Yn ein cyfres blog diweddaraf, rydym yn siarad gydag un o'r busnesau rydym yn gweithio â hwy i ddysgu mwy am eu taith, eu huchelgeisiau a’u hawgrymiadau gwych ar gyfer llwyddiant eu busnes.

 

Mae Workplace Worksafe o dan y chwyddwydr, wedi'i sefydlu gan y rheolwr gyfarwyddwr Rhian Parry. Mae'r cwmni o Ruthun wedi tyfu'n raddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae ganddo uchelgeisiau ar gyfer twf yn y dyfodol. Yn wreiddiol, roedd y busnes yn darparu cyfarpar diogelu personol cyffredinol ond yn ddiweddar mae wedi ymestyn i feysydd arbenigol sy'n cynnig eitemau diogelu ar gyfer ffermydd gwynt ar y môr. Mae hefyd wedi dylunio ei fagiau cludo diogelwch cydrannau mawr ar gyfer y sector ynni.

 

 

Yma mae Rhian Parry yn rhannu'r hyn y mae hi wedi'i ddysgu ar ei thaith fusnes hyd yn hyn.

 

Dywedwch wrthym am Workplace Worksafe.
Ar hyn o bryd mae gennym 15 aelod o staff yn ein canolfan yn Rhuthun, ac mae ein llwyddiant yn deillio o'n gwybodaeth am yr hyn mae'r diwydiant ei angen, gan gynnwys gofynion cyfarpar allweddol.

Gwnes i ddylunio systemau cludo diogelwch i safon uchel ar gyfer cydrannau'r sector ynni, sy'n gallu cael eu niweidio yn ystod eu cludo a'u gosod. Yr eitemau hyn yn bennaf sydd wedi gyrru twf y cwmni a'n busnes allforio sylweddol.

Bydd ein twf parhaus yn seiliedig ar gyfuniad o dwf pellach o ran ein cynnyrch newydd ar gyfer y sector ynni, estyniad pellach dramor yn ogystal â thwf o ran y busnes dillad gwaith craidd.

 

Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?

Mae gen i gwpwl o bethau dw i’n falch ohonynt. Mae un yn ddiweddar, lle y gwnaeth un o'r cynnyrch y gwnes ei ddylunio, ei ddatblygu ac sy'n cael ei weithgynhyrchu yng Nghymru ennill y wobr gymeradwyaeth uchel gan Ffederasiwn Diwydiant Diogelwch Prydain (BSIF) ar gyfer Datrysiad Diogelwch yn y diwydiant.

Roeddem yn wynebu cystadleuaeth gref iawn ac yn cystadlu yn erbyn sefydliadau rhyngwladol enfawr. Roedd cael cydnabyddiaeth gan y diwydiant diogelwch am gynnyrch roeddwn i wedi'i ddylunio a'i ddatblygu yn foment falch ac emosiynol i mi.

Ond dw i hefyd yn falch bob dydd, oherwydd dw i'n lwcus i weithio gyda fy nhîm fan hyn yn Rhuthun. Mae gennym dîm rhyfeddol, ac mae pawb yn gweithio mor galed. Gyda'n gilydd rydym yn cyflawni pethau da iawn i'r cwmni: ennill cwsmeriaid newydd, delio gyda dyddiadau cau anodd drwy'r amser, ac rydym yn llwyddo i'w wneud (y rhan fwyaf o'r amser!) gan wenu a chwerthin. Ni allwn i wneud beth dw i'n ei wneud ym myd busnes heb ein tîm – dw i byth yn anghofio hyn a dw i mor falch o sut rydyn ni wedi tyfu a datblygu'r tîm rhyfeddol yma o'r dechrau'n deg.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?

Dw i ddim yn credu y byddwn i'n gwneud llawer yn wahanol o gwbl. I ddweud y gwir bu'n broses werthfawr a phleserus a dw i wedi ennill gymaint o foddhad ohoni hefyd.

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Mae hyfforddiant marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a gwerthiant penodol gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn arbennig o werthfawr i ni, mae wir wedi ein helpu wrth i ni dyfu.
 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

 

  • Peidiwch byth â thanwerthu eich hunan: codwch dâl am eich amser. Os ydych chi'n mynd i dreulio wyth awr yn gwneud rhywbeth dylech godi tâl am yr amser a gymerodd i chi ei wneud.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod marchnad, costau a gwerthiant eich cynnyrch. Dw i'n gweld llawer gormod o gwmnïau yn tanwerthu'r cynnyrch y maen nhw'n ei wneud oherwydd eu bod yn teimlo’n euog am ei wneud – ac na chafodd ei wneud gan gwmni mwy.
  • Credwch yn eich hunan a'ch cynnyrch –  mae yna reswm pam fod pobl yn prynu wrthoch chi ac mae hynny o'ch herwydd chi, y gwasanaeth neu'r cynnyrch.
  • Y cwsmer sydd wirioneddol bwysicaf, y diwrnod rydych chi'n anghofio hynny dylech gau'r drws a mynd adref!

 

Dysgu mwy am Workplace Worksafe.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page