"Mae'r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy"

 

Yn ein cyfres blog newydd, rydym yn siarad â busnesau rydym yn gweithio gyda nhw i ddysgu mwy am eu taith, eu huchelgeisiau a’u hawgrymiadau gwych ar gyfer llwyddiant busnes.

O dan y chwyddwydr yn gyntaf y mae Distyllfa Castell Hensol. Gyda chynlluniau cyffrous i lansio profiad jin newydd i ymwelwyr yn un o adeiladau hanesyddol mwyaf trawiadol Cymru, bydd hi'n flwyddyn fawr i’r tîm tad a mab, Andy a Rhys Mallows.

Yma mae'r cyd-sylfaenydd, Andy, yn rhannu'r hyn y mae ef wedi'i ddysgu ar ei daith fusnes hyd yn hyn.

 

Dywedwch wrthym am Ddistyllfa Castell Hensol

Mae Distyllfa Castell Hensol yn fenter ar y cyd rhwng teulu Leeke, sy'n berchen ar Westy'r Vale a Leekes, a fy mab, Rhys, a minnau, a wnaeth sefydlu ein busnes distyllfa ym mis Ebrill 2018.

Bydd y prosiect yn cynnwys distyllfa gwirodydd crefft, ysgol jin, profiad i ymwelwyr, warws dollau a safle potelu a fydd yn agor yn ddiweddarach eleni yng Nghastell Hensol, sy'n dyddio o'r 17eg ganrif ac yn adeilad rhestredig Gradd 1.

Mae'r fenter yn rhan o gynllun £7 miliwn i ddefnyddio'r castell unwaith eto, sydd ar dir gwesty pedair seren Gwesty’r Vale, a'i drawsnewid yn gyrchfan twristiaeth blaenllaw.

Bydd ymwelwyr yn gallu distyllu potel bwrpasol o jin a wnaed yn ôl eu chwaeth benodol. Byddant hefyd yn gallu mynd ar daith o amgylch y ddistyllfa, dysgu am yr hanes a'r cynhwysion jin gwahanol a mwynhau sesiynau blasu jin a choctels.

Byddwn ni hefyd yn cynhyrchu amrywiaeth o wirodydd ar gyfer eu gwerthu'n fasnachol gan gynnwys jin ar lefel mynediad, canolig ac uwch, fodca a gwirodydd eraill gan gynnwys dewis cyffrous sy'n isel mewn siwgr, calorïau ac alcohol.

Yr uchelgais yw i'r rhain fod ar gael mewn tafarndai a bwytai lleol yn ogystal ag archfarchnadoedd mawr, cyfanwerthwyr a warysau talu a chario. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi wyth o bobl, a bydd y rhif hwnnw'n cynyddu'n sylweddol pan fydd y ddistyllfa a'r ganolfan ymwelwyr yn agor yn ystod mis Hydref 2019.

 

Ddistyllfa Castell Hensol
Ddistyllfa Castell Hensol

 

Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?

Rwy'n falch o ddatblygu ein cynnyrch cyntaf a’i gyflwyno ar y farchnad. Hefyd, roedd ennill gwobr Busnes Newydd Cymru yng Ngwobrau Busnes De Cymru 2019 yn hwb go iawn i ni. Mae hi bob amser yn wych cael cydnabyddiaeth am ein gwaith caled.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?

Sylweddoli mai perffeithrwydd yw gelyn cyflawni. Pan fyddwch wedi cadarnhau eich gweledigaeth a'ch cysyniad o'r cynnyrch, byddwch â'r hyder i'w gyflwyno ar y farchnad yn hytrach nag aros i bopeth fod yn berffaith.

Rheolwch gyllidebau yn ofalus – mae llif arian parod yn hanfodol ar gyfer pob busnes newydd a gall gwario arian ar asiantaethau fynd yn ddireolaeth os nad ydych chi'n ofalus.

Byddwch yn hyderus i fod yn ddewr ac yn wahanol – mae'n rhan o'r hyn sy'n gwneud eich busnes yn unigryw, felly dylech fanteisio arno.

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Mae rheolwr cysylltiadau Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi cymorth i ni o ran cynllunio busnes, brandio a labelu yn ogystal â modelu ariannol.

Mae'r cymorth hwn wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddatblygu'r ddistyllfa a'r ganolfan ymwelwyr. Hebddo, ni fyddai gennym gwmni llwyddiannus, ac ni fyddem wedi sicrhau menter ar y cyd gyda chwmni mawr o Gymru.

Rydym hefyd wedi derbyn grant o £158,000 o Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS) i helpu gyda'r gwaith o gynllunio ac adeiladu canolfan Hensol, sy'n allweddol er mwyn gwireddu ein cynlluniau.

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

Gwnewch yn siŵr fod gennych strategaeth a gweledigaeth glir ar gyfer eich cwmni a'ch cynnyrch. Gwnewch eich gwaith ymchwil i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth drwyadl o'ch manteision i'ch categori, eich cwsmeriaid a’ch defnyddwyr. Byddwch yn ddigyfaddawd gyda'ch amser a chanolbwyntiwch bob wythnos ar symud y busnes yn ei flaen.

Dechreuwch fasnachu cyn gynted ag y gallwch pan fyddwch ar agor i fusnes, rydych chi'n dod yn fusnes go iawn, ac nid breuddwyd gwrach yw hi yn unig. Profwch eich cysyniad drwy gyfarfod â chwsmeriaid a chyflenwyr cyn gynted ag y gallwch.

Byddwch â modelau a rhagolygon busnes cadarn gwnaethom seilio ein rhai ni ar y senarios gwaethaf posibl i sicrhau bod y busnes yn hyfyw.

Byddwch yn ddewr – peidiwch â gwrando ar yr hyn y mae pobl negyddol yn ei ddweud a pheidiwch ag ofni'r risgiau. Er ei fod yn codi ofn, mae cymryd risgiau hefyd yn rhan o'r hwyl.

Byddwch yn gryf a chydnabod bod cystadleuwyr yn mynd i wneud pethau'n anodd i chi.

Dylech recriwtio a chreu tîm o bobl gydag arddulliau a chryfderau gwahanol – yn fewnol ac yn eich cadwyn gyflenwi.

Dylech gyfarfod a gwrando ar gymaint o ddefnyddwyr ag y gallwch. Ceisiwch werthu iddynt yn bersonol gan nad oes unrhyw un yn fwy angerddol am eich cwmni a'ch cynnyrch na chi.

Mwynhewch y daith bydd hi'n daith anwastad gyda digonedd o droeon yn y ffordd, lonydd tywyll ac eiliadau sy'n codi ofn. Byddwch yn barod i weithio 80 awr yr wythnos am isafswm cyflog. Fodd bynnag, cofiwch eich bod yn creu eich busnes a'ch cynnyrch eich hun ac nid oes unrhyw beth yn fwy cyffrous neu'n cynnig gwell gwobr.

 

Dysgu mwy am Distyllfa Castell Hensol.

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

 

Share this page

Print this page