Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Sam Gibson - Rheolwr Gyfarwyddwr Enjovia. Cyn sefydlu Enjovia roedd Sam yn rhan o dîm rheoli’r Alacrity Foundation, Elusen Entrepreneuraidd a sefydlwyd fel mater o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a nifer o ddyngarwyr preifat gan gynnwys Syr Terry Matthews. Graddiodd Sam o Brifysgol Abertawe gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Rheoli Busnes ac mae’n byw gyda’i wraig a’i blentyn yng Nghaerffili. Mae Enjovia yn gwmni technoleg o Gymru sy’n gweithredu o Gasnewydd. Mae’n darparu system talebau...
Case Study: Vaayu
Mae Vaayu yn arbenigo mewn caffael, darparu a chyflenwi deunydd y mae modd ei ail-ddefnyddio (USM) ar gyfer cwmnïau awyrennau a chwmnïau cynnal a thrwsio awyrennau. Mae defnyddio USM yn caniatáu i'n cwsmeriaid leihau eu costau a sicrhau cymaint o arbedion â phosib. Rydym yn darparu deunydd gyda'r holl dystysgrifau priodol, wedi'u trwsio gan weithwyr proffesiynol mewn cyfleusterau o safon uchel. Mae gan ein tîm dros 100 mlynedd o brofiad cyfun o gyflenwi USM o...
Astudiaeth Achos: Lower My Charges
Mae Ian yn weithiwr proffesiynol creadigol ac arloesol sydd wedi ennill sawl gwobr ac sydd â phrofiad ymarferol o ddosbarthu ar-lein ond hefyd yn arloesi ym maes dosbarthu cyngor ariannol o bell drwy fod wedi creu a datblygu platfform arloesol ar gyfer Cyngor o Bell sydd wedi ennill gwobrau. Enw'r cwmni yw Lower My Charges.com ac mae wedi'i sefydlu gan Ian a Peter Deane, arbenigwr Marchnata sydd wedi ennill sawl gwobr. Fel y mae'r enw'n...
Astudiaeth Achos: NearMeNow
Cefndir y Busnes : Ap yw NearMeNow sy'n dod â busnesau lleol at ei gilydd mewn un lle ar-lein: Mae'n gwthio hysbysebu blaen siop y tu hwnt i'r ffiniau traddodiadol i ddwylo defnyddwyr ffonau clyfar yn y gymuned leol, boed hwy gartref, yn y swyddfa neu mewn siop goffi gerllaw. Mae'n helpu cwsmeriaid i wneud y penderfyniad o ble i siopa cyn gadael gartref a sicrhau bod y rhai sydd eisoes ar y stryd fawr...
Astudiaeth Achos: Do-IT Solutions
Cefndir y Busnes: Yr Athro Amanda Kirby (y Prif Swyddog Gweithredol) a Dr Ian Smythe (y Prif Swyddog Gweithredu) a sefydlodd DoIT Solutions. Mae Amanda yn dod o gefndir clinigol ac academaidd fel meddyg a niwrowyddonydd. Amanda sy'n rheoli'r cwmni ac sy'n arwain ar werthu a chyfathrebu. Ian sy'n arwain o ran datblygiad technegol. Mae gan yr entrepreneuriaid hyn dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes anawsterau dysgu ac maent wedi cael cydnabyddiaeth...
One Team Logic
Cefndir y Busnes Martin Baker QPM yw Rheolwr Gyfarwyddwr One Team Logic, busnes o Donysguboriau sydd wedi ennill sawl gwobr. Ers sefydlu’r cwmni yn 2014, mae One Team Logic wedi tyfu'n gyflym gan greu dros 70 o swyddi ledled y DU ac mae bron 40 ohonynt wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae ei feddalwedd ddiogelu ddibynadwy, MyConcern, yn cael ei defnyddio gan ysgolion, colegau a sefydliadau eraill yn y DU ac ar draws y byd. Mae'n...
Camau breision yn erbyn braster
Gallai mwydion afalau atal pobl rhag mynd yn ordew yn ôl Pennotec, cwmni technoleg sy’n arloesi ym maes bwydydd y dyfodol. Mae ei ddull o droi gwastraff ffrwyth yn sylwedd a all gymryd lle braster a siwgr mewn bwydydd wedi denu buddsoddiad £350,000 gan y Llywodraeth. Mae’r cwmni wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ac mae’n arwain y ffordd drwy ddatblygu cynhyrchion sy’n gweithredu fel braster, a hynny o fwydion afalau, gweddillion...
Cwmni technoleg gwybodaeth yn Llandudno yn tyfu’n gyflym ar ôl cael ei achub
Mae cwmni technoleg gwybodaeth blaenllaw wrth ei fodd ar ôl i’w weithlu a’i drosiant gynyddu bob blwyddyn ers iddo gael ei brynu. Mae disgwyl hefyd i bethau barhau i wella gan fod Risc IT Solutions yn Llandudno am recriwtio tri aelod newydd o staff a phrynu cwmni arall er mwyn ehangu’n bellach yn y Deyrnas Unedig. Gan siarad yn Church Walks, pencadlys godidog y cwmni, dywedodd pennaeth y cwmni, Jeremy Keane, fod y cwmni, sy’n...
Entrepreneur tybiau twym yn ennill gwobr fusnes fyd-eang
Mae dyn busnes wedi ennill gwobr fusnes fyd-eang uchel ei pharch. Rhoddwyd gwobr Entrepreneur Rhagorol i Gareth Jones, sylfaenydd UK Leisure Living, yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Busnes Byd-eang 2018. Cafodd Mr Jones, ag iddo gwmnïau yng Nghonwy a Chaer, ei wobrwyo am fod yn entrepreneur llwyddiannus dros y chwe blynedd ddiwethaf. Dywedodd y beirniaid: “Mae Gareth Jones yn entrepreneur sydd wrthi’n ddi-baid yn gweithio ar syniadau newydd. Ers ennill y teitl Cyfarwyddwr Ifanc y Flwyddyn...
Mae dau allan o’r tri enillydd yn nigwyddiad Pitch@Palace ar y Rhaglen Cyflymu Twf
Wedi rownd o gyflwyno eu syniadau, cafodd tri o enillwyr eu cyhoeddi gan Ddug Efrog, wedi eu dewis gan y beirniaid, gan gynnwys Alumni Pitch @Palace, ac wedi ystyried pledleisiau’r gynulleidfa. Cafodd Pitch @Palace ei sylfaenu gan Ddug Efrog yn 2014, fel platfform i ddatblygu ac ysgogi gwaith entrepreneuriaid ledled y DU. Mae’r rhaglen yn cysylltu entrepreneuriaid a busnesau newydd gyda chefnogwyr posibl, gan gynnwys Prif Swyddogion Gweithredol, dylanwadwyr, buddsoddwyr, mentoriaid a phartneriaid busnes. O’r...