Mae entrepreneuriaeth yn fwy na jest dechrau busnes newydd. Weithiau, mae’n golygu cymryd awenau’r cwmni rydych eisoes yn gweithio ynddo a mynd ag e’ ar daith newydd.  

Un ffordd o ddefnyddio sgiliau ac arbenigeddau cwmni er mwyn gwireddu ei botensial yw trwy i’r gweithwyr eu hunain brynu’r cwmni.  I Vikki Byrne a Lydia Owen, rheolwyr a brynodd OSP Healthcare, roedd hyn yn her a hanner.

Dyma hanes OSP Healthcare gan y partneriaid busnes, gydag esboniad beth sbardunodd nhw i arwain y cwmni i gyfnod newydd.

 

Dywedwch wrthon ni am OSP Healthcare

Lydia: Asiantaeth cyfathrebu meddygol annibynnol a chreadigol yw OSP Healthcare. Mae gennym stiwdio ddylunio, tîm digidol a chriw cynhyrchu, i gyd o dan yr un to.

Cafodd OSP ei sefydlu yng Nghaerdydd ym 1993, gan weithio yn y sectorau gofal iechyd, gwyddorau bywyd, fferylliaeth, dyfeisiau meddygol a biodechnoleg i gynnal prosiectau creadigol ar gyfer rhai o’r brandiau mwyaf adnabyddus yn y byd.

Rydyn ni’n datblygu ac yn cynhyrchu deunydd, digwyddiadau a phrofiadau i helpu cwmnïau a sefydliadau yn y byd iechyd i sbarduno trafodaeth, rhoi gwybodaeth ac annog addysg.  Mae ein gwasanaethau’n cynnwys brandio, ymgyrchoedd, sgrifennu copi, dylunio, gwaith digidol, e-ddysgu, digwyddiadau, arddangosfeydd, profiadau, ffilm ac animeiddio, a chyflwyniadau.

Rydyn ni bellach wedi symud i Gasgwent.  Mae Vikki a finnau wedi arwain ein tîm o saith ers 2015 pan wnaethon ni benderfynu cymryd yr awenau a phrynu’r cwmni, a’r prif gwmni, On Screen Productions, oddi wrth y sylfaenwyr. Roedd yn gam anferth, ac yn un cyffrous iawn, i’r ddwy ohonon ni.   

Mae’n cefndir ni yn y cyfryngau, felly mae gennym lawer o brofiad ac arbenigedd.  

 

Dechreuais fy ngyrfa mewn newyddiaduraeth gan ymuno â thîm cynhyrchu OSP yn 2008 i reoli prosiectau arddangos y cwmni a chryfhau’r tîm sgrifennu copi. Ers hynny, rwyf wedi llunio copi ar gyfer rhai o enwau mwya’r byd yn y maes gofal iechyd a fferylliaeth.   Sdim byd yn gadael swyddfa OSP heb ifi ei gymeradwyo gynta’!

Vikki yw ein cyfarwyddwr creadigol ac mae ganddi gefndir mewn dylunio digidol (ymhell cyn i hwnnw ddod yn enw ar rywbeth!).  Mae’n gyn-ddylunydd gyda’r BBC ac mae hi wedi arwain ein tîm creadigol ers 12 mlynedd, gan ddatblygu prosiectau clir ac effeithiol eu neges trwy sianeli niferus ar gyfer cleientiaid ledled y byd.  Mae’n berson creadigol wrth reddf, fel y dywedai ei hun, a does byth ofn herio’r norm arni.

Mae’r ddwy ohonom yn gweithio’n glos â’n rheolwr busnes, Lisa Rennison, i redeg ac ehangu’r cwmni – ac mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol.  

Ers cymryd OSP drosodd, rydym yn dal i weithio gyda’n hen gleientiaid ond rŷn ni hefyd wedi meithrin perthynas â chwmnïau newydd ac asiantaethau partner.  Rydyn ni wedi canolbwyntio’n arbennig ar ein gwaith dylunio a’n sgiliau sgrifennu copi, ac rydyn ni bellach yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau i ddatblygu brandiau fferyllol ac eraill yn y DU a rhyngwladol nag oeddem ni erioed wedi gweithio â nhw cyn inni brynu’r cwmni.

