Mae’r gwaith adfer wedi’r difrod a achoswyd gan ddigwyddiadau fel llifogydd neu dân yn rhywbeth brawychus ac emosiynol i unrhyw berchennog tŷ. Mae un cwmni o Gymru, TSG, wedi cynnig atebion arloesol i’r sector yswiriant i gefnogi gwaith adfer a helpu deiliaid tai i adennill rhywfaint o normalrwydd tra bod eu cartrefi yn cael eu hatgyweirio a’u hadnewyddu.

Dechreuodd y cwmni yn 2012 ac ers hynny mae ei drosiant wedi tyfu i £4m, gan gyflogi 48 o bobl o’i bencadlys yng Nglannau Dyfrdwy. Mae TSG, sy’n eiddo i’r tîm gŵr a gwraig Emma a Stephen Trollope, wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf yn darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yma, mae Emma Trollope yn rhoi hanes cryno’r cwmni, gan esbonio’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig ac yn ystyried yr heriau a’r hyn y mae’r busnes wedi’i gyflawni yn ystod eu taith hyd yma.
 

Stephen a Emma Trollope
Stephen a Emma Trollope

 

Dywedwch wrthym am TSG.
Dechreuodd y cyfan yn 2012. Gwnaeth un syniad arwain at syniad arall, a datblygodd y syniad hwnnw i’r busnes llwyddiannus sydd gennym heddiw.

Gwnaethon ni ddechrau fel y Temporary Kitchen Company (TKC) a gorfforwyd yn 2012. TKC oedd y sefydliad cyntaf yn y DU i fod yn gyflenwr llety amgen, nid hwylusydd yn unig.

 

I ddechrau, roedd ein gwefan yn cynnig carafannau wedi’u hailwampio. Roedd cwsmer yng Nghaeredin a oedd am archebu un oherwydd hawliad yswiriant ar gyfer ei chegin. Gwnaethom sylweddoli fod marchnad heb ei chyffwrdd ar gael ac roedd hyn yn berffaith ar gyfer cwmnïau yswiriant. Ni allem gynnig carafannau wedi’u hailwampio i’r yswirwyr a byddai’n rhaid i ni adeiladu rhai newydd ar drelars.

Pan wnaethon ni ddechrau, roedd hi’n anodd. Ni fyddai unrhyw un yn rhoi benthyg arian inni, gan ein bod yn dechrau busnes gyda chysyniad newydd sbon. Cymerodd amser i sicrhau’r arian yr oedd ei angen arnom, cyn i NatWest fod y banc cyntaf i gynnig cyllid inni. 

 

Y cam mawr nesaf oedd dod o hyd i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y cwmnïau yswiriant. Gwnaethon ni dreulio oriau’n anfon negeseuon e-bost atynt ac yn eu ffonio. Yn y pen draw, Aviva oedd y cyntaf i gynnig treial i ni. Roedd y ddau ohonom wedi gweithio ym maes gwerthu ac roeddem wastad yn gwybod y byddai’n llwyddiannus, dim ond mater o gael y neges iawn i’r bobl iawn ydoedd.

Ers 2015, pan wnaethon ni ymuno â’r farchnad yswiriant, a rhoi cyfle i bobl barhau i fyw yn eu cartrefi ar ôl difrod yn sgil tân neu lifogydd, mae ein busnes wedi parhau i ddatblygu a mynd o nerth i nerth. Rydym bellach yn cynnig nid dim ond ceginau, ond hefyd ystafelloedd ymolchi dros dro a storfa dros dro.

 

Yn 2018 fe enillon ni Wobr y Frenhines am Fenter yn y categori Arloesi ac rydym wedi parhau i ddatblygu a thyfu. Stephen sy’n sbarduno’r arloesedd yn gyson, ac mae hynny wrth wraidd ein busnes.

 

Yn 2019 corfforwyd Temporary Solutions Group (TSG), gan ddod yn rhiant gwmni i’r busnesau ceginau, ystafelloedd ymolchi a storio.

Yn 2020 roeddem wedi tyfu’n fwy na’n safle ac fe wnaethom sicrhau ail uned yng Nglannau Dyfrdwy i ddarparu ar gyfer staff, maes parcio ceir a gofynion gweithgynhyrchu. Bu’n gyfnod rhyfeddol o dwf i ni.


