Mae saith o fusnesau yn cymryd rhan yn Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cyrraedd rhestr o 100 o gwmnïau newydd llwyddiannus ym Mhrydain.
Mae #PowerUp Index newydd Natwest yn dathlu rhai o'r busnesau gorau mwyaf llwyddiannus sy'n cymryd rhan yn eu rhaglen Sbarduno Entrepreneuriaeth. Gwnaethpwyd yr asesiad o gwmnïau newydd sydd o fewn 12 o hybiau sbarduno entrepreneuriaid Natwest ledled y DU, sy'n cynnig mentora a hyfforddi wedi'i ariannu'n llawn i entrepreneuriaid sydd am ddatblygu eu busnesau.
Caiff cwmnïau eu gosod yn ôl eu perfformiad ariannol, eu twf a'u gallu i fuddsoddi, yn ogystal â bwriad eu sylfaenwyr o ran twf y busnes. O'r deg o fusnesau o Gymru sydd ar y rhestr, mae saith ohonynt yn cymryd rhan yn Rhaglen Cyflymu Twf Cymru.
Y cwmni o Gymru sydd yn y safle uchaf, ar yr 11eg safle, yw Alpacr, platfform rhwydweithio cymdeithasol i deithwyr. Cafodd y cwmni, o hwb NatWest yng Nghaerdydd, ei lansio yn 2017 gan Dan Swygart o Landegla yn Sir Ddinbych.
Cwmnïau eraill ar y rhestr oedd:
- IVAT – Meddalwedd cyfrifyddiaeth-fel-gwasanaeth
- Brushbox – Gwasanaeth tanysgrifio brwsus dannedd cynaliadwy
- Paperclip – Marchnad ar-lein ar gyfer myfyrwyr Prifysgol
- F&W Insights Ltd – Y cwmni y tu ôl i Keg Tracker™, y ddyfais gyntaf i'r farchnad yn Y Rhyngrwyd Pethau sy'n troi cynwysyddion cwrw yn gynwysyddion SMART ar unwaith.
- Sports Injury Fix – Chwiliwr ar gyfer therapyddion i gysylltu ag anafiadau chwaraeon
- Rhizome Live – Arbenigwr meddalwedd hyfforddi ar-lein
Mae tîm Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn falch o weld y cwmnïau newydd cyffrous hyn ar restr #PowerUp. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi eu twf a'u llwyddiant parhaus.
Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.