Mae gan dechnoleg a ddatblygwyd gan fyfyriwr gradd mewn prifysgol yng Nghymru y potensial i helpu miloedd o gleifion clefyd y siwgr sydd ag wlseri ar eu traed.

 

Roedd David Barton, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Kaydiar, yn astudio meddygaeth podiatreg ym Mhrifysgol Met Caerdydd pan greodd y ddyfais ac y mae bellach wedi cael cefnogaeth cwmni mawr amlwladol. Y gobaith yw y bydd y ddyfais sy'n cael ei rhoi yn esgid y claf, yn helpu degau o filoedd o bobl sydd ag wlseri clefyd y siwgr trwy ysgafnhau'r pwysau ar eu traed. Dywedodd David, sy'n 24 oed, mai dyma "oedd fy mywyd" yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n awyddus iawn i weld y GIG yn defnyddio'r fewnwadn feddygol.

Mae gan ryw 350,000 o bobl yn y DU wlseri ar eu traed oherwydd clefyd y siwgr, cyflwr sy'n gallu golygu gorfod torri traed i ffwrdd. Trwy greu dyfais sy'n gallu helpu i leihau effeithiau wlseri, gall fod yn gaffaeliad i filiynau o bobl ledled y byd. Dyna un o'r rhesymau pam mae David, y datryswr problemau fel mae'n galw ei hun, yn teimlo mor gryf am ei ddyfais. Wrth ddilyn y cwrs, roedd David wedi llunio "ychydig o frasluniau da a dyluniadau da".

Ar ôl datblygu'i syniad, mentrodd ychydig meddai trwy fuddsoddi mewn argraffydd 3D a meddalwedd modelu 3D. Er mwyn arbed costau, aeth yr entrepreneur ifanc i fyw gyda'i rieni gan dreulio'i amser i gyd yn gweithio ar y ddyfais i greu prototeip ymarferol. A dyna pryd y dechreuodd y syniad fagu traed a'i gwneud yn ymarferol sefydlu busnes newydd, Kaydiar. Dywedodd David: "Gwelodd un o ddoctoriaid y brifysgol botensial y prototeip a dyma fi a 'mhartner busnes, Heather, yn dechrau'r busnes. Cawsom help y Ganolfan Entrepreneuriaeth yn y Brifysgol i sefydlu'r busnes trwy ein cysylltu â phob math o gyngor." Dyna lle y dechreuodd David a'i bartner busnes (cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr) Heather Smart, fanteisio ar gyngor a chefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Llywodraeth Cymru, a roddodd yr hwb i ddatblygu'r busnes o'r syniad i'r cynhyrchu.


 

David Barton a Heather Smart o Kaydiar.
David Barton a Heather Smart o Kaydiar.

 

Ym mis Mehefin 2018, cipiodd Kaydair Wobr Dechnegol ESTnet (Rhwydwaith Technolegau Electronig a Meddalwedd Cymru) - gan dynnu sylw buddsoddwyr. "Roedd y wobr yn bwysig inni gan iddi ein cyflwyno i gwmni ddaeth yn bartner â ni a buddsoddi yn ein prosiect," dywedodd David. "Rydyn ni wedi tyfu'n gyflym iawn yn y misoedd diwethaf gan drechu heriau anferth a dysgu llawer iawn. Mae AGP wedi'n helpu yn hynny o beth, gan roi cyngor busnes gwerthfawr iawn i ni ac ysgwyddo costau cyfreithiol." Mae'r ddyfais yn cael ei dylunio a'i chynhyrchu yng Nghymru wrth i'r GIG gynnal asesiad ohoni yn dilyn canlyniadau "rhagorol" y profion yn y brifysgol.

 

Yn wreiddiol o Gaint, daeth rhieni David i Gymru i ymddeol pan oedd yn y brifysgol.  Roedd felly yn gallu symud i mewn atyn nhw a chael gwario'i holl arian ar ei ddyfais. "Roeddwn i'n creu prototeipiau un ar ôl y llall gan ddod â'r cysyniad yn fyw, a sicrhau canlyniadau ardderchog o ran gwasgaru pwysau'r droed. Dw i wedi gweithio ar hyn am ddwy flynedd a hanner heb dâl. Dyma fy mywyd i, a dw i wrth fy modd. Mae fy mhartner busnes, Heather, a finnau wedi adeiladu'r busnes i'r hyn ydyw heddiw. Mae'n tyfu'n gyflym ac rydyn ni'n uchelgeisiol iawn." Mae David yn dweud ei fod yn caru Cymru ac mae e am i'r busnes aros yn y wlad. "Mae'n wlad wych," meddai. "Dw i am aros 'ma."

 

Dywedodd David Notley o'r Excelerator Consortium, sy'n darparu'r Rhaglen Cyflymu Twf (AGP), fod Kaydiar yn enghraifft ardderchog o syniad gafodd ei greu mewn prifysgol yng Nghymru ac sydd â'r potensial i helpu pobl sydd â chyflwr cronig. "Trwy weithio gydag entrepreneur ifanc fel David, rydyn ni'n gweld y math o botensial sydd gennym yma yng Nghymru. Mae pethau wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol, ond mae gan Kaydiar y potensial i arwain y byd yn y maes. Roedd AGP yn gallu helpu yn nyddiau cynnar ei dwf trwy roi cyngor a help gyda'r costau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â dod â syniad fel un David yn fyw. Mae'n amser cyffrous yn hanes Kaydiar ac mae hi wedi bod yn wych cael gweithio gyda'r busnes newydd."


Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page