Mae 25 o gwmnïau, sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, yn ymddangos ar restr BusinessCloud o 50 Cwmni Technoleg gorau Cymru ar gyfer 2020, y nifer mwyaf erioed o gwmnïau o Gymru i ymddangos ar y rhestr.
Lluniwyd y rhestr gan gyfuniad o banel beirniadu annibynnol a mwy na 1,300 o bleidleisiau gan ddarllenwyr.
Ymhlith cleientiaid y rhaglen i ymddangos ar y rhestr y mae Biopaxium Technologies. Mae’r cwmni o Wrecsam, sy’n cynhyrchu dewis amgen i blastigau mewn prydau parod, yn ymddangos ar frig y rhestr o gwmnïau technoleg mwyaf arloesol y wlad.
Busnesau eraill sy’n elwa ar y Rhaglen Cyflymu Twf ac sy’n ymddangos ar y rhestr yw Health and Her , One Team Logic, Paperclip a chwmni arbenigol Delio. Mae tîm Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn falch iawn o weld cymaint o gleientiaid yn cael eu cydnabod am eu harloesedd a’u potensial i dyfu.
Roedd y panel beirniadu yn cynnwys Gino Brancazio, rheolwr ymgysylltu ag entrepreneuriaid Cymru, Tech Nation, Caroline Thompson, Pennaeth Partneriaethau, The Alacrity Foundation, Tom Fox, arweinydd twf technegol, KPMG a Jonathan Symcox, golygydd, BusinessCloud.
Dywedodd Jonathan Symcox:
“Yn BusinessCloud ein nod yw rhoi sylw i gwmnïau o bob maint sy’n gwneud pethau gwych ym maes technoleg. Mae ein rhestr gyntaf o 50 cwmni technoleg gorau Cymru yn hoelio sylw ar yr amrywiaeth eang o dechnolegau sy’n torri tir newydd sy’n cael eu datblygu yn y wlad.
“O gwmnïau sy’n cynnig dewisiadau amgen i blastig i gwmnïau sydd ar flaen y gad ym maes Technoleg Iechyd, Technoleg Cyllid, cwmnïau sy’n arbenigo mewn roboteg a sawl maes arall, mae arloesedd yn amlwg yn fyw yng Nghymru.”
Dyma’r rhestr lawn o gwmnïau, yn eu trefn, sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru sy’n ymddangos ar y rhestr o 50 cwmni technoleg gorau Cymru:
1. BioPaxium Technologies, Wrecsam
2. Rescape Innovation, Caerdydd
5. Health and Her, Caerdydd
6. Signum Health, Caerffili
7. Urban Intelligence, Caerdydd
9. Amplyfi, Caerdydd
13. Hexigone, Baglan
14. miFuture, Pontypridd
15. Delio, Caerdydd
19. Vortex IoT, Abertawe
21. We Build Bots, Caerdydd
24. Kinderly, Casnewydd
25. Awen Collective, Caerffili
31. Intelligent Ultrasound, Caerdydd
32. Weekly10, Wrecsam
33. Paperclip, Caerdydd
34. TenderTec, Caerdydd
35. Creo Medical, Cas-gwent
38. Alpacr, Caerdydd
40. Route Konnect, Caerdydd
43. One Team Logic, Talbot Green
44. Codeherent, Casnewydd
47. Concentric Health, Caerdydd
49. Bond Digital Health, Caerdydd
50. Talkative, Casnewydd
Os hoffech ragor o wybodaeth am y cwmnïau o Gymru sy’n ymddangos ar y rhestr, ewch i https://www.businesscloud.co.uk/wales-tech-50.
Gwybodaeth bellach am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.