Mae ein blog sy'n sgwrsio â busnesau sydd wedi cael help a chymorth gennym yn parhau, gan edrych ar Pinnacle Harnesses o Wrecsam y tro hwn.
Sefydlwyd y cwmni gan Phill Harry, ar ôl 33 mlynedd a mwy yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn y diwydiant electroneg lle mae nwyddau’n symud yn sydyn – gan gynnwys ym maes peirianneg a phrynu. Penderfynodd Phill fentro ar ei ben ei hun a daeth Pinnacle Harnesses Ltd i fodolaeth yn fuan yn 2019.
Yma, mae Phill Harry yn rhannu’r hyn y mae wedi’i ddysgu wrth i’w fusnes ddod o hyd i’w draed a datblygu yn y sector.
Dywedwch wrthym am Pinnacle Harnesses.
Fe wnaethom ddechrau masnachu ar 1 Mawrth 2019. Rydym ni’n darparu harneisiau gwifrau trydanol sy'n cael eu cynhyrchu’n bwrpasol ar gyfer cwsmeriaid. Mae ein model busnes yn rhoi pwyslais mawr ar gwsmeriaid – credwn y bydd hyn yn rhoi sylfeini cadarn i’n busnes ac yn ein helpu i lwyddo.
Gyda rhwydwaith o gyflenwyr a chwsmeriaid yn y DU, Ewrop ac Asia, roedden ni’n gallu bwrw iddi'n syth ar ôl cychwyn. Cododd sawl her yn ystod y ddau fis cyntaf o fasnachu, a oedd yn golygu fy mod i’n gweithio “yn y busnes” i raddau helaeth o’r cychwyn.
Roedd yn ddechrau prysur iawn, ac fe wnaeth yr angen am gyfarpar tymhorol dros wyliau'r Pasg arwain at oedi yn ein gwaith “ar y busnes”.
Yn ogystal â hynny, roeddwn i wedi ymrwymo’n llwyr i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a oedd yn golygu diwrnodau hir a gweithio ar y penwythnos er mwyn bodloni fy rhwymedigaethau i gyd. Ond mae hynny i gyd wedi talu ar ei ganfed.
Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
Rydw i'n falch iawn fy mod i wedi cael cefnogaeth cwsmeriaid a chyflenwyr sydd wedi bod gyda fi ers tro. Maen nhw’n fy neall i ac mae ganddyn nhw ffydd yn fy ngallu i gefnogi eu hanghenion busnes.
Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Mewn byd delfrydol, byddwn wedi paratoi holl systemau’r busnes, y wefan ac ati, cyn lansio'r busnes – ond roedd yn rhaid i mi fod yn driw i un o fy ngwerthoedd craidd, sef cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid o’r diwrnod cyntaf un.
Felly, a dweud y gwir, mae’n siŵr na fyddwn i ddim yn newid dim byd oherwydd dyma roddodd y ffocws angenrheidiol i mi – ac roeddwn i’n ddigon lwcus i gael cefnogaeth teulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan gynnwys cefnogaeth gan Hwb Menter Wrecsam Busnes Cymru.
Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Fe wnes i gofrestru ar gyfer Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn Hwb Menter Wrecsam Busnes Cymru – rhaglen wedi’i hariannu'n llawn am 12 wythnos i helpu entrepreneuriaid i ddatblygu eu busnes, drwy fynd i weithdai sy'n rhoi sylw i bob agwedd ar Fusnes a Chyllid.
Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu Pinnacle Harnesses ymhellach gyda chymorth y Rhaglen Cyflymu Twf, a fydd yn ein helpu i dyfu'r busnes gyda golwg ar ddechrau cynhyrchu a storio yn y dyfodol agos.
Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?
● Byddwch yn driw i bobl sydd wedi eich helpu ar hyd y daith, a byddwch yn barod i helpu eraill bob amser.
● Cofiwch siarad â’ch teulu a’ch ffrindiau pan fydd angen cymorth arnoch – fyddan nhw ddim yn eich siomi, ac fe fyddan nhw’n awyddus iawn i’ch gweld chi’n llwyddo.
● Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y cyd-destun y bydd eich busnes yn gweithredu ynddo – cyd-destun fydd yn newid yn gyson – a bod eich model busnes yn ddigon hyblyg i allu addasu i newid.
● Byddwch yn hyderus yn eich gallu a gwnewch yn siŵr bod digon o bobl a fydd yn rhoi cymorth ac adborth gonest i chi o’ch cwmpas.
Dysgu mwy am Pinnacle Harnesses.
Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).