Mae hi wedi bod yn brofiad ffantastig, sydd wedi’n boddhau a’n bodloni.

 

 

A beth ydych chi fwya’ balch ohono hyd yn hyn?  

Lydia: Gobeithio y gwnawn ni ddigonedd o bethau eraill i fod yn falch ohonyn nhw ond yr eiliad rwy fwyaf prowd ohoni yw pan glywais ein bod wedi ennill ein gwaith arddangos cynta ar ôl treulio 18 mis yn ceisio denu gwaith yn y maes hwn.

Ro’n i ar fy ffordd i gyfarfod a galla’ i gofio’n gwmws ble ro’n i’n sefyll yng nghanol Caerdydd pan ffoniodd y cwsmer i ddweud ein bod wedi ennill y contract i drefnu’r cyntaf o nifer o arddangosfeydd iddyn nhw. Cyn gynted ag y daeth yr alwad i ben, ffoniais y swyddfa – bron â methu siarad – a chasglodd ein rheolwr busnes bawb ynghyd o gwmpas y ffôn i glywed fy newyddion da.  Rwy’n cofio bod yn agos at ddagrau o glywed pawb wedi cynhyrfu gymaint bod ein cydweithio wedi dwyn ffrwyth.  Rŷn ni wir yn gweithio fel tîm yma yn OSP.

Vikki: Rwy’n prowd iawn o’n cwmni ac yn bwysicach, yn prowd iawn o’n tîm, wel, fel arfer!  Mae Lydia a finne’n teimlo’n aruthrol o lwcus bod gennym gasgliad ffyddlon, ymroddedig, diwyd a chreadigol o bobl i weithio gyda nhw.  Mae angen sgiliau pob unigolyn o’r tîm ar y rhan fwya o’n prosiectau, ac wrth weithio gyda’n gilydd fel tîm, rŷn ni’n cynyrchu ein gwaith mwya trawiadol.

Rwy’n falch hefyd ein bod yn asiantaeth ‘bwtîc’ bychan yng Nghymru, sy’n cael ei gomisiynu’n rheolaidd i gynnal prosiectau creadigol ar gyfer cwmnïau mawr o bob cwr o’r byd.   Er enghraifft, rydyn ni newydd greu cyflwyniadau ar ran uwch swyddogion Johnson & Johnson ar gyfer y cwmni cyfan. Mae cael gweithio gyda phobl ar y lefel honno i gwmni mor fawr yn gwneud i ni deimlo’n falch iawn.  Pan maen nhw’n diolch i ni am ein gwaith, rŷn ni’n cael hyd yn oed fwy o hwb.

 

Pe baech chi’n cael dechrau eto, a fyddech chi’n gwneud pethau’n wahanol?

Lydia: O gael yr un cyfle eto, rwy’n credu y bydden ni’n cyflogi un neu ddau o staff mwy profiadol yn syth ar ôl prynu’r cwmni a’u cael i gynnig cyngor ar lefel cyfarwyddwyr i’n cwsmeriaid.  Byddai hynny wedi rhoi lle i Vikki a finne feddwl ble yn strategol y dylai’r busnes fynd nesaf, gan yr o’n i mor brysur yn y dechrau yn rheoli prosiectau o ddydd i ddydd. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n dal am ei dddatrys.

Yn y dyddiau cynnar, collon ni brosiect mawr achos gwnaeth cystadleuydd ei gynnig am bris lawer yn is na ni.  O edrych nôl, dylen ni fod wedi bod lawer fwy hyblyg o ran pris gan y byddai ennill y contract hwn wedi gwarantu llwyth o waith tymor hir i ni.  Byddai wedi lleihau’r pwysau ariannol arnom a hefyd wedi rhoi’r cyfle i ni werthu gwasanaethau eraill i’r un cleient – gan sicrhau hyd yn fwy o werthiant.

