Mae dwsinau o fusnesau arloesol wedi cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i ddarparu platfform ar gyfer twf.
Y cwmni diweddaraf sydd wedi defnyddio arbenigedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru sy'n ymddangos yn ein cyfres o flogiau yw Bison Security (Wales).
Sefydlwyd y cwmni gan y ffermwr Gareth Davies a'r peiriannwr Phil Corke, gan gyfuno eu sgiliau fel dyfeisiwr ac arweinydd busnes er mwyn bod yn llwyddiannus.
Yma mae Gareth Davies a Phil Corke yn adrodd stori eu busnes ac yn cynnig cyngor i eraill sy'n dymuno datblygu eu syniad i fod yn fenter fasnachol ffyniannus.
Dywedwch wrthym am Bison
Gwanethom sefydlu Bison Security (Wales) i ddatblygu'r 'Quad Vice' fel eitem y gellir ei werthu a chynhyrchion diogelwch eraill ar gyfer rasio motocross a phob math o feiciau.
Rydym bellach wedi gwerthu sawl Quad Vice - cynnyrch y mae ei safon aur wedi'i ardystio gan gwmni diogelwch annibynnol, Sold Secure.
Rydym yn y broses o ddatblygu gwerthiannau drwy sianeli uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?
Ennill y wobr aur yng Ngwobrau British Farming am beiriannau mwyaf arloesol y flwyddyn o flaen 700 o bobl ar gyfer ein Quad Vice. Roedd yn tystio ansawdd y cynnyrch ac yn ardystiad gan ein marchnad targed.
Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Prin iawn o gymorth ariannol a gafwyd ar gyfer ein busnes dylunio a gweithgynhyrchu.
Efallai na fyddem wedi defnyddio patentau a chymryd camau i ddiogelu'r brand, am fod hyn wedi defnyddio degau ar filoedd o bunnoedd a adnoddau prin ac yn hytrach gallem fod wedi mynd yn syth i'r farchnad.
Byddai mynd yn syth i'r farchnad wedi cynyddu nifer y gwerthiannau.
Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydym wedi cael cymorth a chefnogaeth rhagweithiol gan y rheolwr cysylltiadau sydd wedi cadw mewn cysylltiad drwy gydol ein cyfnod gyda Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Roedd y broses o gael cymeradwyaeth a mynediad at gymorth wedi cymryd hirach na'r disgwyl, ond mae wedi bod yn werth chweil.
Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?
● Gwiriwch hyfywedd eich syniad/cynnyrch ac yna cadwch ati a pheidio rhoi'r gorau iddi.
● Arian sy'n troi olwynion busnes, ac os oes gennych ffynhonnell arall o adnoddau ariannol, y tu allan i'ch busnes newydd i gynnal eich hunan, bydd hynny'n rhoi'r amser a'r gallu ichi ymdopi â heriau a phroblemau nad oes modd eu rhagweld.
● Gwnewch yn siŵr eich bod yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr cymwys; fel arall, ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, bydd rhywbeth sy'n broblem fach nawr yn eich gyrru'n wallgof.
● Ceisiwch sicrhau fod cyflenwyr, asiantau cymorth a phawb rydych yn gweithio â nhw yn gwireddu eu haddewidion.
Dysgu mwy am Bison Security (Wales).
Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).