Cefndir y Busnes
Martin Baker QPM yw Rheolwr Gyfarwyddwr One Team Logic, busnes o Donysguboriau sydd wedi ennill sawl gwobr. Ers sefydlu’r cwmni yn 2014, mae One Team Logic wedi tyfu'n gyflym gan greu dros 70 o swyddi ledled y DU ac mae bron 40 ohonynt wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae ei feddalwedd ddiogelu ddibynadwy, MyConcern, yn cael ei defnyddio gan ysgolion, colegau a sefydliadau eraill yn y DU ac ar draws y byd. Mae'n sicrhau bod yr ystod lawn o risgiau sy'n wynebu plant a phobl ifanc, ac oedolion sy'n agored i niwed heddiw yn cael eu cofnodi, eu hadrodd a'u monitro.
 


 

Drwy gydol eu gyrfaoedd yn plismona, roedd y sylfaenwyr Martin Baker a Mike Glanville (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Diogelu) wedi ymwneud ag amrywiaeth o achosion diogelu plant ac oedolion ac amddiffyn plant. Maent hefyd yn llywodraethwyr ysgol ac felly roeddent yn ymddiddori mewn sut yr oedd ysgolion yn ymdrin â'r materion hynny. Yn ystod y cyfnod hwn, sylwodd y ddau fod cymaint o wybodaeth sensitif yn cael ei chofnodi ar bapur, ac yn cael ei chadw mewn ffeiliau dan glo mewn cypyrddau. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd rhannu gwybodaeth yn ddiogel (ee gyda'r gwasanaeth gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill), ei dadansoddi a llunio adroddiadau. Mae hefyd yn golygu nad yw'r wybodaeth wedi'i diogelu rhag tân neu lifogydd, neu gall rywun ei dwyn yn hawdd.
 

Mae 3000 o blant yng Nghymru wedi'u nodi fel rhai sydd angen eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin a chyda cynnydd sydyn yn nifer y troseddau rhywiol yn erbyn plant yn cael eu cofnodi,  ysgolion a cholegau fel arfer yw'r cyntaf i ganfod y materion hyn. Ar ben hynny, mae'r amrywiaeth o bryderon diogelu y mae’n rhaid i ysgolion bellach ymdrin â nhw wedi cynyddu'n sydyn i gynnwys materion megis cam-fanteisio ar blant, pryderon o ran iechyd meddwl a llesiant, a pheryglon digidol eraill. Mae hyn yn gryn dipyn o gyfrifoldeb i ysgolion, yn enwedig gan y gallant fod yn faterion hynod heriol a thrafferthus a allai arwain at achosion cyfreithiol flynyddoedd yn nes ymlaen. Er bod cymaint o dechnoleg yn yr ystafell ddosbarth, prin yw'r atebion i helpu cyrff llywodraethu, penaethiaid ac aelodau staff eraill i reoli'r amrywiaeth anferth o gyfrifoldebau cyfreithiol a moesol. Sylwodd Martin a Mike ar y bwlch hwn o ran galluogrwydd ac felly gwnaethant ddylunio ac integreiddio system i sicrhau diogelwch mewn addysg. Ym mis Mehefin 2014, aethant ati i greu MyConcern, gyda chymorth yr arbenigwr technegol Darryl Morton. Mae'r feddalwedd hon bellach yn trawsnewid gweithdrefnau amddiffyn plant ei defnyddwyr.

Cafodd One Team Logic ei anrhydeddu’n ddiweddar yn seremoni Gwobr Fenter y Frenhines am ei waith arloesol yn y maes. Dywedodd Martin Baker: "Mae'n anrhydedd anferth inni fod ei Mawrhydi y Frenhines wedi cydnabod gwaith ein tîm cyfan drwy roi Gwobr Fenter y Frenhines i ni. Mae gweld ein gwaith arloesol ym maes diogelu ac amddiffyn plant yn cael ei gydnabod mewn ffordd mor gyhoeddus yn gwneud inni deimlo'n wylaidd iawn ac yn hapus iawn hefyd wrth gwrs. Fel cwmni diogelu, rydyn ni'n effeithio'n uniongyrchol ar unigolion a chymunedau. Mae defnyddio MyConcern mewn unrhyw leoliad lle y mae angen amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed yn gwella eu diogelwch, yn eu galluogi i ffynnu, ac yn achub bywydau yn y pen draw".