 

Vikki: Er ein bod yn arbenigwyr marchnata, mae’n haws o lawer cynnig cyngor i gwsmeriaid nag i edrych ar ein gwaith marchnata ein hunain – mae’r cwsmeriaid wastad yn cael blaenoriaeth. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn dod trwy argymhellion personol, ac er bod manteision i hynny, rwy’n credu y gallwn fod wedi gwneud mwy i hysbysebu’n gwaith trwy On Screen Productions, rhan anfeddygol ein busnes pan gymeron ni’r awenau.

Hefyd, byddwn wedi buddsoddi mwy o amser yn y dechrau yn meithrin perthynas â’r rheini sy’n rheoli’r arian yn adrannau caffael ein cwsmeriaid mwyaf.  Mae’n ddigon rhwydd cael perthynas wych â’r cyfarwyddwr marchnata ond dyw hynny ddim yn help o reidrwydd i gael y cwmni i brynu mwy oddi wrthych.  


 

Sut mae AGP Busnes Cymru yn helpu’ch busnes?
Rydyn ni wedi bod yn aelod o raglen AGP Busnes Cymru ers 2015 a chafodd Joff Pope ei benodi’n rheolwr cysylltiadau i ni.

Mae help a chyngor Joff dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’n un o’n cynghorwyr rwy’n ymddiried yno fwyaf, ac rwy’n aml yn gofyn iddo am ei arweiniad wrth wneud penderfyniadau.

Buodd dau aelod o’n tîm ar gwrs marchnata Busnes Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol yn 2019.  

Rydyn ni wedi bod mewn gweithdy ar sut i reoli tîm, ac wedi cymryd rhan yn sawl un o weminarau AGP Busnes Cymru i helpu rheolwyr busnes ers dechrau’r cyfnod cloi.  

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw fusnes arall sy’n dechrau?

Lydia:  

● Casglwch arbenigwyr o’ch cwmpas.  Mae gennym ychydig o gynghorwyr dibynadwy (gan gynnwys ein Rheolwr Cysylltiadau AGP) sydd â phrofiad a chefndir yn y diwydiant a thu hwnt. Mae’n ddefnyddiol iawn clywed eu barn pan fyddwn yn wynebu sialens nad ydyn ni’n siŵr sut i ddelio â hi.

● Cyflogi am eu hagwedd, hyfforddi ar gyfer eu sgiliau.  Mae yna lawer ffyrdd a modd o hyfforddi a gwella sgiliau’ch tîm er mwyn iddyn nhw all rhagori yn eu gwaith.  Ond yr un peth na allwch ei ddysgu yw agwedd.

● Ewch i’r afael â phroblem nawr.  Rwyf wedi dysgu o brofiad nad yw tindroi ac osgoi gwneud penderfyniad yn beth da.  Felly rwy’n mynd i’r afael â phethau heddi’ yn hytrach na’u gohirio pethau tan fory.

 

Vikki: 

● Byddwch yn ymwybodol o’r ‘Imposter Syndrome’. Mae’r ddwy ohonom yn dioddef o hyn, ac rydyn ni’n gwybod bod hunan-amheuon yn gallu’n llethu os rhown ni hanner cyfle iddyn nhw.  Cofiwch, mae hyder yn hanfodol.  Rhaid inni atgoffa’n hunain o’r gwaith da rydyn ni’n ei wneud, fel unigolion ac fel aelod o dîm. Byddwch yn falch o’ch llwyddiannau ond ...

● Peidiwch â chymryd arnoch chi’ch hun eich bod yn deall rhywbeth pan nad ydych chi.  Mae hi wastad yn well “Ffonia i chi nôl” neu gyfaddef nad ydych yn arbenigwr ar rywbeth na cheisio hanner gwneud rhywbeth!

● Lluniwch set o ddeunydd marchnata rydych yn falch ohono.  Wrth gwrs, dyna fyddech chi’n disgwyl i ni ei ddweud, ond rwy’n grediniol, os oes gennych ddeunydd gwerthu ar gyfer pob gwasanaeth rydych yn ei gynnig, bydd hynny’n arbed amser i chi yn y pen draw – ac yn creu argraff well ar eich cwsmeriaid.

 

 

Dysgu mwy am OSP Healthcare.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page