Mae technoleg arloesol sy’n cael ei datblygu gan gwmni sy’n tyfu’n gyflym yng Nghymru yn cael ei defnyddio i helpu i wneud cynnyrch manwl gywir sy’n ceisio achub bywydau – ac mae’r cwmni wedi ennill Gwobr y Frenhines am Arloesi i gydnabod ei waith.

Mae Laser Wire Solutions, yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest Rhondda Cynon Taf, yn datblygu technoleg arloesol ar gyfer stripio a chysylltu gwifrau gwerth uchel arbenigol – a ddefnyddir gan fwyaf i weithgynhyrchu dyfeisiau meddygol. Mae’r cwmni’n cyflogi 30 yn ei ganolfan ym Mhontypridd a chafodd ei sefydlu saith mlynedd yn ôl. Yn 2017 lansiodd beiriant laser newydd ar gyfer gweithgynhyrchwyr dyfeisiau meddygol. Mae’r peiriant yn gallu stripio’r araenau enamel caled oddi ar y gwifrau microsgopig a ddefnyddir mewn cathetrau i agor rhydwelïau sydd wedi cau, gwasgaru clotiau gwaed, rheoleiddio afreoleidd-dra'r galon, yn ogystal â gwifrau sensitif eraill sydd mewn mewnblaniadau yn y cochlea, dyfeisiau cymorth clyw a cheblau uwchsain.

Roedd
Laser Wire Solutions wedi datblygu ei beiriant stripio gwifrau gyda laser, Odyssey-4, i ymateb i angen y diwydiant meddygol am ddyfeisiau a oedd yn llai ac yn llai ac yn fwy cywir. Mae’r dechnoleg yn golygu ei bod hi’n bosibl rhoi diagnosis a thriniaeth well i bobl sydd yn aml â chlefydau a salwch critigol ac sy’n rhoi eu bywyd mewn perygl. Cyn lansio system stripio gwifrau Odyssey-4 Laser Wire Solutions, roedd yn rhaid i weithgynhyrchwyr dyfeisiau meddygol grafu inswleiddiad y gwifrau i ffwrdd gyda llafn rasel gan edrych ar y gwifrau drwy ficrosgop – proses a oedd yn dibynnu’n llwyr ar sgiliau'r technegydd. Gallai gwifrau a oedd wedi cael eu stripio’n wael olygu nad oeddent yn gweithio pan fyddent yn cael eu defnyddio, a oedd yn rhoi iechyd y claf mewn perygl ac yn rhoi enw da’r gweithgynhyrchwr yn y fantol. Ar y gorau byddai’n golygu methiant wrth brofi – gan arwain at sgrap drud iawn, gyda rhai cathetrau yn werth dros £10,000.
 
Mae Busnes Cymru wedi cefnogi gwaith Laser Wire Solutions i arloesi ac i dyfu, drwy adnabod potensial y cwmni a'i roi ar y Rhaglen Cyflymu Twf yn 2015. Mae hyn wedi helpu Laser Wire Solutions i allforio dros £1m yn fwy mewn blwyddyn. Dywedodd Ms Apoussidis: “Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn bwysig i Laser Wire Solutions o ran cefnogi twf byd-eang parhaus y cwmni. Mae wedi golygu bod y cwmni wedi gallu cael gafael ar gyllid, gwasanaethau ymgynghori ar amrywiaeth o bynciau o strategaeth, eiddo deallusol ac allforio i werthu a marchnata.”

Dywedodd Carmen Gahan o’r Rhaglen Cyflymu Twf: “Mae Gwobr y Frenhines yn cydnabod gwaith neilltuol ac arloesol Laser Wire Solutions.

“Drwy weithio gyda’r Rhaglen Cyflymu Twf, mae’r cwmni wedi gallu allforio ac ehangu dramor. Mae helpu cwmnïau fel Laser Wire Solutions yn rhoi busnesau Cymru ar y blaen mewn marchnadoedd rhyngwladol. Mae gan Laser Wire Solutions ddyfodol cyffrous o’i flaen ac rydyn ni’n gobeithio parhau i helpu i’w annog i dyfu.”

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page