bobl o’r tu allan – peidiwch â bod â chywilydd o’ch diffyg gwybodaeth.

● Estynnwch allan yn gynnar i gael cymorth proffesiynol. 

● Sylweddolwch fod adnoddau ar gael y gallwch eu defnyddio i wneud eich busnes yn well ac i wneud bywyd yn haws ei reoli.

● Defnyddiwch bobl wych i rannu gwaith y rheolwyr.

● Cymerwch risgiau pwyllog.

● Cofiwch neilltuo amser ar gyfer hunanofal.
 


Dysgu mwy am A&R.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page