Mae llawer o bethau o fewn y gwasanaeth iechyd rydym yn eu cymryd yn ganiataol, heb feddwl fawr ddim am yr holl gyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio at sawl diben gan y  meddygon. Un o’r offerynnau pwysig yn yr ymdrech yn erbyn COVID-19 yw’r fisgomedr clinigol.

Er efallai nad ydych wedi clywed amdano, mae fisgomedr clinigol yn mesur pa mor ludiog yw hylifau’r corff, a rhannau o’r gwaed yn benodol megis plasma, serwm a gwaed cyflawn. Mae hyn yn hollbwysig wrth inni ddod i ddeall mwy am COVID-19 oherwydd y ffordd y mae’r feirws yn ymosod ar y corff, gan mai un o’r cymhlethdodau cyffredin i gleifion sydd â’r feirws yw bod eu gwaed yn ceulo.

 

Mae gan gleifion COVID-19 blasma llawer mwy gludiog oherwydd cynnydd yn y protein ceulo ffibrinogen. Mae hyn yn golygu bod mwy o risg y gall clotiau gwaed ffurfio a gallai egluro pam y mae llawer o bobl wedi marw o COVID-19 oherwydd pyliau thrombotig yn hytrach nag anhwylderau ar yr ysgyfaint fel y byddai i’w ddisgwyl gan feirws sy’n heintio’r system anadlu.

Gall y fisgomedr fonitro a chanfod ceulo drwy brofi pa mor drwchus yw hylifau gwaed y claf, a hynny’n ddyddiol yn ddelfrydol. Mae’r cwmni gweithgynhyrchu Benson Viscometers yn Sir Benfro ar flaen y gad o ran creu’r offerynnau hyn.

 

Isod, cawn hanes Benson Viscometers a sut y mae wedi mynd i’r afael â heriau’r pandemig gan Bernie Benson a sefydlodd y cwmni gyda’i wraig, Julie.

 

Rhowch ychydig o hanes Benson Viscometers inni.
Mae hanes y cwmni yn dechrau yn ôl ym 1999 pan gefais her gan ymgynghorydd ysbyty i ddatblygu fisgomedr clinigol awtomatig a fyddai’n cael ei reoli gan gyfrifiadur. Yr her honno sydd wedi arwain at ein sefyllfa heddiw: busnes sy’n datblygu ac yn darparu swyddi medrus yn ein cymuned.

Defnyddiais fy ngallu creadigol a’m gwybodaeth am beirianneg i greu rhywbeth a ragorodd ar ddisgwyliadau ymgynghorwyr. Rwy’n frwdfrydig iawn dros ein gwaith, ac rydym am i’n cynnyrch wella canlyniadau ar gyfer cleifion.

 

Dros ugain mlynedd ers sefydlu Benson Viscometers, rydym bellach yn arwain y farchnad fisgomedrau clinigol, gyda phresenoldeb yn y DU, Iwerddon a’r UDA.  

Mae’r cwmni wedi tyfu llawer dros y blynyddoedd, ac rydym yn parhau i recriwtio a datblygu. Erbyn hyn, rydym yn cyflogi 19 o bobl, ac yn rhagweld y bydd hynny’n cynyddu dros y misoedd nesaf. Rydym yn dîm sy’n gwerthfawrogi pob aelod ohono ac yn falch iawn bod gofalu am ein cwsmeriaid yn hollbwysig i’r holl dîm.

 

Mae COVID-19 wedi rhoi’r cyfle inni ehangu oherwydd bod galw am y cywirdeb y gall y fisgomedr clinigol ei gynnig. Felly rydym ar fin ehangu i safle ychwanegol wrth inni ddiwallu’r angen cynyddol hwn.

Drwy’r pandemig, mae wedi dod i’r amlwg y gallai’r prawf diagnosis cyffredin hwn, y gellir ei gynnal mewn labordy ysbyty, gyfrannu’n fawr at y broses o roi diagnosis, monitro a darparu triniaeth bwrpasol i gleifion COVID-19. Dyma’r rheswm pam, felly, ein bod bellach yn chwarae rhan mor hanfodol wrth i arbenigwyr ddod i ddeall mwy am y feirws.

