Mae ein blog sy'n edrych ar y cwmnïau y mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi’u helpu yn parhau gyda FuelActive – gwneuthurwr system danwydd arloesol o Ffynnon Taf. Mae FuelActive wedi datblygu ffordd o drosglwyddo tanwydd sy'n cael gwared ar broblemau sy'n deillio o ddiesel halogedig.

Mae’r uned FuelActive, sydd â phatent arni, yn disodli’r bibell safonol sy'n codi’r tanwydd, gan wneud yn siŵr mai dim ond y tanwydd glanaf yn y tanc sy'n dod allan.  Cychwynnodd stori FuelActive ym 1998, o dan arweiniad y sylfaenydd, Mike James. Ac yntau’n beiriannydd a oedd wedi bod yn trwsio ac yn cynnal a chadw offer am 30 mlynedd a mwy, roedd Mike wedi gweld â’i lygaid ei hun faint o effaith yr oedd achosion o fethiannau'n ei chael ar y diwydiant adeiladu yn y DU – 85% ohonynt wedi’u hachosi gan ddiesel halogedig. Felly meddyliodd am syniad arloesol a fyddai’n mynd i’r afael â’r broblem.

Yma, mae Mike James yn rhannu’r profiadau y mae wedi’u cael ar ei daith ym myd busnes hyd yn hyn – ac yn rhannu cyngor ag entrepreneuriaid eraill. 
 

Dywedwch wrthym am FuelActive.
Drwy ddefnyddio dyfais sy'n arnofio i dynnu tanwydd o’r lefel uchaf, a gadael dŵr a gwaddod ar waelod y tanc, mae FuelActive yn gwneud yn siŵr mai dim ond y tanwydd glanaf yn y tanc sy'n cael ei ddefnyddio. Mae’n golygu na fydd tanwydd wedi’i halogi byth yn mynd i mewn i’r hidlyddion na’r injan.

Cefais y syniad a fyddai’n arwain at FuelActive pan oeddwn i’n gweithio gyda chwmni o’r enw Hydrainer Pumps.  Roedd offer cwsmer newydd mawr wedi methu ar ôl dim ond 10 munud. Daeth yn amlwg mai tanwydd halogedig oedd y broblem, er bod pobl ar y pryd yn syml iawn yn beio ansawdd y tanwydd ar y safle. Yn anffodus, roedd methiannau fel hyn wedi dechrau digwydd yn gyson, ac roedd angen dod o hyd i ateb.

Felly dechreuais feddwl am ffordd o fynd o’i chwmpas hi, a llwyddo i gynhyrchu prototeip a fyddai'n gallu gweithio. Roedd Hydrainer Pumps yn awyddus i roi cynnig arno, a dyma nhw’n gosod yr uned FuelActive. Fe wnes innau gynhyrchu nifer o rai eraill, a gosodwyd pob un ohonyn nhw. Roeddwn i’n gwneud mân newidiadau bob tro, felly roedd hi'n dod yn haws cynhyrchu’r system a’i gosod.

Roedd yr uned gyntaf yn llwyddiannus a threfnwyd rhagor o dreialon ar gyfer profion pellach. Felly bu cyfnod hir o waith ymchwil a datblygu, lle buom yn gweithio gyda’r sector addysg uwch, a gyda chymorth ariannol gan lywodraeth leol. Ac yna ganwyd FuelActive.

Ar ôl buddsoddiad dilynol gan Adjuvo, mae’r cwmni bellach mewn sefyllfa dda i wireddu ei holl botensial.

 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
Canfu profion statig a dynamig annibynnol gan Sogefi, gwneuthurwr hidlyddion injan, fod system codi tanwydd FuelActive yn gwneud y system 94% yn fwy dibynadwy. Mae hynny’n cymharu â 2.3% wrth ddefnyddio’r dull confensiynol.

Rydym ni’n falch iawn o’r ffigur hwnnw, ac rydym wedi cael rhagor o gefnogaeth gan Komatsu, Caterpillar a Volvo, sydd wedi profi FuelActive yn drylwyr yn y maes ac wedi cael canlyniadau rhagorol.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Fe fyddwn i’n gwneud mwy o ymdrech i gasglu data cyn mentro i’r farchnad. Gan fod FuelActive yn gweithio mewn chwe sector ac yn ateb problem fyd-eang, mae’r farchnad darged bosibl yn anferth. Rydym ni wedi cynnal gwaith ymchwil manwl i’r farchnad ym mhob un o’r sectorau, ac mae hynny wedi gwella ein ffocws o ran segmentu, targedu a lleoli. Mae’r ffocws gwell hwn wedi helpu i flaenoriaethu pwy rydym ni’n ei dargedu a pham – ac wedi rhoi syniad i ni sut i fynd o’i chwmpas hi.

 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Claire Bentley, ein pennaeth marchnata, sydd wedi goruchwylio gwaith Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru o fewn FuelActive. 

Yn gyntaf oll, cawsom gyngor arbenigol ym maes adnoddau dynol, a oedd yn dipyn o help i ni. Cynhaliwyd adroddiad Rôl Tîm Belbin i weld sut oedd y tîm yn cydweithio ac i weld a fyddai unrhyw fathau o bersonoliaethau’n fuddiol i greu tîm sgilgar cyflawn wrth recriwtio yn y dyfodol. 

Mae wedi ein helpu i sylweddoli pa mor bwysig yw cyflogi’r bobl iawn gyda’r sgiliau iawn, ar yr amser iawn, er mwyn tyfu’n llwyddiannus.

Yna cawsom help i asesu ein proses gynhyrchu, a thynnwyd sylw at dagfeydd a ffyrdd o’u hatal mewn cyfnod o dwf cyflym.

Hefyd, gyda help Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, cafodd cyflwyniad PowerPoint FuelActive ei weddnewid yn gyflwyniad rhyngweithiol heb ei ail, a ddylai ein helpu i ennill cleientiaid yn y dyfodol.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi cael cymorth i wella ein strategaeth marchnata digidol, gyda phwyslais ar gryfhau’r SEO a gwella gwaith ym maes cyfryngau cymdeithasol.

Mae FuelActive hefyd wedi cael sesiwn un i un gydag ymgynghorydd busnes Adnoddau Dynol, a roddodd gyngor i ni ar y polisïau a’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar fusnes o’n maint ni.

Yn olaf, cawsom gyngor ar allforio, ac adolygiadau ynghylch ein harferion a’n gweithdrefnau dogfennu. Argymhellodd y Rhaglen Cyflymu Twf hefyd y byddai’n syniad da i’r busnes fod yn aelod o Siambr Fasnach De Cymru. Cawsom hefyd wybodaeth ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael o ran teithiau masnach Llywodraeth Cymru a’r grant ar gyfer Ymweliadau Tramor i Ddatblygu Busnes (OBDV).

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

● Cymrwch y cam ac ewch amdani – mae pethau'n siŵr o weithio.

● Y risg fwyaf yw peidio â chymryd unrhyw risg.

● Dewch o hyd i ffordd, nid i esgus.
 

 

Dysgu mwy am FuelActive.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page