Mae Rototherm Group, sydd fel arfer yn gweithgynhyrchu offerynnau mesur megis mesuryddion pwysedd a thymheredd, wedi dechrau gwneud y feisorau meddygol mewn ymdrech i sicrhau bod gan y GIG ddigon o gyfarpar diogelu hanfodol. Mae’r cwmni sy’n cyflogi ychydig dros 100 o bobl yn ei ffatri yn Ystad Ddiwydiannol Cynffig ger Margam, wedi dweud bod ganddo ddigon o ddeunydd i gynhyrchu dros 1,500,000 o amddiffynwyr wyneb.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Rototherm, Oliver Conger:

“Mewn cyfnod byr, rydym wedi dylunio’r cynnyrch, ac mae wedi’i brofi a’i gymeradwyo’n annibynnol gan BSI i’w ddefnyddio gan y GIG, yn ogystal ag ad-drefnu ein cyfleuster i gynhyrchu llawer iawn ohono; llwyddiant gwych gan dîm Rototherm.”

Roedd y cwmni wedi dechrau gwneud feisorau ddechrau mis Ebrill ac mae wedi cynyddu cynhyrchiant yn sylweddol mewn cyfnod byr, gan weithgynhyrchu 65,000 o unedau’r wythnos gyda chynlluniau i gynyddu hynny i fwy na 100,000+ yr wythnos dros yr wythnosau nesaf. Dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r busnes wedi recriwtio 36 person ychwanegol i helpu gyda’r gwaith cynhyrchu. Mae’r amddiffynwyr wyneb wedi’u hardystio gan BSI ac maent wedi cael nod CE hefyd. 

 

 

Mae’r cwmni wedi cael cymorth gan y Rhaglen Cyflymu Twf ers mis Hydref 2015.

 

Dywedodd Richard Morris o’r Rhaglen Cyflymu Twf: 

 “Mae Rototherm yn fusnes sydd ar flaen y gad yn ei sector ac mae’r ffordd y mae wedi newid ei weithrediadau bron dros nos i ddatblygu a chynhyrchu cyfarpar meddygol hanfodol i’r GIG wedi gwneud cryn dipyn o argraff arnom. Bydd y cyfarpar hwn yn diogelu llawer o bobl.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rototherm, Tarkan Conger:
“Mae cefnogi’r gadwyn gyflenwi leol yn rhan fawr o DNA Rototherm ac rydym yn ffodus i gael cymaint o fusnesau gwych o Gymru yn ein cefnogi mewn ffyrdd amrywiol o gyflenwi deunyddiau i wasanaethau arbenigol eraill sydd wedi ein galluogi i gynyddu mwy mor gyflym”.

Mae Rototherm wedi cael galwadau am ei feisorau o bedwar ban byd ond mae’n canolbwyntio ar gyflenwi’r GIG a’r cymunedau gofal iechyd yn y DU. Mae’r busnes hefyd wedi creu gwefan www.face-shield.co.uk.

 

Gyda threftadaeth sy’n dyddio nôl i’r 1840au, mae Rototherm Group yn weithgynhyrchwr sydd ar flaen y gad yn fyd-eang o ran datrysiadau mesur ar gyfer tymheredd, pwysedd, crynodiad hylif, carbon deuocsid toddedig a llif. Yn ogystal â’i Bencadlys ym Margam, mae gan Rototherm gyfleuster gweithgynhyrchu ychwanegol yn Southport ynghyd â swyddfeydd yn Edinburgh, Teeside, Dulyn a Texas.

Mae Rototherm wedi tyfu a datblygu ei enw da o fewn y diwydiannau Ynni, Diodydd, LPG, cynhyrchion fferyllol, dŵr, trafnidiaeth ac amddiffyn. 

 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page