 

Erbyn hyn mae’r prawf sy’n pennu pa mor ludiog yw plasma, ynghyd â’i fanteision ar gyfer ymchwilio i COVID-19, o ddiddordeb rhyngwladol. Mae ein fisgomedrau clinigol eisoes yn cael eu defnyddio yn yr UDA, ac erbyn hyn, rydym yn cael nifer cynyddol o ymholiadau gan labordai o Ogledd America, gan gynnwys Canada.

 

 

Beth rydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?
Rwy’n falch iawn o nifer o bethau.

Roedd gwerthu’r fisgomedr cwbl awtomatig BV200 yn fasnachol am y tro cyntaf yn garreg filltir enfawr i’r cwmni gan i hynny roi dilysrwydd i’n holl syniadau a’n gwaith caled. 

Carreg filltir arall oedd lansio Baby Benson, fel y’i gelwid wedyn, sef ein fisgomedr rhannol awtomatig BV1.

Hefyd, gosod ein cynnyrch o bell yn yr UDA. Roedd hyn yn ddatblygiad arwyddocaol i weithgynhyrchu yng Nghymru, ac yn rhywbeth sydd wedi’i gydnabod yn fyd-eang.

Ond y prif uchafbwynt, heb os, yw gwybod ein bod yn cyfrannu at lesiant pobl a hynny sy’n ein sbarduno. Mae’n bosibl y gallai’r prawf plasma fod yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Rydym yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb, ond rydym hefyd yn teimlo’n hynod falch o’r hyn a wnawn.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
O wybod y manteision byd-eang sy’n gysylltiedig a phrofi plasma yn y ffordd hon, byddem wedi mynd i mewn i farchnadoedd rhyngwladol yn gynt.

Wrth edrych ar sefyllfa COVID-19 a sylweddoli faint o labordai patholeg drwy’r byd sydd methu manteisio ar fisgomedr clinigol, hoffem weld llawer mwy yn cael ei fuddsoddi yn y maes hwn a mwy o brofion plasma yn cael eu cynnal.

 

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Fe wnaethom gysylltu â Landsker Business Solutions am gymorth i gael cefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru er mwyn parhau i ddatblygu dyfais symudol arloesol sy’n mesur ceulad gwaed.  

Mae’r dadansoddwr yn helpu darparwyr gofal iechyd i benderfynu ar y math o ymyrraeth sydd ei hangen ar glaf er mwyn i’w waed geulo’n normal. Mae hyn yn lleihau’r gwaed sy’n cael ei golli ac yn osgoi trallwyso cynhyrchion gwaed yn ddiangen. Mae’n bosibl ei ddefnyddio mewn amgylcheddau clinigol megis ambiwlansys, ambiwlansys awyr, canolfannau trawma ac mewn sefyllfaoedd milwrol ar y rheng flaen, ac felly bydd yr offeryn yn gweddnewid ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion trawma. Dyma garreg filltir arwyddocaol inni ac i dwf ein gweithrediadau rhyngwladol.

 

Rydym wedi gwneud cynnydd gwych er gwaetha’r hinsawdd heriol sydd ohoni, diolch i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

● Peidiwch ag oedi – dechreuwch arni a gweithiwch bob awr o’r dydd a’r nos.

● Peidiwch â cheisio bod yn rhad a chystadlu â chwmnïau sy’n gweithgynhyrchu ar raddfa fawr. Canolbwyntiwch ar ansawdd a defnyddiwch fodel prisio teg er mwyn bod yn gwmni sy’n darparu gwerth am arian.

● Rhowch y cwsmer yn gyntaf ac yn ganolbwynt i bopeth a wnewch.

 

Dysgu mwy am Benson Viscometers.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page