Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn llwyddiannus dros ben ers ei dechrau yn 2015, a gwnaeth gyrraedd y garreg filltir bwysig hon wrth i Tiago Szabo, sy’n weithiwr ffatri, ddechrau gweithio ar safle 25,000 troedfedd sgwâr cwmni Hi-Mark yn Wrecsam. Mae’r cwmni’n dylunio ac yn gwneud cynhyrchion ar gyfer y diwydiant modurol.

 

Roedd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn y ffatri i weld faint mae’r cwmni wedi tyfu ac i gwrdd â Tiago. Dywedodd:

"Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wir wedi arwain y ffordd ar gyfer Busnes Cymru, ac mae'n wych gweld ei bod bellach wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am y ffaith bod rhai o'n busnesau bach a chanolig mwyaf uchelgeisiol sydd â'r potensial mwyaf, wedi creu 5,000 o swyddi newydd ledled Cymru. Mae ei hanes llwyddiannus yn dystiolaeth o'r cymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau ac o waith caled ac arbenigedd y tîm yno.

"Ond nid dim ond y twf mae'r rhaglen hon yn ei ysgogi mewn cwmnïau sy'n bwysig, ond hefyd yr effaith y mae'n ei chael yn ei thro ar unigolion ledled Cymru. Mae'n bosibl na fyddai'r 5,000 o swyddi hyn wedi cael eu creu fel arall, ac mae'r ffaith ein bod wedi llwyddo i helpu pobl fel Tiago i gael swydd mewn cwmni sydd â hanes profedig o gyflawni, sy'n edrych i'r dyfodol gyda gweledigaeth a hyder, yn destun balchder imi.

"Mae cynlluniau Hi-Mark i fuddsoddi mewn robotau ac awtomeiddio i ysgogi effeithlonrwydd a rhagor o dwf yn arbennig o gyffrous, a'r swydd hon yw’r drydedd swydd rydyn ni wedi'i chefnogi drwy'r cynllun hwn. Byddwn yn annog busnesau yng Nghymru sydd â dyheadau cryf i dyfu ac ehangu i ystyried a allai'r Rhaglen Cyflymu Twf eu helpu nhw hefyd.

"Roedd yn wych cwrdd â Tiago a'r tîm gweithgar yn Hi-Mark heddiw. Dyw 5,000 o swyddi ddim yn cael eu creu ar chwarae bach, ac, wrth imi edrych ar ddyfodol y rhaglen, rwy'n rhagweld yn hyderus y byddwn ni’n cyrraedd llawer mwy o gerrig milltir yn y dyfodol."

 

5,000 o swyddi wedi cael eu creu bellach gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
5,000 o swyddi wedi cael eu creu bellach gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

 

Mae Hi-Mark wedi bod yn dylunio ac yn gwneud cynhyrchion drwy chwistrellu deunyddiau i mewn i fowldiau ers dros 40 mlynedd. Mae gweithlu'r cwmni o 40 o bobl yn defnyddio technoleg arloesol i wneud cynhyrchion sy'n cael eu defnyddio gan rai o'r cwmnïau modurol mwyaf yn y byd.

 

Ychwanegodd Jack Yates, Rheolwr Cyfarwyddwr Hi-Mark:

"Mae'r cymorth rydyn ni wedi'i dderbyn drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy inni. Gwnaeth y rhaglen ein helpu yn ystod adeg letchwith o drafodaethau â chwsmer mawr, ac o ganlyniad gwnaethon ni sicrhau archeb fawr mae'n bosibl na fydden ni wedi bod mewn sefyllfa i'w hennill fel arall.

"Roedd cael mynediad at arbenigwr gwerthu uchel iawn ei barch yn golygu ein bod yn gallu sefydlu fframwaith newydd ar gyfer y ffordd rydyn ni'n gwerthu ac yn rhwydweithio. Er nad ydyn ni wedi bod yn defnyddio'r ffyrdd newydd hyn o weithio ond am gyfnod byr, mae'r canlyniadau'n siarad drostyn nhw eu hunain.

"Rwyf wrth fy modd mai ni yw'r cwmni sy'n gyfrifol am greu'r 5,000fed swydd – mae ein tîm yn ystyried hyn yn gryn anrhydedd. Mae Tiago yn ymgartrefu yn y tîm yn dda iawn, ac rydym yn hyderus y bydd ein tîm yn parhau i dyfu dros y misoedd nesaf.

"Byddwn yn annog busnesau eraill sy'n chwilio am gymorth i wneud cais i'r rhaglen. Ers ymuno, mae Hi-Mark wedi mynd o nerth i nerth, ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth rydyn ni wedi'i dderbyn."

 

Gwybodaeth bellach am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page