Ym mis Mai cyhoeddodd GlobalWelsh fenter newydd drwy ei GlobalWelsh Academy. Gwahoddodd Meet the Makers – dan nawdd Pelican Products, cwmni dylunio a gweithgynhyrchu rhyngwladol –  arweinwyr uchelgeisiol ac arloesol yng Nghymru i gymryd rhan mewn dosbarth meistr ym mhencadlys y cwmni yn Los Angeles, California. Roedd yn bosibl cynnig y rhaglen unigryw hon diolch i bartneriaeth rhwng GlobalWelsh a Pelican Products Incorporated - cwmni blaenllaw o ran dylunio a gweithgynhyrchu casys amddiffynnol perfformiad uchel, deunydd pacio a reolir gan y tymheredd, offer goleuadau a chyfarpar cryf ar gyfer yr awyr agored.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Pennaeth Rolls Royce, Warren East; Pennaeth Sunnybarn Investments, Phil Buck; Pennaeth Pelican, Lyndon Faulker a gafodd ei eni yng Nghymru; a sylfaenydd GlobalWelsh, Walter May. Denodd y rhaglen geisiadau gan arweinwyr busnes ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys manwerthu, gweithgynhyrchu, dylunio a’r diwydiannau creadigol. CYHOEDDI’R ENILLWYR Cafodd ymgeiswyr ‘Meet the Makers’ eu pwyso a’u mesur ar sail nifer o feini prawf gan gynnwys:

Uchelgais
Arloesi
Atyniad byd-eang
Potensial i dyfu
Effaith bosibl / gwerth y cyfle

 


Gan fod nifer uchel iawn o ymgeiswyr gwych, dewisodd y panel saith enillydd, yn lle’r chwech a fwriadwyd. Cysylltwyd â phob un o’r saith enillydd brynhawn dydd Llun drwy alwad ffôn annisgwyl o Los Angeles gan Bennaeth Pelican. Ym mis Medi, bydd y saith enillydd yn treulio wythnos yn cydweithio ag uwch-reolwyr Pelican mewn nifer o feysydd allweddol sydd eu hangen i adeiladu busnes llwyddiannus.

Bydd gan y grŵp gyfle i rannu’u profiadau rhedeg busnes a dysgu oddi wrth y rheini sydd wedi helpu Pelican i ddod yn fusnes llwyddiannus sy’n werth $500 miliwn. Ar ôl rhoi gwybod i’r enillwyr a chadarnhau y byddant yn cymryd rhan yn y rhaglen, gallwn yn awr ddatgelu enwau’r enillwyr, sy’n cynnwys 4 o bobl sydd eisoes yn cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (RhCT), sef:
 

Ben Ryan, Ambionics (Bangor)

Chris Ganje, AMPLYFI (Caerdydd) [RhCT]

Kate Frost, Creo Medical, Ltd (Cas-gwent) [RhCT]

Gareth Burks, Rebel.Aero (Doc Penfro)

Nigel Saunders, Sure Chill (Caerdydd)

Bradley Cummings, Tiny Rebel (Casnewydd) [RhCT]

Rhian Parry, Workplace Worksafe (Rhuthun) [RhCT]

 

 

Y rhaglen hon yw’r fenter gyntaf dan nawdd y GlobalWelsh Academy. Y nod yw darparu cyfleoedd byd-eang, gweithdai, mentoriaid, darlithoedd ysbrydoledig a dosbarthiadau meistr yn uniongyrchol gan aelodau GlobalWelsh a chan y Cymry sydd ar wasgar drwy’r byd. Er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan y GlobalWelsh Academy rhaid ymaelodi â GlobalWelsh (drwy ddod yn aelod cyffredin neu arloeswr).

 

Gan gyhoeddi’r enillwyr, dywedodd Lyndon Faulkner, “Fe gawson ni ymateb gwych i’r ymgyrch. Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn wrth bawb a roddodd o’u hamser i ymgeisio. Bydd yn fraint ac anrhydedd i groesawu’r enillwyr i Los Angeles ym mis Medi a dw i’n edrych ymlaen yn fawr i gyfarfod â nhw a threfnu iddyn nhw gydweithio â’n huwch-reolwyr.


Dywedodd sylfaenydd GlobalWelsh, Walter May, “Mae wedi bod yn bleser sefydlu’r fenter “Meet the Makers” a fydd yn helpu rhai o gwmnïau mwyaf addawol Cymru i ehangu a datblygu. Mae gennym gymaint o bobl ddawnus yng Nghymru sydd â’r arbenigedd a’r awydd i helpu pobl eraill i wireddu’u potensial llawn. Dw i’n dymuno pob llwyddiant i’r enillwyr yn Los Angeles ym mis Medi.

Ochr yn ochr â’r daith hon, mae GlobalWelsh yn cynnig cyfle (a ariennir yn rhannol gan GlobalWelsh) i rwyun sydd â gradd ym maes ffilmiau, neu gwmni bach newydd ym maes y cyfryngau creadigol, ymuno â’r saith enillydd yn y dosbarth meistr yn Los Angeles i ddysgu am hanes y ‘Gŵr o Gasnewydd’ a ddaeth yn bennaeth cwmni byd-eang.  Dysgwch fwy am y cyfle hwn.....


Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

 

 

Share this page

Print this page