Mae un o’r busnesau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, Camilleri Construction, wedi symud i eiddo newydd yng Nghanolfan Fusnes Bae Caerdydd, sydd newydd gael ei hailwampio.

Mae Camilleri yn un o gwmnïau’r Western Mail Fast Growth 50, ac mae ar Raglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru. Roedd ei drosiant yn £4 miliwn eleni, a rhagwelir y bydd hwn yn codi i £10 miliwn mewn tair blynedd, pan ddisgwylir y bydd nifer y staff wedi dyblu i 50. Esboniodd y Cyfarwyddwr Rob Camilleri y rhesymau dros symud i Ganolfan Fusnes Bae Caerdydd, a reolir gan is-gwmni Tata Steel, UK Steel Enterprise. “Mae Canolfan Fusnes Bae Caerdydd newydd gael ei hailwampio ac rydyn ni’n hynod falch o ddod â chleientiaid yma. Mae ansawdd y gwaith a’r cyfleusterau sydd gennym ni wedi creu cryn argraff arnyn nhw. Mae’n atgyfnerthu ein brand.”

Aeth Mr Camilleri ati i bwysleisio pwysigrwydd y lleoliad hefyd. “Mae mynediad gwych yma, ynghyd â chysylltiadau da â gweddill Cymru a’r prif lwybrau i weddill y DU.” Mae’r cwmni wedi cael gofod swyddfa yn Forgeside House, ynghyd â gofod ar gyfer gweithdai. “Mae’n gyfleus iawn bod â dau ofod yn agos at ei gilydd yng Nghanolfan Fusnes Bae Caerdydd. Mae hyn yn gweithio’n dda iawn i’r busnes.” Dechreuodd Camilleri Construction fel cwmni teuluol bach ym 1985. Yn 2012, cymerodd Robert Camilleri yr awenau a newidiodd y model busnes o gyflenwi deunyddiau adeiladu i weithio’n uniongyrchol gyda chwmnïau yswiriant. Talodd y newid ar ei ganfed, gyda’r busnes yn tyfu’n gyflym o dri gweithiwr cyflogedig i fod yn un o’r mentrau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.

 

Camilleri

Mae UK Steel Enterprise wedi gwario bron i £1 miliwn yn ailwampio Canolfan Fusnes Bae Caerdydd, gan uwchraddio eiddo a chyfleusterau. Meddai Rheolwr UKSE yng Nghymru, Glyn Thomas: “Mae Canolfan Fusnes Bae Caerdydd yn hynod boblogaidd gan ein bod ni’n cynnig pob math o ofodau sy’n addas i amrywiaeth o ofynion. Mae cysylltiadau trafnidiaeth a pharcio yn wych, ac mae’r gwasanaeth i denantiaid heb ei ail. Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Camilleri yma, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth iddyn nhw barhau i dyfu.”

Mae Camilleri Construction yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru hefyd, a gynlluniwyd ar gyfer cwmnïau twf uchel sy’n ehangu’n gyflym. Ar hyn o bryd, maent yn derbyn cyngor a chymorth ar wella’r broses fusnes, AD, Ymchwil a Datblygu, credydau treth, cyflogaeth a hyfforddiant, buddsoddi ac ehangu.


Dewch i weld a yw Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn addas i chi.

Share this page

Print this page