Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn darparu mynediad at rwydwaith o arbenigwyr mewn nifer o feysydd, sy’n gallu rhoi cyngor ichi a’ch helpu i ddatblygu eich busnes.

Yma rydyn ni’n siarad â Howard Jones, un o hyfforddwyr Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy’n defnyddio ei brofiad a’i frwdfrydedd dros helpu busnesau i dyfu i helpu entrepreneuriaid yng Nghymru sy’n sefydlu busnesau ar eu ffordd.

 

Allwch chi roi hanes cryno o’ch gyrfa hyd yn hyn?
Dechreuais i fy ngyrfa yn Natwest. Bues i’n gweithio yno am dair blynedd cyn ymuno â’r International Thomson Organisation, lle bues i’n gweithio am 20 mlynedd. Erbyn diwedd y cyfnod hwnnw roeddwn ni’n gweithio mewn swydd rheoli strategol. Defnyddiais i fy mhrofiad yn y diwydiant cyhoeddi i sefydlu SWA Publications, mewn partneriaeth â Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, gan weithio fel y prif weithredwr. Roedd y cwmni cyhoeddi cylchgronau a llawlyfrau ar gyfer pennwyr.

Ymunais â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn 2017. Dw i wrth fy modd yn helpu busnesau i dyfu ac i ddatblygu. Dyna pam ymunais i â’r rhaglen. Dw i’n helpu cwmnïau i gydbwyso prosesau a pholisïau â’r agweddau entrepreneuraidd sydd eu hangen i sefydlu busnes.

 

 

Pa heriau rydych chi wedi eu hwynebau yn ystod eich gyrfa?
Dw i ddim wedi profi unrhyw rwystrau, ond dw i wedi wynebu llawer o heriau. Un o’r pethau mwyaf dw i wedi’i ddysgu yw, er mwyn symud o fusnes newydd i fusnes sy’n tyfu, fod rhaid i uwch-arweinwyr y cwmni a’u timau feddu ar amrediad eang o sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau. Dw i’n defnyddio’r wybodaeth hon pan dw i’n helpu eraill gyda’u busnesau, gyda’u set unigol o heriau.

 

Pwy sydd wedi dysgu’r mwyaf ichi yn ystod eich gyrfa hyd yn hyn?
Ces i lawer o brofiad pan oeddwn i’n gweithio yn yr International Thomson Organisation. Roeddwn i’n gallu defnyddio’r profiad hwnnw wrth imi ddechrau ar fy ngyrfa fusnes, a dw i bellach yn defnyddio’r profiad fel hyfforddwr busnes. Roeddwn i mor ffodus â bod â mentor a oedd yn fy helpu i i chwilio am atebion yn hytrach na phroblemau. Roedd yn hyfforddwr gwych a dw i wedi dysgu llawer ganddo.  

 

Ydych chi’n llwyddo i gael cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd?
Dim cymaint â dylwn i! Dw i’n dwlu ar fy ngwaith, ac o ganlyniad fel arfer dw i’n gweithio oriau hir iawn.

 

Pwy neu beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Dw i’n credu bod ymarfer corff yn dda i’r meddwl a’r corff. Rhedeg, gwrando ar gerddoriaeth a cherdded ar lan y môr – dw i’n gwneud y rhain er mwyn clirio’r meddwl a chael pethau mewn persbectif.

O ran pobl, dw i’n cael ysbrydoliaeth yn rheolaidd gan Tom Peters, gwrw arweinyddiaeth o America. Mae ei agwedd ymarferol tuag at ragoriaeth a’r hyn mae’n ei alw’n “Brand You" yn ysgogi ac yn ysbrydoli.

 

Beth yw’r cyngor busnes gorau rydych chi wedi’i dderbyn ?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall eich gwerthoedd a seilio eich ymddygiad arnyn nhw – yn enwedig pan fydd gennych benderfyniadau anodd i’w gwneud.  

Credaf fod hynny’n bwysig ac mae’n fy arwain i wrth imi weithio – a dw i’n annog y rhai dw i’n eu hyfforddi i wneud yr un peth.

 

Pa gyngor byddwch chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau busnes heddiw?

● Ewch amdani! Mae’n rhaid cymryd risgiau os ydych chi am lwyddo ym myd busnes. 

● Credwch yn yr hyn rydych chi’n ei wneud – byddwch yn frwdfrydig.

 

Beth yw’r rhan orau o fod yn hyfforddwr gyda’r Rhaglen Cyflymu Twf?
Mae bob amser yn swydd ddiddorol. Dw i’n gweithio gydag amrediad mor eang o bobl, ac o ganlyniad dw i wastad yn ymgolli yn fy ngwaith.

Dw i’n cael llawer o foddhad o weld y busnesau hyn yn tyfu ac yn datblygu, ac arweinwyr y busnesau yn gwireddu eu huchelgeisiau.

Mae rhai rhinweddau allweddol sydd eu hangen arnoch er mwyn meithrin perthynas gadarnhaol a chynhyrchiol â busnes – gan gynnwys gonestrwydd, bod yn agored ac empathi.

 

Yn eich barn chi, beth yw’r peth pwysicach er mwyn i fusnes dyfu?
Crefaf fod angen cydbwysedd rhwng dawn entrepreneuraidd a’r parodrwydd greddfol i gymryd risgiau, a phrosesau cadarn a systemau mewnol.

Mae hefyd yn hanfodol bod prif weithredwyr a sylfaenwyr cwmnïau yn cydnabod yr angen i adeiladu tîm o bobl a’u hamgylch sy’n glyfrach na nhw y maen nhw’n gallu dibynnu arnyn nhw.



Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yma.

 

Share this page

Print this page