Mae mwy a mwy o ddefnyddwyr yn chwilio am gwmnïau sy’n cynnig dewisiadau cynaliadwy a moesegol wrth benderfynu beth maen nhw am ei brynu.

Nid yw’r sector harddwch a chynnyrch cosmetig yn ddim gwahanol, ac mae'r farchnad ar gyfer cynnyrch ecogyfeillgar a di-greulondeb yn tyfu’n gyflym.

Mae Sey-Beauté Naturelle yn un cwmni sy’n dechrau ennill lle amlwg yn y sector. Mae’n gwmni cynnyrch cosmetig di-greulondeb, figan ac ecogyfeillgar yng Nghaerdydd.  

Cafodd ei sefydlu gan Meghan Gane a oedd eisiau creu cynnyrch gofal croen o ansawdd uchel a oedd hefyd yn ecogyfeillgar. Yma, mae Meghan yn rhannu ei phrofiad o gychwyn busnes ac mae hi’n gynnig cyngor i entrepreneuriaid newydd eraill.

 

Dywedwch wrthyn ni am Sey-Beauté Naturelle
Wel, a dweud y gwir mae stori fy nghwmni’n dechrau o fy nghyfnod yn y brifysgol! 

Roeddwn i’n astudio eigioneg yn y brifysgol, sy’n rhan hollbwysig o’m stori. 

Mae’r cefndir hwnnw mewn gwyddor môr yn sail i bopeth rwy’n ei wneud – o ran diogelu’r amgylchedd a chreu cynnyrch nad yw’n niweidio’r byd naturiol.

Fe wnes i ddechrau arbrofi gydag olewau a sebonau oherwydd allwn ni ddim dod o hyd i hufen ar gyfer fy nghroen sensitif, sych.

Roeddwn ni’n mireinio’r pethau roeddwn i’n eu creu drwy'r amser ac fe wnes i ddechrau gwerthu hufen croen pan oeddwn i’n astudio ar gyfer fy ngradd meistr. 

Ar ôl graddio, fe wnes i benderfynu fy mod i eisiau troi fy musnes bach yn fusnes amser llawn – busnes sy’n seiliedig ar egwyddorion moesegol a chynaliadwy. Roedd arnaf i eisiau rhedeg cwmni a oedd yn gwneud gwahaniaeth.

Mae fy musnes yn ifanc iawn, ond fe wnes i sylweddoli’n gynnar fy mod i’n gallu manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid fel fi. Fe wnes i gofrestru ar gyfer Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn 2019 a gyda’r cymorth hwnnw fe wnes i ymuno â Chanolfan Arloesi Menter Cymru a dechrau masnachu’n swyddogol.

Mae hynny wedi golygu fy mod wedi symud o’m pencadlys gwreiddiol, sef fy ystafell fyw, i fy labordy fy hun yn y Sustainable Studios yng Nghaerdydd. Ac mae fy nghynnyrch yn cael ei ddanfon i gwsmeriaid ym mhedwar ban byd erbyn hyn.

Dim ond am gyfnod byr rwyf wedi bod yn gwneud hyn, ond rwy’n teimlo mod i’n gwneud gwahaniaeth. Rwyf wrth fy modd yn creu ac yn troi fy syniadau am gynnyrch yn rhywbeth go iawn.

 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
Mae'r diwydiant cynnyrch cosmetig yn un anodd iawn a chystadleuol dros ben. Rwy’n andros o falch mod i’n gwerthu cynnyrch sy’n cael adolygiadau ffantastig ond sydd hefyd yn foesegol, yn ddi-greulondeb ac sy’n ecogyfeillgar. 

Rwy’n gwneud rhywbeth er budd y blaned ac yn cynnig cynnyrch o ansawdd i bobl heb euogrwydd effaith niweidiol ar y byd naturiol.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Mae hi’n ddyddiau cynnar o hyd, ond rwy’n meddwl y byddwn i’n ymchwilio’n fanylach i elfennau cyfreithiol busnes cyn lansio. Mae hi’n anodd penderfynu ai’r peth gorau yw bod yn unig fasnachwr neu’n gwmni cyfyngedig, felly mae hi’n hanfodol cael cyngor da.

Byddwn i hefyd yn ymchwilio pa gyfleoedd ehangach allai fod ar gael yn y farchnad, y tu hwnt i’r rhai cychwynnol amlwg. Ddylech chi ddim diystyru cael yr help a’r cyngor iawn pan fyddwch chi’n cychwyn.
 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae wedi bod yn help mawr i mi gan fy mod i wedi cychwyn y busnes yn syth o’r brifysgol. Roeddwn i wedi chwilio i weld pa gymorth oedd ar gael, ac roeddwn i’n ffodus i gael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru a Rhaglen 50 y Canolfan Arloesi Menter Cymru.

Roedd gweithdai Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn wych o ran yr arweiniad a’r hanfodion roedden nhw’n eu rhoi, ond rwy’n meddwl mai’r cyfleoedd i rwydweithio oedd y fantais fwyaf un.

Roedd y cyfleoedd hyn wedi arwain at gwrdd â phartneriaid a chwsmeriaid posibl. Drwyddi draw, cefais help cwbl hanfodol wrth i mi ddechrau ar fy ngyrfa mewn busnes.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

● Os oes gennych chi syniad, peidiwch â’i gadw i chi’ch hun – ewch allan a rhoi cynnig arni.

● Cofiwch wneud eich gwaith ymchwil, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa fath o gwmni rydych chi eisiau bod, a phwy fydd eich cwsmeriaid.

● Rhowch darged i chi’ch hun a llunio cynllun i’ch helpu i’w gyrraedd.

 

Dysgu mwy am Sey Cosmetics.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page