Mae awtomeiddio ym maes gofal iechyd yn helpu cleifion, fferyllfeydd a pherchnogion cartrefi gofal i reoli eu meddyginiaeth yn well.

Mae’r fferyllfa ar-lein PillTime ar flaen y gad yn y maes hwn.

Gan ddefnyddio roboteg a deallusrwydd artiffisial, mae'r cwmni wedi creu amlenni meddyginiaeth sy’n cael eu dosbarthu yn awtomatig, gan ei gwneud yn haws i bobl gymryd eu meddyginiaeth ar yr adeg gywir ac ar y diwrnod cywir.

Mae PillTime wedi cael eu cefnogi gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yma, mae'r Prif Swyddog Gweithredol, Leighton Humphreys, yn trafod hanes y busnes ac yn rhoi awgrymiadau i eraill sy'n arwain eu cwmnïau eu hunain yn ystod cyfnodau anodd.

 

Leighton Humphreys o PillTime
Leighton Humphreys o PillTime

 

Dwedwch wrthon ni am PillTime
Sefydlwyd ein cwmni yn ôl yn 2016 gan y fferyllydd o fri Paul Mayberry. Yn y blynyddoedd ers hynny, mae ein busnes wedi tyfu ac rydyn ni bellach yn un o arweinwyr y maes. Rydyn ni bellach yn cyflogi 65 o bobl ac yn cynllunio ar gyfer datblygu ymhellach.

Yn hollbwysig, mae gennyn ni gynnyrch gwych. Rydyn ni’n darparu ffordd seml ac effeithiol i gleifion reoli eu meddyginiaeth reolaidd. Mae’n hawdd i gleifion gofrestru ar-lein, neu dros y ffôn os oes angen cymorth arnyn nhw, ac rydyn ni’n dosbarthu eu meddyginiaeth mewn amlenni wedi'u labelu'n glir yn y drefn mae angen ei chymryd.

 

Mae'r amlenni hyn wedi'u pecynnu mewn blwch dosbarthu ac yn cael eu dosbarthu'n ddiffwdan i ddrysau cleifion, yn rhad ac am ddim. Pam mae hyn yn bwysig? Wel, nid yw dros 50% o bobl yn y DU yn cymryd eu meddyginiaeth yn unol â’r presgripsiwn, ac mae'r ffigur  hwn yn uwch byth ar gyfer pobl sy’n cymryd nifer o wahanol feddyginiaethau.

Mae'r Adran Iechyd yn Lloegr yn amcangyfrif bod mwy na 66 miliwn o wallau clinigol arwyddocaol yn digwydd bob blwyddyn yn y DU, gan achosi'r potensial am niwed a chostio tuag £1bn i'r GIG. Gan ddefnyddio'r dechnoleg robot a phecynnu ddiweddaraf, rydyn ni’n creu amlenni meddyginiaeth lluosog sy’n ei gwneud yn haws i gleifion reoli eu meddyginiaeth ac yn arbed amser gwerthfawr i weithwyr gofal iechyd proffesiynol – amser y gellir ei fuddsoddi mewn nyrsio a gofal.

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch ym myd busnes hyd yn hyn?
Rydyn ni wedi profi llawer o adegau balch a chyffrous yn y blynyddoedd ers inni ddechrau. Mae'r ffaith ein bod bellach yn cyflogi 65 o bobl yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn falch iawn ohono, gan ein bod yn cael effaith ar ein cymuned ac yn darparu cynnyrch sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau a llesiant pobl.

Rydyn ni wedi datblygu porth i gleifion a gwefan newydd sydd ar fin cael ei lansio. A ni bellach yw'r fferyllfa a enwir ar gyfer tuag 13,000 o gleifion – yn ddiweddar gwnaethon ni gyrraedd y garreg filltir o 50,000 o eitemau’n cael eu prosesu mewn mis. Mae hyn yn ein rhoi ymhlith y pedair fferyllfa fwyaf yn y DU.

 

Rydyn ni’n gosod y sylfaen derfynol ar waith i'n galluogi i gynyddu'r busnes yn sylweddol a pharhau i wella ein gwasanaeth i gleifion.

Rydyn ni’n falch iawn o hyn i gyd, a chymaint mwy. Rwy'n credu bod gan ein busnes ddyfodol llwyddiannus.

 

Pa heriau rydych chi wedi eu hwynebu ym myd busnes?
Rydyn ni wedi wynebu digon o heriau, ac wrth gwrs mae'r pandemig wedi creu heriau newydd inni eu goresgyn. Mae’r staff gweinyddol yn gweithio o bell ond nid yw hyn wedi llesteirio ein gwasanaeth.

Mae'r pandemig hefyd wedi cynnig cyfleoedd. Rhoddwyd hwb gwirioneddol i ymwybyddiaeth o fferyllfeydd ar-lein fel PillTime, gan nad oedd cleifion am adael eu cartref i gasglu eu meddyginiaeth.

 

Pe baech chi’n dechrau unwaith eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Dyma gwestiwn anodd, ac wrth gwrs, fel busnes rydyn ni’n dysgu drwy’r amser oddi wrth y cwestiynau rydym yn eu gwneud.

Y peth pwysig, mi gredaf, yw eich bod yn mynd â'r gweithlu gyda chi ar eich taith fusnes, ac mae hynny'n golygu sicrhau eich bod yn dysgu ac yn gwneud y penderfyniadau cywir gyda'ch gilydd.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn ein cefnogi ers dechrau 2018.

Gwnaethon ni gofrestru fel y gallen ni gael gafael ar gymorth busnes arbenigol sy'n cyd-fynd â'n cynlluniau twf uchelgeisiol. Ac rydyn ni wedi cael ein helpu mewn llawer o ffyrdd – gyda phrosesau busnes, adleoli eiddo, datblygu sefydliadol a recriwtio, yn ogystal â bod yn barod ar gyfer buddsoddi a chymorth gyda’n proffil ni.

Mae wedi bod yn amhrisiadwy.

Mae gallu galw ar arbenigwyr sydd wedi "bod yno, wedi gwneud hynny" wedi helpu i'n herio fel tîm rheoli. Mae hefyd wedi ein galluogi i ganolbwyntio ein penderfyniadau strategol ar y meysydd a fydd yn cael yr effaith fwyaf.

Mae gennym dargedau uchelgeisiol ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac rydyn ni’n hyderus, gyda chymorth parhaus tîm Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, y byddwn yn llwyddo i'w cyflawni.

Byddwn i’n annog busnesau eraill sydd â photensial uchel ar gyfer twf sy’n chwilio am gymorth i wneud cais am y rhaglen. Ers cofrestru, rydyn ni wedi mynd o nerth i nerth, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth rydyn ni wedi'i gael.

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy’n dechrau ar eu taith?

●     Gwrandewch ar eich cwsmeriaid.

●     Gweithiwch gyda phobl dda.

●     Byddwch yn hyblyg.

●     Mae’n iawn gwneud camgymeriadau – ond rhaid eu gweld yn gyflym a dysgu    drwyddyn nhw

●     Credwch yn eich cynllun busnes.

 

Dysgu mwy am PillTime.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).


 

 

Share this page

Print this page