Yn y diweddaraf o’n cyfres blog newydd, rydym yn siarad gyda busnes arall yr ydym wedi cydweithio â hwy i ddod i wybod mwy am eu taith, eu huchelgeisiau a’u cynghorion am lwyddiant ym myd busnes.  Mae Rescape Innovation yn datblygu profiadau technoleg trochi i’w defnyddio yn y sector gofal iechyd – mae’r profiadau hyn yn cynnwys therapi tynnu sylw, therapi ymlacio ac ymarferion anadlu. 

Yma, mae’r cyfarwyddwr Glen Hapgood yn rhannu ei brofiadau am ei daith fusnes hyd yma. 

 

Dywedwch rhywfaint wrthym am Rescape Innovation
Cafodd Rescape Innovation ei lunio allan o Orchard Media and Events Group. Yn Orchard, datblygwyd perthynas hirdymor gennym â byrddau iechyd lleol, ysbytai a chlinigwyr.  Datblygwyd nifer o atebion rhith-wirionedd a dod o hyd i fwlch yn y farchnad sy’n datblygu technoleg barod i gleifion. 

Lluniwyd Rescape Innovation allan o Orchard fel cwmni newydd a chafodd ein tri cynnyrch  – DRVR, DRVR+ a DRVR Jr. – eu geni.

Rydym wedi bod mewn cysylltiad â dros 150 o glinigwyr a byrddau iechyd, gan dreialu, gwerthu ac integreiddio ein therapi tynnu sylw VR. 

 

 

Pryd oeddech yn teimlo’n fwyaf balch o’r busnes?
Yr amser rydym fwyaf balch yw pan welwn y mynydd o adborth positif a gawn a sut y mae ein cynnyrch yn cael effaith bositif iawn ar gleifion -   yn enwedig y rhai hynny mewn gofal diwedd oes. 

Rydym yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd a lles y cleifion hyn wrth iddynt fynd drwy amser anodd iawn.   

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?   

Byddem yn gwerthuso’r broses werthu yn gynt a deall prosesau caffael a pharodrwydd ar gyfer y farchnad o ran pob bwrdd iechyd er mwyn integreiddio ein cynnyrch. 

 

Sut y mae’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes? 

Cafodd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ei ddarparu i helpu Rescape ddod o hyd i gyllid ac i ddiogelu ein heiddo deallusol fel bod modd inni fasnachu. 

Mae hefyd yn canitau inni sefydlu seilwaith gwerthiant fydd yn tyfu wrth inni ddatblygu.  O ran gwerthiant, bu Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru o gymorth inni ddod o hyd i’r broses gwerthiant uniongyrchol gorau i gefnogi amcanion refeniw.   Yn bwysig iawn, rhoddwyd cymorth inni ddiffinio ein proffil cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag edrych ar optimeiddio peiriannau chwilio fel ein bod yn amlwg ar-lein. 

 

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau?

 

●     Deall eich marchnad – y cwsmeriaid a’r cwmnïau sydd yn y safle yr ydych am fod ynddo.

●     Canolbwyntio ar yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan y diwydiant yr ydych yn ei dargedu a sicrhau y gall eich cynnyrch neu eich gwasanaeth helpu eich cwsmeriaidi i oresgyn eu heriau. 

●     Gwneud cynifer o gysylltiadau â phosibl a chwilio am gyngor ac adborth gan ddarpar gwsmeriaid. 

●     Deall eich pwynt prisiau a’ch strategaeth gwerthiant. 

●     Byddwch yn dod ar draws rhai rhwystrau a heriau felly gwnewch yn siŵr bod gennych bobl bositif a gonest i’ch cefnogi. 


 

Dysgu mwy am Rescape Innovation.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP)..

Share this page

Print this page