O ddechrau di-nod ar fferm deulu i fod yn un o frandiau dŵr mwynol mwyaf poblogaidd y DU – mae hanes Radnor Hills yn un cyffrous, a stori o lwyddiant i Gymru sy’n destun balchder.   

Mae’r busnes wedi sicrhau ei fod mewn sefyllfa i fanteisio ar y twf yn y sector diodydd ysgafn, ac wedi ennill llawer o gontractau uchel eu proffil ar y ffordd.

Yma mae Penny Butler o Radnor Hills yn egluro sut dechreuon nhw, ac yn trafod y rhwystrau maen nhw wedi’u hwynebu ar y ffordd – yn ogystal â chynnig cyngor ar gyfer entrepreneuriaid eraill.    

 

Dwedwch wrthon ni am Radnor Hills.
Gallen ni ddechrau dros 100 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd hynafiaid y sylfaenydd, William Watkins, ffermio’r tir lle byddai yntau, flynyddoedd wedyn, yn dechrau Busnes Radnor Hills. 

Mae gan y busnes wreiddiau dwfn mewn teulu a lle. Mae purdeb ac ansawdd y dŵr rydyn ni’n ei ddefnyddio yn hanfodol i’n brand ni.

Sefydlodd William Gwmni Dŵr Mwynol Radnor Hills fel prosiect arallgyfeirio i fusnes ffermio ei deulu. Mae’r cwmni bellach yn cyflogi 180 o bobl, ac mae ganddo naw llinell gynhyrchu sy’n llenwi poteli gwydr a phlastig, cartonau Tetra a chaniau ag amrediad helaeth o ddiodydd ysgafn .  

Roedd ein dechrau yn fach – gyda dim ond un llinell gynhyrchu fach wedi’i haddasu o offer llenwi cartonau iogyrt. Ond diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru roedden ni’n gallu adeiladu’r cwmni a welwch chi heddiw – gydag enillion yn cael eu hailfuddsoddi mewn gwelliannau cyfalaf a thechnoleg.   

Yn gynnar yn hanes y cwmni daeth McDonalds UK yn un o’n cwsmeriaid cyntaf, ac roedd hynny’n hwb mawr inni. Parhaodd y bartneriaeth honno am ddeng mlynedd, gan roi’r sicrwydd a’r hyder a oedd eu hangen i ehangu. Wedyn daeth cyfleoedd newydd. Roedden ni’n gallu gweld cyfleoedd yn y farchnad, a gwnaethon ni ychwanegu diodydd ysgafn at ein hamrediad o gynhyrchion.  

 

Rydyn ni bellach yn allforio i farchnadoedd tramor hefyd, ac mae gennyn ni gynlluniau i ehangu’r rhan honno o’r busnes. Hefyd mae gennyn ni gontractau i gyflenwi archfarchnadoedd mawr gan gynnwys Morrisons, Co-op, Sainsbury's ac Aldi, gan gynhyrchu diodydd ysgafn iddyn nhw o dan eu labeli eu hunain. Mae’r diodydd hyn bellach yn cyfrif am 50% o drosiant y cwmni.

Rydyn ni newydd ychwanegu pecynnau Tetra a chaniau, ac wedi sicrhau ail safle yn San Andras, ar bwys ein prif safle – gyda’r nod o ddatblygu lleoliad cynhyrchu arall. 

Mae’n anodd credu i hyn i gyd ddechrau ar fferm deulu. 

 

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch yn hanes y busnes hyd yma?
Rydyn ni wedi ennill llawer o wobrau am ein gwasanaethau, am ansawdd ein cynhyrchion, am ein hyfforddiant a’n rhaglenni i brentisiaid ac am arloesi – i enwi ychydig o bethau yn unig. Ond yr adeg fwyaf cyffrous oedd pan enillon ni Wobr y Frenhines am Fenter yn y categori allforion.   

Dim ennill gwobrau yn unig sy’n ein gwneud ni’n falch. Mae’r gweithlu yn rhannu ymdeimlad o falchder a chyffro bob tro inni agor llinell gynhyrchu newydd.

 

Tasech chi’n dechrau o’r dechrau un, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Rydyn ni wedi wynebu llawer o anawsterau, fel y mae unrhyw gwmni wrth iddo ddatblygu! Roedd y ddiod egni, Red Dragon, a aeth yn rhyw fath o frown ychydig o fisoedd ar ôl iddi gael ei datblygu gyntaf – bendant doedd hi ddim yn apelio fel roedden ni’n gobeithio. Ac wedyn y ddiod blas rhiwbob a chwstard a’r ddiod blas byblgym glas i blant. Doedd y rhain ddim yn boblogaidd iawn – yn enwedig gyda’r cwynion bod y ddiod blas byblgym glas yn staenio carpedi!

Ond does dim llawer o bethau rydyn wedi difaru eu gwneud . Mae llawer o’n heriau wedi cael eu peri gan bethau y tu hwnt i’n rheolaeth, fel newidiadau i’r gyfradd gyfnewid a deddfwriaeth – pethau sydd wedi effeithio ar ein cystadleuwyr hefyd.

 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydyn ni wedi cael llawer o gymorth gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, gan gynnwys cyllid ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf, arloesi a phrosesau technegol, teithiau busnes tramor, teithiau masnach, sioeau masnach a sioeau masnach allforio. Drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru rydyn ni wedi elwa ar hyfforddiant  i reolwyr, gweithdai, hyfforddiant a chymorth marchnata, yn ogystal â mentora busnes.  

Mae’r cymorth hwn wedi bod yn hanfodol wrth inni dyfu o fusnes newydd – gyda nifer ein staff wedi cynyddu o dri i 180. Mae’r cymorth hwn wedi arwain at amrediad amrywiol o ddiodydd ysgafn sy’n addas ar gyfer pob sector o’r farchnad diodydd ysgafn – a phob un ohonynt yn defnyddio un cynhwysyn allweddol, sef dŵr ffynnon pur o Gymru.

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sydd ar fin dechrau?

● Peidiwch byth â sefyll yn stond.

● Beidiwch byth â stopio bod yn arloesol.

● Gwneud pethau fesul cam – peidiwch byth â cheisio rhedeg cyn cerdded.

● Ceisiwch a dilynwch gyngor gan bobl broffesiynol sydd â llawer o brofiad yn eich diwydiant. Ymunwch â chlwstwr diwydiant a gwrando ar farn pobl eraill yn eich diwydiant – bydd ganddyn nhw drysorfa o wybodaeth i’w rhannu. 

● Manteisiwch ar yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael ichi gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae rhagor o wybodaeth am Radnor Hills ar gael yma.
 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Share this page

Print this page