Mae ein cyfres o flogiau ar y cwmnïau a gefnogir gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn parhau i hoelio sylw ar y cwmni cynhyrchion harddwch moesegol, Naissance.

Ganwyd y sefydlwr Jem Skelding yng Nghymru ac fe'i magwyd mewn gwledydd o amgylch Affrica lle y byddai'n gwylio ei fam yn creu meddyginiaethau â llaw yng nghegin y teulu gan ddefnyddio cynhwysion naturiol.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd hyn wedi'i ysbrydoli i ddechrau cwmni ei hunan yn ei ystafell sbâr sydd bellach yn fusnes sydd â throsiant o filiynau o bunnau.

Yma, mae Jem Skelding yn adrodd stori Naissance, yn rhannu ei brofiadau ac yn cynnig awgrymiadau i entrepreneuriaid eraill sy'n cychwyn arni yn y byd busnes.

 

Dywedwch wrthym am Naissance.
Cefais fy ysbrydoli i ddechrau rhywbeth newydd, ar ôl gwylio fy mam yn gwneud meddyginiaethau gan ddefnyddio cynhwysion naturiol. Dechreuodd y cyfan yn fy ystafell sbâr.

Rydym o hyd wedi bod yn ne-orllewin Cymru, gan ddechrau yn Nyffryn Aman cyn symud i eiddo yng Nghastell-nedd pan oedd angen mwy o le arnom.

Rydym bellach yn gweithredu o dri adeilad mawr, ac rydym wedi gosod ystafelloedd o'r radd flaenaf fel ein bod yn gallu bodloni gofynion y farchnad fyd-eang.

Ers ymuno â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydym wedi datblygu ymhellach ac nid ydym wedi bod ofn newid pethau nad oedd yn gweithio cystal i'n cadw ar y trywydd iawn.

Rydym bellach yn cyflogi mwy na 100 o bobl yng Nghastell-nedd a'r Almaen. Ac mae gennym wefan amlieithog, gyda sianeli Sbaeneg, Eidaleg ac Almaeneg.

Rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio cynhwysion moesegol ac mae hynny wrth wraidd bopeth a wnawn sy'n golygu cefnogi ein tyfwyr, pa un ai yn y gwledydd datblygol neu yng ngwledydd y Gorllewin. Rydym hefyd yn talu cyflog byw i'n staff.

 

 

Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?

Mae cael gwobr Busnes Allforio Bach y Flwyddyn 2019 Amazon yn anrhydedd enfawr i Naissance. Rydym o hyd yn edrych am ffyrdd gwell ac arloesol o weithio'n fwy moesegol a chynaliadwy. Mae'r pethau hyn nid yn unig o les inni fel busnes ond, yn bwysicach, maent o les unigolion, cymunedau, cymdeithas a'r byd yr ydym yn byw ynddo. Rwy'n credu bod y wobr hon yn cydnabod ein ethos fel cwmni.

Roedd cael ein cynnwys yn Wales Fast Growth 50 yn 2018 yn hwb mawr arall inni.

Rydym o hyd yn falch o'r hyn a wnawn fel cwmni, yn cefnogi tyfwyr drwy dalu prisiau teg am eu cynhyrchion a'u help i wella'u cyfleusterau cynhyrchu a gweithio gyda chymunedau i ddod â dŵr glân i'w hardaloedd.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?

Byddem wedi buddsoddi ynghynt mewn meddalwedd rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) ar lefel menter. Mae system fel NetSuite yn darparu gwell gwybodaeth reoli lawer yn fwy cyflym.

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Pan ymunom â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, roedd gennym drosiant o £6miliwn – mae’n £19miliwn bellach. 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ein helpu i farchnata a brandio, gan ddiogelu eiddo deallusol megis nod masnach.

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru hefyd wedi ein helpu gyda phrosiectau mawr, megis gwella dyluniad, platfform a pherfformiad ein gwefan, yn ogystal â dylunio a gweithredu system TG CRM ar lefel menter.

Rydym hefyd wedi cael cymorth i fanteisio ar £100,000 o gyllid grant Cronfa Cydnerthedd Brexit Cymru i awtomateiddio a gwella cynhyrchiant ymhellach.

 


 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

● Rhaid ichi gael gwerthoedd clir sy'n hyrwyddo arferion moesegol a chynhyrchion gwych.

● Symudwch yn gyflym a chreu mwy a mwy arian parod.

● Buddsoddwch yn y dechnoleg orau.

● Peidiwch ag ofni gwneud camgymeriadau.

 


 

Dysgu mwy am Naissance.

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page