Cafodd saith o gwmnïau ar Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru fod yn destun clod yn ddiweddar yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru.
Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi ar 20 Medi mewn seremoni anffurfiol yn y DEPOT yng Nghaerdydd, busnes newydd sy'n gwerthu bwyd stryd a chwrw crefft gan fentrau o Gymru.
Ymhlith yr enillwyr y mae'r cwmni papur moethus Sadler Jones, yr arbenigwr mewn dylunio coesau prosthetig Limb-Art a The Good Wash Company, y brand deunydd ymolchi moethus newydd sy'n gobeithio newid y byd, 'un ymolchiad ar y tro'.
Mae tîm AGP Busnes Cymru yn hynod falch gweld cymaint o'u cleientiaid yn cael eu canmol am eu harloesedd, eu hymroddiad a'u gwaith caled.
Dywedodd sylfaenydd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru, yr Athro Dylan Jones-Evans OBE:
"Busnesau newydd yw hanfod pob economi sy'n tyfu. Maen nhw'n creu arloesedd a bwrlwm ac yn bwysicach na dim, yn creu swyddi mewn cymunedau. Gan fod ymchwil yn dangos mai busnesau newydd sy'n creu mwyafrif y swyddi mewn unrhyw economi, maen nhw'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i ffyniant pob rhan o'r wlad.
"Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod llwyddiannau entrepreneuriaid sydd wedi gweld cyfle ac wedi mentro i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd. Nhw yw arwyr eu cymunedau busnes, ond yn aml heb y clod haeddiannol.
Dyma restr lawn y cwmnïau buddugol sydd ar Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:
Sadler Jones – Busnes Creadigol Newydd
Signum Health – Busnes Digidol Newydd
SmallSpark Space Systems – Busnes Newydd gan Raddedigion
Hexigone Inhibitors – Busnes Arloesol Newydd
Limb-Art – Busnes Gweithgynhyrchu Newydd
The Good Wash Company – Menter Gymdeithasol Newydd
miFuture Group – Busnes Newydd yn y Cymoedd
Am ragor o wybodaeth, ewch i Wales StartUp 2019 Awards Winners.
Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu TwfBusnes Cymru.