Yn ein cyfres blog ddiweddaraf, rydym yn siarad gydag un o'r busnesau rydym yn gweithio â hwy i ddysgu mwy am eu taith, eu huchelgeisiau a’u hawgrymiadau ar gyfer llwyddiant eu busnes.

Evabuild sydd o dan y chwyddwydr. Bu Nick Evans, sylfaenydd y busnes a'r rheolwr gyfarwyddwr, yn gweithio fel peiriannydd sifil cyn sefydlu EvaBuild. Mae'r cwmni, a sylfaenwyd yn 2011, yn arbenigwr mewn peirianneg sifil, adeiladu a gwaith ar y tir ac mae'n darparu arolygon proffesiynol o safleoedd, archwiliadau tir yn ogystal â gwasanaeth rheoli prosiect.

Yma mae Nick Evans yn rhannu'r hyn y mae ef wedi'i ddysgu ar ei daith fusnes hyd yn hyn.

 

Dywedwch wrthym am Evabuild.
Dechreuais fy musnes - a'i gynnal - o'm cartref, ond wrth iddo dyfu golygai ein bod angen lle iawn ar gyfer y swyddfa a lleoliad iawn. Mae hynny gennym bellach yng nghanol Y Drenewydd.

Rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth ac ansawdd yn y gwaith rydym yn ei wneud ac yn teimlo'n gryf am hynny hefyd. Mae ein gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl yn ddiweddar yn dystiolaeth o hynny, a'r gwaith rydym yn ei wneud i arwain a rheoli tîm o staff ymroddedig.

 

Nick Evans o Evabuild
Nick Evans o Evabuild

 

Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?
Yr hyn rwy'n fwyaf balch ohono oedd ennill gwobr 50 Cwmni Twf Gorau Cymru yn 2015. Defnyddiwyd y wobr hon nid yn unig i ddathlu twf y cwmni - 733% dros ddwy flynedd - ond i ddathlu popeth oeddem wedi'i gyflawni hyd yma. Roedd y tîm wedi gwneud sawl aberth bersonol i greu a sefydlu'r cwmni, ac roedd hyn yn esgus gwych i ddathlu hynny a'r holl bethau eraill roeddem wedi ei gyflawni ar y ffordd.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Nid wyf yn teimlo y byddem wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol i'r hyn a wnaethom - dim ond rhai pethau bach iawn sy'n benodol i'r cwmni.

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Bu y cymorth rydyn ni wedi ei gael gan reolwyr perthynas Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru fu'n cynnal adolygiad o'r busnes cyfan yn werthfawr iawn. Rydyn ni hefyd wedi cael cymorth gyda marchnata, brandio, cysylltiadau cyhoeddus - a phecyn TG llwyddiannus yn y gwaith, sydd rwy'n credu wedi bod fwyaf gwerthfawr.

 

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?
 

●     Y cyntaf yw DNA sylfaenol eich busnes: eich PAM, GWELEDIGAETH a'ch GWERTHOEDD. Dyma'r dair garreg filltir ddylid eu pennu o'r cychwyn cyntaf. Mae'r entrepreneuriaid gwirioneddol lwyddiannus yn gwybod pam y maent mewn busnes ac mae ganddynt stori wych. Mae ganddynt hefyd weledigaeth glir a chryno o gyfeiriad y busnes yn y dyfodol. Ac mae cwmnïau gwych yn seiliedig ar werthoedd craidd cryf. Bydd cael y gwerthoedd craidd yn iawn yn amlwg drwy bopeth - eich cynllun busnes, eich marchnata, a dylai ddylanwadu ar bwy yr ydych yn ei recriwtio.
 

●     Adeiladwch eich rhwydwaith! Yn y dechrau, mae'n allweddol bwysig i gael eich neges allan i'r bobl iawn - y dylanwadwyr. Gwnewch gynllun clir o pwy i'w dargedu a chreu yr hyn yr wyf i yn ei alw yn "gylchoedd dylanwad". Ni fydd y bobl hyn o fewn sector eich marchnad o angenrheidrwydd. Ond dewiswch bobl ddylanwadol fydd yn gweithredu fel negeseuwyr - eich llysgenhadon.
 

●     Gwnewch yn siŵr eich bod yn unigryw - eich Pwynt Gwerthu Unigryw! Nid oes ots pa mor unigryw yw eich busnes, mae angen iddo sefyll allan. Gwnewch addewid i'ch cleientiaid na all eich cwmnïau eraill ei wneud. Mewn marchnad brysur a chystadleuol mae hyn yn hollbwysig.
 

●     Cyn gynted ag y gallwch fforddio hynny, talwch am yr hyn yr ydych yn wan ynddo. Mae busnes ar y cyfan yn golygu gwerthu, proses a chyllideb. Anaml iawn y mae entrepreneuriaid yn rhagori yn y tri pheth. Byddwch yn onest a defnyddiwch eich cryfderau - gan dalu i bobl wych wneud y pethau nad ydych yn dda am eu gwneud. Peidiwch ag ofni talu pobl sy'n well na chi eich hun ac yn meddwl yn wahanol i chi. Dyma'r hyn fyddwch ei eisiau. A phan fyddwch yn creu eich tîm gwych, bydd yn rhaid ichi adael i bobl eraill wneud y gwaith! Dysgwch sut i ddirprwyo a bod yn gyfforddus gyda hynny.
 

●     Wrth i'ch busnes ddatblygu, mae'n hollbwysig eich bod yn creu systemau cadarn i wneud i'ch busnes redeg yn rhwydd. Crëwch eich systemau fel eu bod yn rhedeg y busnes, a bod y bobl yn rhedeg y systemau. Cyrhaeddwch y pwynt ble y mae eich systemau yn darparu lefelau gwasanaeth sy'n uchel yn gyson.


 

Dysgu mwy am Evabuild.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page