RHAGLEN CYFLYMU TWF

ar gyfer cwmnïau sy'n ehangu'n gyflym

Mae Rhaglen Cyflymu Twf (RhCT) Busnes Cymru

yn cynnig cymorth unigol i fusnesau twf uchel,

busnesau cyn-refeniw a Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau).

Rhaglen Cyflymu Twf baner
Growth Chart

Mae’n cael ei ddarparu gan dîm o entrepreneuriaid profiadol iawn sydd ag enw am gyflawni twf uchel, yn seiliedig ar yr egwyddor mai’r bobl orau i gynghori entrepreneuriaid yw entrepreneuriaid.

Anelir y rhaglen at fusnesau twf uchel sy’n awyddus i symud ymlaen i'w cam twf nesaf ac sy’n meddu ar y potensial a’r penderfyniad i’w gyrraedd.


A oes gennych chi un o'r problemau busnes hyn?

  • Dysgwch sut mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn helpu arweinwyr busnes yng Nghymru i gymryd y cam a llwyddo i ehangu'n gyflym. Rydych yn ymrwymedig i dyfu eich busnes yn fwyfwy cyflym ond mae angen cymorth arbenigol arnoch er mwyn lleihau'r risgiau a goresgyn rhwystrau.
  • Rydych yn ymrwymedig i dyfu eich busnes yn fwyfwy cyflym ond mae angen cymorth arbenigol arnoch er mwyn lleihau'r risgiau a goresgyn rhwystrau.
  • Rydych yn derbyn na fydd y tîm, o reidrwydd, yn sicrhau llwyddiant i chi.
Rhaglen Cyflymu Twf
Rhaglen Cyflymu Twf

Beth yw'r Rhaglen Cyflymu Twf a sut y gall helpu eich busnes?

Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn rhan o'r gwasanaethau cymorth y mae Busnes Cymru yn eu darparu i Entrepreneuriaid a BBaChau ar ran Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw cefnogi a datblygu Busnesau Newydd a BBaChau yng Nghymru sydd â dyheadau a photensial o ran twf uchel.

Beth yw'r Rhaglen Cyflymu Twf baner