 

 

Mae siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y Tîm Cymorth i Gwsmeriaid sydd wedi'i leoli yng Nghymru ac maent yn gallu helpu defnyddwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae One Team Logic hefyd yn gweithio ar ddatblygu fersiwn Gymraeg o MyConcern. Bydd yn gallu rhoi cymorth i ysgolion, colegau a sefydliadau Cymraeg, gan greu porth i ddarparu MyConcern mewn sawl iaith wahanol. Bydd hyn oll yn helpu i gadw mwy o blant a phobl ifanc yn ddiogel yn y pen draw.
 

Cymorth gan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Mae One Team Logic wedi elwa ar Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Drwy'r rhaglen hon, argymhellwyd iddo gymryd rhan yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru lle enillodd y cwmni wobrau Gwasanaethau a Busnes Digidol Newydd y Flwyddyn. Ers hynny, mae wedi creu rolau newydd yng Nghymru yn yr adrannau a ganlyn: Gwerthu a Marchnata, Gwasanaeth Cwsmeriaid a'r Tîm Datblygu Meddalwedd. Mae'r tîm wedi cynyddu o lai na 10 o weithwyr i 70 o fewn y cyfnod hwn.

Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf hefyd wedi galluogi'r cwmni i hybu doniau yng Nghymru drwy gynnig hyfforddiant i aelodau'r tîm. Mae hefyd wedi elwa ar sawl pecyn gwaith gan gynnwys: Eiddo Deallusol - ymchwil i Hawliau Eiddo Deallusol (IPR) a gynhaliwyd fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru i alluogi One Team Logic i ddeall ei werth a'i enw da mewn marchnad sefydledig. Capital Law – ymgymerodd â phecyn o waith a chontractau cyfreithiol, a alluogodd y busnes i fod mewn sefyllfa gyfreithiol sefydlog gyda'i gyflenwyr, ei weithwyr a'i gwsmeriaid.

 

Cwblhaodd Brand Content becyn Cysylltiadau Cyhoeddus a helpodd i lunio cysylltiadau o'r fath a neges ar gyfer y cynulleidfaoedd gwahanol o fewn y sector addysg. Helpodd hefyd i sicrhau bod sawl erthygl yn ymddangos yng ngwasg y diwydiant ac yn y cyfryngau eraill sy’n lledaenu newyddion megis yr Education Executive a'r adroddiad GDPR. Ymgymerodd Liberty Marketing ag ail becyn gwaith gan hoelio sylw ar becyn Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) i wella presenoldeb ar-lein. Yn ôl Martin Baker: "O gofio bod cystadleuwyr brwd yn y farchnad, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn defnyddio'r Peiriant Chwilio er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r brand yn ogystal â chynhyrchu arweiniad gwerthfawr i'r busnes. O ganlyniad i hynny, mae'r ffigurau wedi gwella ac mae wedi rhoi cyfleuster PPC yn ei le sy'n ysgogi pobl i ddefnyddio ein gwefan. Mae hefyd gennym sawl cam gweithredu allweddol a fydd yn ein helpu wrth inni ailgynhyrchu'r wefan (prosiect sydd ar fin digwydd)".

Awgrymiadau Martin: Credwch yn eich cynnyrch, eich busnes a'ch tîm. Os yw eich diwydiant yn rhan annatod ohonoch (fel y mae amddiffyn plant a'u llesiant), dylai hynny fod yn hawdd ichi.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page