Mae Ian Bond, cyd-sylfaenydd Bond Digital Health – cwmni technoleg iechyd yng Nghaerdydd, Cymru sy'n prysur dyfu – yn disgrifio ei brofiadau o gymryd rhan yn Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:
- "Mae gweithio gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod o gymorth amhrisiadwy wrth inni sefydlu ein cwmni.
- "Pan fyddwch chi’n Brif Swyddog Gweithredol cwmni bach newydd, mae angen rhywun i ddweud wrthoch chi eich bod yn anghywir, gan na fydd neb arall yn gwneud hynny.
- "Yn ogystal â'r cyngor gonest hwnnw, roedden ni’n gallu defnyddio adnoddau'r Rhaglen Cyflymu Twf. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn o ran cyngor ar reoli ariannol, marchnata a'r cyfryngau cymdeithasol.
- "Gyda’r Rhaglen Cyflymu Twf roedd sicrwydd gallen ni godi'r ffôn a siarad â rhywun pan oedd angen. Dw i ddim yn credu gallen ni fod wedi gwneud beth rydyn ni wedi'i wneud heb y Rhaglen Cyflymu Twf".
Darllenwch y stori lawn am dwf a llwyddiannau’r entrepreneur Ian Bond ar y wefan BQ Live (Business Quarter)
Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.