Mae cynllunio twf ar gyfer busnes yn hollbwysig, ac mae cwmni argraffu o Gaerffili wedi cyflawni hyn drwy gaffael doeth.

Gyda chymorth ac arbenigedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae CPS wedi dod yn gwmni llwyddiannus sy’n datblygu.  Dechreuodd hyn i gyd oherwydd bod angen i’r sylfaenydd Simon Green sicrhau cadwyni cyflenwi diogel ar gyfer ei gleientiaid. 

 

Yma, mae Laura James o CPS, yn dweud sut y bu i Simon Green feithrin ac ehangu ei gwmni.  Mae hefyd yn rhannu cyngor i arweinwyr busnes eraill sydd am weld twf. 

 

Dywedwch rhywbeth wrthym am CPS.
Dechreuodd CPS pan brofodd busnes arall broblemau.  Roedd y problemau hyn y gyfle da i Simon, oedd yn frocer argraffu llwyddiannus ar y pryd.  Prynodd Simon y busnes i warchod cadwyn gyflenwi ei gleientiaid gan sicrhau bod y cwmni yn un llwyddiannus. 

Mae hyn wedi golygu bod Simon wedi prynu cyfres o fusnesau, gan ychwanegu gwahanol elfennau argraffu at ei grŵp o gwmnïau oedd yn eu datblygu.  Rydym bellach yn cyflogi 24 o bobl yn ein canolfan yng Nghaerffili. 

 

Rydym wedi canolbwyntio’n drwm ar ymgyrchoedd marchnata wedi’u targedu ar gyfer cynnyrch penodol, megis, er enghraifft, y diwydiant matresi, a labeli wedi’u hargraffu a’u gwnïo, eu gweu, a labeli wedi’u gludo.  Rydym wedi gweld llwyddiant gwirioneddol wrth wneud hyn ac wedi targedu meysydd eraill – gan gynnwys y diwydiant dodrefn, gan ennill busnes yn y maes manwerthu a gweithgynhyrchu ledled y DU ac Ewrop. 

 

 

Beth oedd y cyfnod yr oeddech yn fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yma?
Pan ddechreuodd Simon y cwmni, roedd am fod yn argraffydd gwasanaeth llawn ar gyfer pob un o anghenion ei gleientiaid.  Roedd cyrraedd y nod honno, cyrraedd y garreg filltir honno wrth i’r cwmni dyfu a datblygu wedi golygu bod pawb yma yn hynod falch. 

Rydym wedi derbyn nifer o dystysgrifau o fewn y diwydiant, megis y tystysgrifau ISO 9001, SEDEX ac FSC, sydd hefyd wedi rhoi llawer o foddhad inni yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yma.   

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Mae ein strategaeth ar gyfer twf wedi golygu ehangu ein proses gaffael, sy’n creu ei heriau ei hun.   

Allen ni fod wedi bod yn fwy effeithiol pe byddem wedi gweithredu prosesau ledled y grŵp yn gynt? Mae’n bosibl y byddem. 

Ac efallai bod gormod o ymreolaeth o fewn y tîm presennol.  

Ond nawr rydym wedi sefydlu prosesau a seilwaith, ac mae arbedion effeithlonrwydd a chysondeb yn y gwasanaethau ar draws pob mathau o gynnyrch.  Rydym wedi dysgu llawer, ond rwy’n credu bod rhedeg busnes yn addysg barhaus. 

 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae pob un ohonom wedi bod yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ers Medi 2016. 

Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi gweithio gydag amrywiol hyfforddwyr i helpu gyda cynllunio gwerthiant, marchnata, asesiad ISO, strwythur a hyfforddiant mewnol – pob un ohonynt wedi galluogi inni dyfu a datblygu. 

 

Mae’r berthynas rhwng ein tîm masnachol a rheolwr perthynas Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn allweddol inni allu rhyddhau’r cymorth o amrywiol ffynonellau Llywodraeth Cymru. 

Ers ymuno â thîm Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae ein trosiant wedi cynyddu 85%. Mae’r rhaglen wedi bod yn hynod werthfawr inni. 

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau? 

● Bod yn benderfynol a gwneud y penderfyniadau anodd hynny – y penderfyniad gwaethaf yw peidio â gwneud un. 

● Creu tîm y gallwch ymddiried ynddynt.

● Bod yn onest – os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn, nid yw’n iawn fel arfer.

● Gofyn am gymorth.

 

Dysgu mwy am CPS.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page