Mae'r rhestr 50 Twf Cyflym, sy'n cael ei gyhoeddi'n flynyddol ers 1999, ac sy'n cael ei baratoi gan yr Athro Dylan Jones-Evans OBE, yn dathlu'r busnesau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Ers 1999 amcangyfrifir bod dros 600 o gwmnïau wedi creu £20 biliwn o drosiant bob blwyddyn, gan greu 40,000 o swyddi.

O'r 50 Twf Cyflym, cafodd 38 o gwmnïau eu cefnogi gan raglen gymorth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Dwi wedi ei wneud yn glir ers amser, os ydyn ni fel Llywodraeth i annog busnesau i gychwyn, datblygu a ffynnu, mae'n rhaid inni yn gyntaf sicrhau bod entrepreneuriaid a BBaChau yn cael mynediad i'r wybodaeth, y cyngor a'r cymorth y maent eu hangen i lwyddo. Nid cystadlu am grantiau na benthyciadau yw hyn bob tro, yn wir, i nifer ohonynt, mae cymorth arbenigol neu gynlluniau busnes, marchnata neu farchnadoedd rhyngwladol yn llawer mwy gwerthfawr.

"Mae'r rhwydwaith cymorth yng Nghymru yn hollol wahanol i'r hyn oedd ychydig flynyddoedd yn ôl. Trwy wahanol fathau o gymorth sy'n cael ei gynnig gan Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a phartneriaid, gan gynnwys Colegau a Phrifysgolion, mae Cymru yn lle gwych i ddatblygu busnes, fel y mae'r amrywiaeth eang o fusnesau ledled Cymru ar y rhestr 50 Twf Cyflym wedi ei ddangos.

"Mae Busnes Cymru wedi cefnogi 24,500 o entrepreneuriaid a busnesau unigol ers dechrau'r rhaglen bresennol ym mis Ebrill 2015. Rhyngddynt, mae'r busnesau hyn wedi creu dros 12,000 o swyddi newydd ac wedi codi £210 miliwn mewn buddsoddiadau. Dwi'n gobeithio gweld y pecyn o gymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru yn parhau i gael effaith bositif ar fusnesau sefydledig, newydd a phosibl yn y dyfodol wrth inni fynd i'r afael â heriau yfory gyda'n gilydd."

Mae'r cwmnïau ar y rhestr o 50 Twf Cyflym sydd wedi derbyn cymorth gan Busnes Cymru yn cynnwys:

ALS Managed Services, a enillodd y Cwmni a Ddatblygodd Gyflymaf yng Nghymru, yn ogystal â dwy wobr arall, ac a ymunodd â rhaglen Twf Cyflym Busnes Cymru yn 2017. Maent yn cynnig gwasanaethau wedi'u rheoli ac atebion recriwtio i gwmnïau gwastraff ac ailgylchu, recriwtio arbenigol a gwasanaethau gwerth ychwanegol i  fwy a mwy o gleientiaid ledled y DU. Rhoddodd Busnes Cymru gymorth i ddod o hyd i eiddo newydd i alluogi parhad busnesau a'r platfform ar gyfer twf mewn swyddfeydd newydd.  Rhoddodd eu cynghorydd arbennig o Busnes Cymru gyngor hefyd ar recriwtio, arweinyddiaeth a datblygu rheoli.

Cwmni arall ar y rhestr 50 Twf Cyflym, cwmni oedd yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru, yw Laserwire Solutions o Bontypridd, a ymunodd â'r cynllun yn 2015.  Maent yn cynhyrchu ystod llawn o beiriannau stripio gwifrau â laser parod ac arbenigol ar gyfer ceblau a gwifrau technegol. Mae Busnes Cymru wedi cynorthwyo Laserwire gyda chyngor ar greu cyllid, ymchwil i'r farchnad, recriwtio ac Adnoddau Dynol, systemau TG, Eiddo Deallusol, marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus.

Ymunodd gwmni arall o raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, Nutrivend hefyd â'r rhaglen yn 2015. Dyma'r cwmni sy'n dosbarthu gwasanaethau gwerthu bwydydd chwaraeon sy'n tyfu gyflymaf, ar gyfer campfeydd, prifysgolion a chanolfannau hamdden ledled y DU, ac maent wedi derbyn cymorth gan Busnes Cymru ar Gysylltiadau Cyhoeddus, strategaeth, gwerthiant a marchnata.

 

Gwybodaeth bellach am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page