Mae’r unedau llety dros dro yn cael eu hadeiladu ar y safle, sy’n golygu y gallwn ddarparu ar gyfer anghenion penodol megis defnydd gan bobl anabl. Mae’n ateb llawer gwell na phobl yn gorfod byw mewn gwesty am gyfnodau estynedig.

Nid busnes yn unig ydym sy’n benderfynol o wneud elw; rydym yn gwmni sydd â gwerthoedd cryf yn greiddiol i ni. Mae’r cynhyrchion rydym yn eu darparu yn helpu pobl mewn cymaint o ffyrdd ac rydym yn falch iawn o’r ffaith honno. 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
Rwy’n credu mai dyna’r eiliad y gwnaethom ennill Gwobr y Frenhines am Fenter yn y categori Arloesi yn 2018.

Mae angen llawer o waith papur i gwblhau’r cais, a’r cyngor yw ei bod yn cymryd tua 50 awr i’w gwblhau. Roedd dyddiad cau tynn ar gyfer cyflwyno’r cais – felly roedd hynny’n heriol inni!

Mae llawer o gwmnïau’n talu rhywun i gwblhau’r cais ar eu rhan ond yn ein hachos ni, fy nghyfrifoldeb i oedd sicrhau bod y cais yn iawn ac yn cyrraedd yn brydlon.

Talodd y gwaith hwnnw i gyd ar ei ganfed. Roedd yn teimlo mor dda i gael ein cydnabod, roedd ennill y wobr yn teimlo’n hynod o werthfawr. Mae hefyd yn arwydd o ansawdd - mae’r bobl rydyn ni’n delio â nhw yn gwybod y gallan nhw ymddiried yn yr hyn rydyn ni’n ei gynnig.

Yn goron ar y cyfan, roedd cyfarfod â’r Tywysog Charles ym Mhalas Buckingham yn brofiad anhygoel.

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Roedd sicrhau cyllid pan ddechreuon ni’r busnes yn her enfawr. Mae COVID wedi bod yn rhywbeth nad oeddem erioed wedi disgwyl ei wynebu, ac rydym wedi gorfod ystyried pob math o anghenion diogelwch newydd a gwahanol i’n staff.

Mae’r gyrwyr a’r gosodwyr wedi gallu parhau gan nad oes angen iddynt fynd i mewn i dai pobl.

Ond mae staff y ffatri wedi cael sgriniau, cyfarpar diogelu personol a hylif diheintio dwylo i sicrhau eu bod wedi’u diogelu.

Dyma’r math o gynllunio na fyddem erioed wedi’i ragweld y byddai angen ei wneud pan wnaethon ni ddechrau bron i 10 mlynedd yn ôl!

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Byddem wedi bod yn fwy gofalus ynglŷn â phwy roeddem yn rhannu ein syniad â nhw. Dywedodd un cwmni, darparwr llety amgen, wrthym na fyddai byth yn gweithio – ond nhw oedd y cystadleuydd cyntaf i ymuno â’r farchnad!

Ond mae ein holl gamgymeriadau wedi ein harwain at ein sefyllfa bresennol. Mae’r ddau ohonom yn credu bod camgymeriadau’n rhan hanfodol o dwf a dysgu mewn busnes.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydym wedi cael llawer iawn o gymorth a chefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Mae’r arbenigedd y mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn ei ddarparu wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni pan oedd angen cyngor arnom wrth i’n busnes dyfu ac rydym wedi ehangu ein marchnadoedd.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau arni?

●     Os ydych chi’n credu’n llwyr yn eich syniad peidiwch â rhoi’r gorau iddi.

●     Gwnewch gymaint o ymchwil ag y gallwch.

●     Credwch ynoch chi eich hun – roedd gennym gymaint o arbenigwyr a oedd am i ni wneud pethau’n wahanol. Gwnaethom lynu wrth yr hyn yr oedden ni’n ei gredu, a dyna oedd y peth iawn i’w wneud.

 

Dysgu mwy am TSG.com
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page