Ymunodd Something Different Wholesale (SDW) â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP) ym mis Mai 2015. Roedd y cwmni’n ceisio goresgyn heriau oedd yn deillio o dwf y cwmni ar ôl cynyddu refeniw dros 33% mewn blwyddyn.
 

Jane Wallace-Jones o Something Different Wholesale.
Jane Wallace-Jones o Something Different Wholesale.



Mae Something Different Wholesale yn mewnforio anrhegion. Mae’r busnes yn cynllunio a mewnforio dros 3,000 o wahanol fathau o gynnyrch ac mae cyfran sylweddol o’i refeniw yn dod o allforion i’r UE. Yn ddiweddar, cafodd y cwmni gyfle i brynu un o’i gystadleuwyr, ac arweiniodd hyn at dwf cyflym mewn refeniw. Roedd hefyd yn golygu ei fod wedi gorfod mabwysiadu sianeli gwerthiant newydd ac addasu’r model busnes.
 


Gan weithio ar y cyd gyda’n hyfforddwyr a defnyddio strwythurau cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rhoddwyd ffocws a chyfeiriad i’r busnes cyffrous hwn. Roedd y gwaith yn cynnwys y canlynol:

 

• Darparodd y Rhaglen seilwaith cymorth cyfannol o amgylch y busnes er mwyn ei helpu i oresgyn yr heriau sy’n deillio o dwf – rhywbeth sy’n anochel wrth i refeniw ddyblu o fewn blwyddyn

• Rhoddodd Agymorth i’r busnes i weithio tuag at sefydlu gweithdrefn rheoli prosesau yn cynnwys ISO9001

• Rhoddwyd prosesau adeiladu tîm a recriwtio ar waith er mwyn sicrhau bod seilwaith staff SDW yn ategu twf cyflym

• Trefnodd y Rhaglen sesiynau cynllunio busnes a strategaeth a’u cyflwyno i’r cwmni er mwyn sicrhau bod y fframwaith cywir yn bodoli yn SDW i reoli twf parhaus

• Rhoddwyd cefnogaeth i seilwaith TG y cwmni a chyflwynwyd gwelliannau i’r caledwedd, y feddalwedd a’r rhyngrwyd

• Gweithiodd y Rhaglen gyda SDW i ffurfio cynllun rheolaeth ariannol, gan sicrhau bod gan y cwmni weledigaeth glir o’i sefyllfa ariannol wrth iddo dyfu.

 

O ganlyniad i gefnogaeth y Rhaglen, mae SDW wedi cyflogi 17 aelod staff newydd. Mae gan SDW gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol, wrth i’r cwmni anelu i gynyddu trosiant i £8 miliwn a chyflogi 80 aelod staff dros y tair blynedd nesaf.

 

“Roeddem ni’n hapus iawn gyda’r cymorth a gawsom trwy’r Rhaglen Cyflymu Twf. I ddechrau, fe ymunon ni â’r rhaglen i gael arweiniad wrth reoli’r twf cyflym roedden ni wedi ei weld ar ôl prynu busnes un o’n cystadleuwyr. Roedd y gefnogaeth a gafwyd yn llawer gwell na’r hyn roedden ni’n ei ddisgwyl. Byddwn yn bendant yn argymell y rhaglen i unrhyw fusnes sydd yn debygol o dyfu’n gyflym ond sydd angen arweiniad a chymorth i hwyluso’r broses honno.”

Jane Wallace-Jones - Something Different Wholesale – Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dysgu mwy am Something Different Wholesale.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page