Mae technoleg yn tyfu’n erfyn fwyfwy pwysig ar draws y sector gofal iechyd.  Ac mewn nifer o ffyrdd, mae COVID-19 wedi prysuro’r broses honno, gan ddod â thriniaethau newydd a dulliau newydd o roi diagnosis ac ymgynghori i’r amlwg.  

Mae Agile Kinetic, busnes ifanc, wedi datblygu deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu staff iechyd i wella gwasanaethau i gleifion. Mae’r cwmni wedi cael ei helpu trwy Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru sy’n targedu cwmnïau ifanc uchelgeisiol.  Mae’r rhaglen yn cael ei rhan-gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
 

Dyma Peter Bishop yn adrodd hanes taith ei gwmni

 

 

Dywedwch wrthym am Agile Kinetic.
Man cychwyn hanes y cwmni yw fy mhrofiad i fy hun.

Rwyf wastad wedi bod â diddordeb ym maes hyfforddi a rheoli chwaraeon ac roeddwn yn ymchwilio i’r syniad o greu platfform i helpu hyfforddwyr.  Fy syniad oedd defnyddio deallusrwydd artiffisial i allu nodi o bell ffurf a thechneg athletwyr.  Trwy fapio’r ysgerbwd, byddai’r platfform yna’n cymharu hynny â’r dechneg fyddai fwyaf addas ac yn rhoi adborth a chyngor i’r unigolyn. 

Roeddwn wedi bod yn datblygu’r syniad ond wedi methu â chael arian i’w droi’n fusnes. Yna mewn sgwrs â rhywun yn y sector gofal iechyd, deallais y gallai’r dechnoleg fod yn fwy defnyddiol mewn cyd-destun orthopedig.  Ar ôl sgyrsiau a chyfarfodydd dirifedi a llawer o ymchwil, datblygu a buddsoddi, fe addason ni’r busnes ar gyfer y farchnad newydd hon ac rydyn ni nawr yn paratoi ar gyfer ei lansio ddiwedd 2021.

 

Nawr, bydd y platfform yn derbyn data, megis delweddau a sgôr poen, oddi wrth y claf trwy ap ar ei ffôn.  Bydd y gweithiwr iechyd trwy ddefnyddio AI yn monitro’r cyflwr a’i adferiad o bell.  Y nod yw torri ar amserau aros, gwneud y broses yn fwy effeithiol ac mae yna fanteision eraill hefyd – fel lleihau’r angen i deithio i’r feddygfa am apwyntiadau.  Ac rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig fu hynny dros y pandemig.

Mae gennym bellach dri aelod o staff – finne yn eu plith – ac rydyn ni ar bigau’r drain ynghylch y flwyddyn i ddod wrth inni baratoi ar gyfer ei lansio.  

 

Beth am y busnes ydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?
Roedd cael cynnig Grant Arloesedd y DU am fod yn fusnes oedd yn cynnig ateb arloesol i COVID-19 yn uchafbwynt gan fod y gystadleuaeth am y grant mor ffyrnig. Roedd hynny’n arwydd clir i ni bod gennym syniad da a allai fod yn werthfawr i’r GIG wrth iddo ddelio ag effeithiau’r pandemig.

 

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu fel busnes?
Roeddwn i eisoes yn cael sgyrsiau am botensial y dechnoleg at ddibenion meddygol cyn y pandemig, ond fe dyfodd yr angen am dechnoleg o’r fath yn gyflym, felly buodd rhaid inni fynd ati i’w datblygu yr un mor gyflym.

Mae hi wedi bod yn her anferth.  Ond mae cefnogaeth AGP Busnes Cymru wedi bod yn help anferth hefyd, fel y mae’r buddsoddwyr meddygol sydd wedi bod yn gweithio gyda fi i baratoi’r cynnyrch ar gyfer y farchnad.  

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?  
Er ei bod yn ddyddiau cynnar ar y busnes o hyd, rwyf wedi dysgu oddi wrth y camau gwag bach a wnes i ar y dechrau.  Trueni na allen i fod wedi dysgu’r gwersi hyn yn gynt. O edrych yn ôl, gallwn fod wedi gwneud pe bawn wedi siarad â phobl eraill sydd wedi wynebu problemau tebyg.

 

Rwy’n credu hefyd pe bawn wedi troi am gymorth yn gynt, y byddwn wedi gallu troi’r busnes i’r cyfeiriad iawn yn gynt. Ac efallai y byddem wedi gweld yn gynt y gallai’r maes meddygol fod wedi elwa ar y dechnoleg.

 

Sut mae AGP Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?
Rydym wedi cael llawer iawn o help gan AGP Busnes Cymru.  Cawsom wybod gan y Rhaglen sut i gallai Llywodraeth Cymru ein helpu gan arwain at wneud ceisiadau llwyddiannus am grantiau Smart Cymru. Gwnaeth y Rhaglen ein cysylltu hefyd â rhwydwaith o ‘angylion’ buddsoddi. Drwy hyn i gyd, llwyddon ni i ddatblygu’r cynnyrch i allu cynnal profion terfynol arno.

 

Mae rhaglen AGP Busnes Cymru wedi rhoi arbenigedd a chyngor i ni sydd wedi’n helpu i ddatblygu’r syniad gwreiddiol yn gynnig busnes llwyddiannus.  

 

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i fusnesau newydd eraill?

●     Darllenwch gymaint medrwch chi. Dau lyfr oedd yn amhrisiadwy i mi oedd The Mom Test a Testing Business Ideas.

●     Byddwch yn barod i addasu. Peidiwch â gorganolbwyntio ar eich syniad.  Yn hytrach, datgelwch broblem a cheisiwch addasu’ch syniad i ddatrys y broblem honno.  Drwy hynny, byddwch wastad yn berthnasol a bydd defnydd ymarferol i’ch busnes.


 

Dysgu mwy am Agile Kinetic.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page