Cadw’r economi i fynd yw’r sbardun y tu ôl i’r cwmni nesaf yn ein cyfres o flogiau. 

Mae FSEW yn gwmni logisteg a threfnu cludiant rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn Gwynllŵg, Caerdydd ac yn Northampton. Ar hyn o bryd yn cyflogi oddeutu 80 o bobl, mae’r cwmni’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth i gleientiaid yn y DU, Ewrop a ledled y byd. 

Yma, mae sylfaenydd FSEW, Geoff Tomlinson yn adrodd stori’r cwmni ac yn rhoi rhywfaint o gyngor i eraill sy’n mentro gydag entrepreneuriaeth. 

 

Dywedwch fwy wrthym am FSEW
Wedi gweld bwlch yn y farchnad am gwmni trefnu cludiant yn seiliedig ar y cwsmer, lansiais FSEW ym mis Gorffennaf 2002. Fy nod oedd i FSEW gynnig gwasanaeth gwerth am arian oedd ar amser, yn ddibynadwy ac yn rhoi gwerth am arian yn y diwydiant cludiant.  Defnyddiais fy holl brofiad yn y sector i arwain y cwmni tuag at y nod hwnnw. 

Yn 2005 cawsom ein henwi y cwmni oedd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru yn y Fast Growth 50, ac yn 2006, aeth yr ehangu cyflym hwnnw yn ei flaen pan gawsom ein henwi yr 11eg cwmni oedd yn datblygu gyflymaf yn yr un gwobrau. 


 

 

Pryd oeddech yn teimlo fwyaf balch o’ch busnes hyd yma?
Eleni, ni oedd Cludwr Cydweithredol y Flwyddyn Tesco.  Roedd yn hwb enfawr ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.  Mae gwobrau fel hyn nid yn unig yn hwb i mi, fy nhim o arweinwyr a’m staff prysur -  ond mae hefyd yn dangos i gleientiaid a chlientiaid posibl bod ein busnes yn arwain y sector.  

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech wedi ei wneud yn wahanol?
Beth fyddem wedi ei wneud yn wahanol? Rydyn ni’n ddigon hyderus i ddweud dim; mae popeth yn mynd yn iawn hyd yma! 

 

Sut mae’r cymorth a gafwyd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae FSEW wedi elwa o gymorth i roi gweledigaeth strategol a chynllun busnes gan ein rheolwr perthynas Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.  Mae’r cwmni hefyd wedi derbyn prosiectau hyfforddi penodol i weld opsiynau o ran eiddo ac adleoli a datblygu ceisiadau grant ar gyfer gosod pwyntiau gwefru trydan. 

 

 

Pa gyngor a chanllwaiau fyddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy’n dechrau?

● Dilyn eich greddf a datblygu eich busnes.

● Peidio bod ofn cymryd risg cyfrifol

● Recriwtio a datblygu tîm cryf gydag arbenigedd gwirioneddol.

● Sicrhau bod cleientiaid yn ganolog i bopeth y mae eich busnes yn ei wneud.

 

Dysgu mwy am FSEW.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page