Mae gwerthoedd teuluol yn gallu bod wrth galon busnes llwyddiannus a ffyniannus.

Mae TB Davies yng Nghaerdydd yn fusnes teuluol pedwaredd genhedlaeth, a sefydlwyd yn y 1940au i wneud diwydiant yn fwy diogel. Mae’r cwmni’n cynhyrchu ac yn dosbarthu ystod lawn o gynnyrch dringo, gan gynnwys grisiau, ysgolion, sgaffaldiau, a phodia ar gyfer defnyddwyr proffesiynol a masnach.

Yma, mae David Gray o TB Davies yn dweud wrthym am y cwmni, sut roedd y cwmni wedi llwyddo, sut mae’n falch o fod yn gyflogwr cymunedol a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedwch wrthym am TB Davies.
Mae hanes y busnes yn mynd yn ôl i’r Ail Ryfel Byd. 

Adeg hynny, roedd ein sylfaenydd – a’m hen-daid – Bryn Davies, wedi bod yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac roedd yn dipyn o entrepreneur rhwng y rhyfeloedd. Daeth yn swyddog warant yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn fan honn fe gyfarfu â Colin Morgan a fyddai’n dod yn rheolwr gyfarwyddwr. Daethant yn ffrindiau ac roedd Bryn dan deimlad oherwydd pryderon Colin am fywyd ar ôl y rhyfel. Roedd Colin yn iau o lawer ac roedd hi’n amlwg yn gyfnod pryderus i bobl a oedd â'u bywyd o’u blaenau.

Er mwyn tawelu meddwl Colin, fe addawodd Bryn y byddai swydd yn disgwyl amdano pan fyddai’r rhyfel yn dod i ben. Ar ddiwedd y rhyfel, roedd Bryn yn ei 50au ac fe werthodd ei dŷ i dalu am ei fusnes ifanc er mwyn gwireddu’r addewid a wnaeth i’w gyfaill.  Yn yr un modd ag y mae ysgol yn fwy na metel a grisiau, roedd Bryn yn deall bod mwy i’w gwmni na dim ond y cynnyrch. 

Mae ein cwmni wedi bod yn gweithredu ers dros 70 o flynyddoedd bellach, ac mae llawer o bobl wych wedi helpu TB Davies i adeiladu ar yr hyn roedd Bryn a Colin wedi’i ddechrau. Byddai Bryn yn falch o weld sut mae'r angerdd hwnnw wedi creu gorffennol gwych, presennol saffach a dyfodol cyffrous. Rydyn ni’n falch iawn bod y teulu’n parhau wrth galon y cwmni a’n hethos. 

 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud, roedden ni’n meddwl y byddai’n rhaid i ni gau ein gweithrediadau. Ond wrth i ni baratoi ar gyfer cyfnod hollol ddieithr, fe wnaethon ni ddechrau cael galwadau gan fusnesau a oedd â chontractau i weithio gyda’r fyddin i drosi adeiladau o amgylch y wlad yn ysbytai dros dro. Roedd angen ein cynnyrch ni arnyn nhw. Roedd yr alwad gan yr ysbytai yn drobwynt gan nad oedd modd i ni gau’n gyfan gwbl, ond ar yr adeg honno roedd hi’n anodd dod o hyd i wybodaeth am sut roedd modd masnachu’n ddiogel. 

Roedden ni’n ffodus gan fod gennym ni safle newydd gyda seilwaith TG fodern a oedd yn golygu ein bod yn gallu gweithredu nifer o’n systemau o bell. Gyda’r timau gweinyddol yn gweithio’n ddiogel gartref, fe wnaethom ganolbwyntio ar lawr y ffatri ei hun, gan sefydlu arferion diogel gyda’n staff mwyaf profiadol yn asgwrn cefn i griw bach o weithwyr.

Wrth i'r diwrnodau basio ac wrth i’n cwsmeriaid masnachol roi’r gorau i weithio dros dro, fe wnaethom ddod o hyd i gwsmeriaid newydd annisgwyl yn y sector DIY. Roedd perchnogion cartrefi eisiau defnyddio eu hamser yn adeiladol a manteisio ar y tywydd braf i weithio ar adnewyddu eu cartrefi. Fe welsom gynnydd enfawr yn y galw am ysgolion pwyso, ysgolion cyfuniad ac ysgolion atig wrth i bobl fynd i'r afael â phopeth o brosiectau peintio bach i osod ysgolion i’r atig er mwyn manteisio i'r eithaf ar eu lle storio.

Roedd y llif newydd hwn o fusnes wedi caniatáu i ni fasnachu ar lefelau uwch o lawer na’r disgwyl. Roedd yn golygu ein bod wedi gallu dod â phethau’n ôl i’r arfer yn gyflymach na’r hyn roeddem wedi’i ddisgwyl yn wreiddiol ar ddechrau’r argyfwng. Yn y tymor hirach, mae’r profiad wedi addasu ein cynlluniau i feddwl yn fwy gofalus am y sector DIY a masnach ysgafn.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Mae hwn yn gwestiwn anodd i gwmni fel ein cwmni ni ei ateb. Rydyn ni’n dilyn yr egwyddorion a ddilynwyd i sefydlu TB Davies ac mae'r rhain wedi ein galluogi i dyfu a bod yn gwmni llwyddiannus. Mae gennym ni staff ffyddlon a phrofiadol, ac maen nhw wedi bod yn hollbwysig i’n llwyddiant drwy gydol y cyfnod hwn o ansicrwydd mawr.

 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn ddefnyddiol dros ben, ac rydyn ni wedi manteisio ar seminarau i helpu gydag amrywiaeth enfawr o faterion o gyfathrebu â staff a chwsmeriaid i sut gallwn ni weithio’n fwy diogel. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid, ac rydyn ni’n gobeithio ein bod mewn sefyllfa gryf i ddiogelu swyddi yma a pharhau â’n strategaeth twf fel rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

● Mae bod yn ddeinamig ac yn hyblyg yn hollbwysig yn yr economi fodern. Fe welsom fod hynny’n fantais i ni wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno ar draws y wlad ac roedd hynny wedi ein helpu wrth i ni symud yn ôl i ryw fath o normalrwydd.

● Mae profiad yn hanfodol. Ond ni ddylai fod ar neb ofn gofyn am help o’r tu allan. Mae hyn yn gallu rhoi safbwynt newydd hanfodol i chi ar sut rydych chi’n gweithredu.

● Gwerthfawrogwch eich staff. Mae eu ffyddlondeb a’u hymdrechion yn gallu rhoi ynni a phŵer anhygoel i dwf eich cwmni.


 

Dysgu mwy am TB Davies.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page